Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ysgrifennais atoch ar 16 Ebrill i amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd yng Nghymru mewn ymateb i’r achos presennol o’r frech goch yn ardal Abertawe. Hoffwn roi’r diweddaraf i chi ar y sefyllfa ddiweddaraf.
O ddechrau’r achos ym mis Tachwedd 2012 hyd at 16 Mai 2013, mae 1,105 o achosion wedi’u nodi yn yr ardal, gyda 1,292 o achosion ledled Cymru. Cafwyd 87 o achosion o gyfnodau yn yr ysbyty.
Yr awgrym yw bod nifer yr achosion yn ardal Abertawe yn arafu, ac efallai bod sail dros rywfaint o optimistiaeth ynghylch nifer yr achosion yn yr ardal hon dros yr wythnosau i ddod. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i ddweud bod yr achos ar ben, gan fod cyfran sylweddol o bobl ym mhob rhan o Gymru a allai gael y clefyd o hyd. Mae pryder penodol ynghylch ardal Gwent lle mae dros 100 o achosion wedi’u nodi ers mis Tachwedd ac mae’r niferoedd sydd wedi cael y brechlyn yn y grŵp oedran sy’n dioddef fwyaf, sef 10 i 18 oed, yn rhy isel o hyd i atal achosion yn y dyfodol.
Mae Byrddau Iechyd Lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru felly’n parhau i gydweithio i gynnal ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r brechlyn MMR a chynnig cyfleoedd i gael y brechlyn. Mae’r ymateb wedi bod yn galonogol iawn hyd yn hyn, gyda mwy na 52,000 o frechiadau MMR oedd heb eu trefnu yn cael eu rhoi ledled Cymru ers mis Mawrth 2013. Mae pobl wedi cael y brechiadau hyn mewn amryw leoliadau, gan gynnwys meddygfeydd teulu, clinigau galw heibio yn y gymuned ac ysgolion. Mae’r rhaglen mewn ysgolion wedi’i rhoi ar waith ledled Cymru, a disgwylir ei chwblhau y mis hwn. Yn ogystal, mae dros 1,600 o garcharorion a thros 4,500 o staff gofal iechyd wedi cael brechiadau MMR ers mis Mawrth. Mae hyn yn llwyddiant nodedig a hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i rieni, plant, pawb yn y GIG ac ysgolion, ac mewn lleoliadau eraill, sydd wedi galluogi hyn i ddigwydd.
Mae’n debygol iawn y bydd yr ymdrechion hyn ledled Cymru yn cwtogi’r achos hwn ac yn ei wneud yn llai difrifol. Caiff hyn ei gefnogi gan waith modelu diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag, mae pryder o hyd am nifer y bobl sydd heb eu brechu, yn enwedig yn y grŵp 10-18 oed sy’n dioddef waethaf.
Mae’r achos presennol yn atgyfnerthu ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynyddu brechiadau MMR. Yr unig ffordd o atal achosion yn y dyfodol yw drwy sicrhau bod o leiaf 95% o blant yng Nghymru yn cael dau ddos o’r brechlyn MMR. Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru (adroddiad COVER Chwarter 4, 2012) yn dangos bod y canran yn cael y dos MMR cyntaf yn ddwy oed yn 94.3%, ac yn 89.9% ar yr ail ddos yn bump oed. Mae data Chwarter 1, 2013 wrthi’n cael ei goladu a disgwylir y bydd Cymru’n cyrraedd y lefelau uchaf o frechiadau MMR yn y blynyddoedd; y gobaith yw cyrraedd y targed o 95% ar gyfer plant dwy oed yn fuan iawn ledled Cymru. Gobeithio y bydd hyn yn gwneud llawer i ddiogelu iechyd y boblogaeth yn y dyfodol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal dwy astudiaeth ddefnyddiol yn ddiweddar ynghylch agweddau ar yr achos a fydd yn helpu i ddysgu sut i annog mwy o frechiadau yn y dyfodol. Mewn un astudiaeth, mae’r data o’r achos yn ardal Abertawe yn dangos bod dau ddos o’r brechlyn MMR wedi bod yn fwy na 99% yn effeithiol o ran atal yr haint, gyda llai na 10 o achosion wedi’u cadarnhau mewn pobl oedd wedi’u brechu yn y gorffennol. Mae’r data hefyd yn awgrymu bod un dos o’r brechlyn MMR yn diogelu yn erbyn y frech goch mewn mwy na 95% o achosion – mae hyn yn uwch nag yn y gorffennol.
Yn yr ail astudiaeth, cynhaliwyd arolwg dros y ffôn gyda rhieni yn Abertawe oedd heb roi caniatâd i’w plant gael y brechlyn MMR i weld pam nad oedd y rhai oedd wedi gwahoddiad i glinig wedi mynd. Bydd dadansoddiad o’r adborth o’r astudiaeth hon yn helpu i ddeall a mynd i’r afael ag unrhyw resymau pam nad yw rhieni am i’w plant gael y brechlyn MMR.
Bydd Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Byrddau Iechyd yn parhau i gymryd pob cam priodol i leihau ymhellach effaith y frech goch ar bob grŵp oedran er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o unigolion yn gallu dal y clefyd. Mae’n bwysig ein bod yn cymryd pob cyfle posibl i bwysleisio pwysigrwydd (a diogelwch) y brechlyn MMR, a’r ffaith ei fod yn diogelu rhag clwy’r pennau a rwbela yn ogystal â’r frech goch. Hoffwn alw ar bobl ifanc a rhieni plant sydd heb eu brechu’n llawn o hyd i gysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn cael y brechlyn. Nid salwch diddim yw’r frech goch, ac mewn lleiafrif o achosion gall arwain at gymhlethdodau difrifol a marwolaeth. Po hiraf y bydd diffyg cymharol o amddiffyniad rhag y frech goch, y mwyaf o achosion fydd yn codi a’r mwyaf tebygol yw’r canlyniadau hyn. Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y gwaith da sydd wedi digwydd hyd yn hyn i ddod â’r achos hwn o dan reolaeth.