Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:


Rwy’n edrych ymlaen at gychwyn Cyfoeth Naturiol Cymru ddechrau mis Ebrill ac rwy’n falch o ddatgan bod y broses ar gyfer creu’r corff newydd yn rhedeg yn brydlon. Hoffwn gymryd y cyfle i roi’r diweddaraf i’r Aelodau ar y costau ac egluro materion eraill.

Fy mwriad a’m nodau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yw creu siop un stop, gyda phenderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. Yn gyffredinol, nid yw’r costau wedi newid o’r costau a nodwyd yn yr achos busnes, ond mae’r manteision a ragwelir dros gyfnod y corff newydd wedi gwella.

Darparu Gwasanaethau

Bellach mae gennym amcangyfrif o’r costau gwasanaeth gan y Comisiwn Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Y costau rhannu gwasanaethau ar gyfer y Comisiwn Coedwigaeth yw £2.55 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf (sy’n cynnwys darpariaeth TG). Y ffigur cyfatebol yn yr achos busnes oedd £2.89 miliwn. Mae costau Asiantaeth yr Amgylchedd wedi’u rhannu i’r rheini rydyn ni’n eu disgwyl yn yr hirdymor a’r rheini rydyn ni’n eu disgwyl yn y cyfnod pontio (yn gyffredinol dwy flynedd neu lai).

Yr amcangyfrif ar gyfer cost y gwasanaethau rydyn ni’n bwriadu’u cynnal yn y tymor hwy ar hyn o bryd yw £3.4 miliwn y flwyddyn. Cost y gwasanaeth pontio ar gyfer y flwyddyn nesaf yw oddeutu £11.7 miliwn, gan gynnwys darparu gwasanaethau TGCh.

Bydd incwm y ffi niwclear yn gwrthbwyso’r cyfanswm o £15.1 miliwn, a ffioedd ar gyfer gwasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru i Asiantaeth yr Amgylchedd (sydd heb eu cynnwys hyd yn hyn), ac felly mae’n debygol y bydd hyn yn agos at y ffigur cyfatebol o £13.6m yn yr achos busnes

Yn gyffredinol felly, mae’n debygol y bydd y costau gwasanaethau uniongyrchol yn y tymor byr yn cyfateb yn fras â rhagdybiaethau’r achos busnes. Fodd bynnag, efallai y bydd y costau hirdymor yn is.

Costau newid TGCh

Amcangyfrifwyd yn yr achos busnes mai tua £30m oedd cost newid TGCh dros y pum mlynedd cyntaf. Mae’r costau newid sydd wedi’u nodi eleni ychydig dros £9m, gan godi i oddeutu £9.4m yn y flwyddyn nesaf.

Mae’r costau hyn yn ‘ddechrau dwys’, gan ein bod yn adeiladu’r seilwaith a’r gwasanaethau craidd fel caledwedd, rhwydweithiau, teleffoni a chymwysiadau swyddfa nawr, ac yn dechrau tynnu’n ôl o wasanaethau TGCh Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae’r costau cyffredinol hyn yn parhau i gyd-fynd ag amlinelliad ariannol yr achos busnes.

Pensiynau

Yn dilyn trafodaethau â Swyddfa Gabinet a Thrysorlys y DU, rwyf wedi penderfynu y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil fel y cynllun agored. Rhagwelir bod costau’r opsiwn hwn yn cyfateb â’r ddarpariaeth yn yr achos busnes.

Trosolwg

Mae’r gwaith o sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mireinio darlun y costau a nodwyd yn yr achos busnes. Mae’r gwaith hwn wedi dangos, er bod newidiadau i’r patrwm gwariant, nad yw’r costau cyffredinol wedi newid o’r rhai a nodwyd yn yr achos busnes. Mae’r costau hyn yn fforddiadwy a byddant yn cyflawni’r manteision gweithredol ac effeithlonrwydd a nodwyd yn yr achos busnes.