Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 26 Mawrth ysgrifennais at Aelodau’r Cynulliad, ASau, Arweinwyr Cynghorau a Chadeiryddion Byrddau Iechyd i roi gwybod iddynt am y sefyllfa ddiweddaraf o ran yr achosion hyn. Ers hynny, mae adroddiadau am achosion o’r frech goch ledled Cymru yn dal i’n cyrraedd, a’r mwyafrif o’r rheini yn ardaloedd Byrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda. Ar 11 Ebrill, cofnodwyd 693 o achosion gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ardal Abertawe. Gyda nifer yr achosion yn dal i gynyddu’n ddyddiol, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn bryderus ac yn ymwybodol nad yw’r achosion eto wedi cyrraedd uchafbwynt. Yn wir, gallwn ddisgwyl y bydd yr achosion yn parhau i ddigwydd am sawl wythnos arall. Yr unig ffordd i’w hatal yw sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael y brechlyn MMR i’w hamddiffyn eu hunain, eu plant, aelodau o’r teulu ac eraill yn y gymuned nad ydynt wedi’u hamddiffyn am amryw resymau. Bydd cynyddu lefelau imiwneiddio drwy frechiad MMR yn amddiffyn y gymuned rhag clefyd sydd â’r potensial i fod yn beryglus ond yn glefyd y mae modd ei osgoi.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Byrddau Iechyd. Rydym yn monitro cynnydd yr achosion yn ddyddiol. Mae’r camau gweithredu sy’n ymateb i’r achosion hyn wedi rhoi ystyriaeth i ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac i wersi a ddysgwyd o achosion blaenorol o’r frech goch yng Nghymru a mannau eraill.
Rydym wrthi’n gweithio (ynghyd â’r cyfryngau) i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd brechiad MMR ac yn ailddatgan y camau y gall pobl eu cymryd i helpu eu hunain ac eraill. Bydd y Cynulliad yn ymwybodol o’r ymdrechion ar hyn o bryd i roi brechiadau mewn Gofal Sylfaenol a’r clinigau imiwneiddio cymunedol sydd wedi llwyddo i roi nifer sylweddol o frechiadau, yn arbennig yn ardal Abertawe ac yn fwy diweddar yng Nghaerdydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto am yr holl waith caled a wnaed hyd yn hyn ac sydd wedi rhoi cyfle unigryw i ail-greu cysylltiad â rhieni plant hŷn nad oeddent o bosibl wedi cael eu brechu’n flaenorol.
Er mwyn adeiladu ar hyn, mae’r cyhoeddiadau diweddar yn y cyfryngau wedi canolbwyntio ar yr angen i blant hŷn o oedran ysgol fynd i gael eu brechu os ydynt wedi methu’r brechiadau, yn ogystal â phlant iau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu data ar gyfer pob ardal Bwrdd Iechyd yn rhoi manylion am y brechiadau MMR sy’n galluogi’r Byrddau i nodi pa ysgolion i’w targedu ar gyfer unrhyw raglenni imiwneiddio mewn ysgolion. Mae’r holl Fyrddau Iechyd ar draws Cymru wrthi’n datblygu cynlluniau i frechu plant sydd heb gael eu hamddiffyn ac yn sicrhau bod imiwneiddio yn cael ei weithredu’n gyflym mewn ysgolion i ymateb i’r achosion hyn.
Yn yr ardal lle gwelwyd y rhan fwyaf o achosion, mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn bwriadu cychwyn ar sesiynau brechu mewn ysgolion yn union ar ôl gwyliau’r Pasg, gan dargedu ysgolion yn yr ardal sydd â’r lefelau isaf o amddiffyniad yn y lle cyntaf. Bydd Byrddau Iechyd eraill hefyd yn cynnig clinigau dal i fyny mewn ysgolion gan dargedu ysgolion lle mae nifer y disgyblion sy’n cael y brechlyn yn isel.
Er mwyn hybu’r nifer sy’n manteisio ar y brechiad MMR yn yr ardaloedd hyn, cynhaliwyd sesiynau arbennig eto dros y penwythnos mewn pedwar ysbyty. Rhoddwyd tua 1,750
o frechiadau. Mae hyn yn adeiladu ar sesiynau’r wythnos flaenorol pan roddwyd dros 1,700 o frechiadau. Mae’n galonogol fod rhieni’n dal i ddod â’u plant i gael eu brechu ond mae angen i’r nifer fod yn uwch er mwyn sicrhau bod yr achosion dan reolaeth.
Amcangyfrifir fod tua 5,000 o blant yn dal mewn perygl o’r frech goch yn ardal Abertawe yn unig. Felly rwy’n rhagweld y bydd nifer yr achosion yn parhau i godi yn ystod yr wythnosau nesaf hyd nes y bydd lefelau’r brechiadau MMR yn cyrraedd lefelau sy’n mynd i ymyrryd ar gylchrediad parhaus y frech goch yn y gymuned.
Mae’n bwysig inni gyd gofio nad salwch dibwys yw’r frech goch. Mewn lleiafrif o achosion, gall arwain at gymhlethdodau difrifol a gall achosi marwolaeth. Yn anffodus, po fwyaf y mae’r afiechyd yn parhau i ymledu, po fwyaf tebygol y gwelwn ni’r canlyniadau hyn. Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac yn dod â’r achosion dan reolaeth.
Yr achos cyfredol o’r frech goch yng Nghymru yw un o’r mwyaf yn y DU ers dros ddegawd. Mae’n atgyfnerthu ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynyddu’r nifer sy’n cael brechiadau MMR. Yr unig ffordd o atal achosion yn y dyfodol yw sicrhau bod o leiaf 95% o blant Cymru yn cael dau ddos o’r brechlyn MMR. Mae cyfraddau’r rhai sydd wedi manteisio ar y brechiad MMR yn ddiweddar yng Nghymru yn gadarnhaol ac yn dal i ddangos tueddiad i gynyddu. Yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (adroddiad COVER Chwarter 4, 2012) mae nifer y rhai sydd wedi cael y dos cyntaf o’r MMR yng Nghymru gyfan bellach yn 94.3% yn ddwy flwydd oed. Mae cynnydd wedi bod hefyd yn nifer y plant sydd wedi cael yr ail ddos yn bump oed, a hynny i 89.9%. Er bod mwy o fabanod yn cael y brechlyn erbyn hyn, rhaid canolbwyntio ymdrechion ar y plant hynny a fethodd y brechiad am ba reswm bynnag yn y gorffennol, fel eu bod yn cael cynnig brechiadau dal i fyny er mwyn darparu’r amddiffyniad gorau posibl i’r gymuned gyfan
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw imiwneiddio er mwyn atal clefydau. Yn gynwysedig yn Fframwaith Cyflenwi diwygiedig y GIG y mae’r mesur ataliol “Imiwneiddio - y gyfradd darged i blant dan bedair oed 95%”. Mae hyn yn berthnasol i’r holl frechlynnau ar gyfer plant, gan gynnwys yr MMR, a gyflenwir drwy raglenni cenedlaethol.
Bydd Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Byrddau Iechyd yn parhau i gymryd yr holl gamau angenrheidiol a phriodol i leihau effaith yr achosion cyn belled â phosibl. Mae’n bwysig ein bod ni oll yn achub ar bob cyfle i ategu pwysigrwydd (a diogelwch) y brechiad MMR. Yn olaf, hoffwn gymryd y cyfle hwn i apelio ar rieni ac annog pobl i gysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud yn siŵr fod eu plant yn cael eu brechu. Drwy wneud hyn gallwn amddiffyn ein plant rhag y salwch hwn y gellir ei atal yn hawdd.