Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o’r ffaith ein bod wedi ymyrryd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn dilyn adroddiad beirniadol gan Estyn ym mis Mai 2011. Rwy’n cyflwyno’r datganiad hwn er mwyn hysbysu’r Aelodau ynghylch y camau pellach yr wyf yn cynnig eu cymryd.
Barnodd Estyn yn ystod ei arolygiad ym mis Mai 2011 fod perfformiad gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol yn anfoddhaol. Barnodd hefyd nad oedd y rhagolygon o ran gwella yn foddhaol. O ystyried y gwendidau difrifol hyn, credai Estyn fod angen mesurau arbennig mewn perthynas â’r awdurdod hwn.
Dywedais y byddwn yn parhau i hysbysu’r Aelodau ynghylch hynt y Cyfarwyddyd Gweinidogol a gyflwynwyd i’r Awdurdod ym mis Medi 2011. Cyn y byddaf yn gwneud hynny hoffwn atgoffa’r Aelodau ynghylch union natur y Cyfarwyddyd.
Pennodd y Cyfarwyddyd y byddai swyddogaethau addysg gweithrediaeth yr awdurdod yn cael eu harfer gan ddau Gomisiynydd Addysg. Penodwyd dau Gomisiynydd Addysg Ymgynghorol hefyd er mwyn darparu cymorth a her i’r Comisiynwyr Addysg.
Ymgymerodd Estyn ag ymweliad monitro â’r awdurdod yn ystod yr wythnos a gychwynnodd ar 11 Mehefin 2012. Dyma’r drefn arferol ar gyfer Estyn wrth fonitro gwasanaethau addysg awdurdod lleol sy’n destun mesurau arbennig. Adroddodd yr arolygiaeth ar y cynnydd a wnaed yn unol â’r argymhellion yn arolwg 2011 ond ni wnaeth ddyfarniad terfynol ynghylch ei berfformiad presennol. Bydd Estyn yn ail-arolygu’r awdurdod ar ddechrau 2013 a bydd yn rhoi dyfarniadau newydd yn erbyn pob dangosydd allweddol.
Mae’r Cyfarwyddyd presennol yn pennu y bydd yn parhau mewn grym hyd 31 Mawrth 2013 oni bai y byddaf yn penderfynu y gall ddod i ben cyn hynny. Rwyf wedi dweud y byddwn yn ei adolygu’n rheolaidd. Ym mis Gorffennaf hysbysais yr Aelodau fy mod wedi cynnal y cyntaf o’r adolygiadau hynny. Gwahoddais sylwadau gan bob rhanddeiliad allweddol, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Arweinydd, Dirprwy Arweinydd a Phrif Weithredwr Blaenau Gwent, Y Comisiynwyr Addysg a’r Comisiynwyr Ymgynghorol, Estyn a Thasglu Castell-nedd Port Talbot.
Er bod hynt y gwaith ym Mlaenau Gwent yn araf i ddechrau ar draws holl ystod yr argymhellion, awgryma’r ymweliad monitro a safbwyntiau rhanddeiliaid allweddol fod cyflymder a ffocws y newid bellach wedi gwella. Er ein bod, ar y cyfan, yn symud i’r cyfeiriad cywir mae gan yr awdurdod lleol lawer iawn o waith pwysig i’w wneud o hyd er mwyn sicrhau capasiti cynaliadwy.
Yn fwy diweddar gwnes fanteisio ar y cyfle i bwyso a mesur hynt y gwaith ynghyd ag anghenion yr awdurdod lleol a’r Comisiynwyr Addysg wrth i’r awdurdod baratoi ar gyfer ail arolygiad Estyn. O’r herwydd rwy’n cynnig ailystyried y Cyfarwyddyd gwreiddiol a gyflwynwyd i Gyngor Blaenau Gwent a hefyd ailystyried y cymorth a’r her a ddarperir.
Bu’r Comisiynwyr Addysg Ymgynghorol yn ffynhonnell werthfawr o gymorth a her ar gyfer fy Nghomisiynwyr Addysg ar ddechrau’r broses wella. Eto i gyd, wrth i’r awdurdod baratoi ar gyfer ail arolygiad Estyn, credaf y bydd eu mewnbwn i’r broses o hyn ymlaen yn fwy cyfyngedig, yn unol â natur y broses. Ystyriwn felly fod y Comisiynwyr Addysg Ymgynghorol wedi cyflawni eu rôl, gan wneud cyfraniad pwysig at y cynnydd a gyflawnwyd. O’r herwydd bydd rôl y Comisiynwyr Addysg Ymgynghorol yn dod i ben pan ddaw’r cyfarwyddyd newydd i rym. Hoffwn ddiolch i Nerys Evans ac Alan Evans am eu cyfraniad at y broses hyd yma.
Bydd rôl y Comisiynwyr Addysg o fewn y cam nesaf hwn yn gwbl allweddol, ac o’r herwydd rwy’n cynnig cyflwyno cyfarwyddyd newydd wrth i ni newid o ddau Gomisiynydd Addysg rhan-amser i un rôl amser llawn sy’n canolbwyntio’n llwyr ar gefnogi’r cam pwysig hwn yn y broses wella.
Mae’r ddau Gomisiynydd Addysg presennol yn cyfrannu gwahanol arbenigedd a phrofiad i’r rôl. Rwyf wedi ystyried, fodd bynnag, y ffordd orau o fodloni anghenion yr Awdurdod yn ystod y cam nesaf hwn. O’r herwydd rwyf wedi penderfynu penodi Bethan Guilfoyle i’r swydd amser llawn hon. Hoffwn ddiolch i Isobel Garner am ei holl ymdrechion clodwiw mewn perthynas â’r awdurdod.
Bydd y Comisiynydd amser llawn bellach yn canolbwyntio ar ysgogi gwelliannau o fewn ysgolion a pharatoi’r awdurdod ar gyfer ail arolygiad Estyn a hefyd ar gyfer y cyfnod pryd y daw’r ymyrraeth i ben. Wrth benodi un Comisiynydd Addysg amser llawn gallai deiliad y portffolio addysg ei chysgodi am gyfnod a fyddai’n hwyluso’r broses o drosglwyddo’r cyfrifoldeb am y portffolio yn ôl i’r awdurdod pan ddaw’r ymyrraeth i ben.
Mae’r sefyllfa o ran gwasanaethau gwella ysgolion wedi newid yn sylweddol yn ystod cyfnod fy ymyrraeth, wrth i gonsortia rhanbarthol gael eu sefydlu. O’r herwydd byddaf yn disgwyl i’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg chwarae rhan allweddol yn ystod y cam gwella nesaf. Gallai, er enghraifft, gydweithio â’r Comisiynydd a’r Awdurdod er mwyn comisiynu’r cymorth a’r her angenrheidiol ar gyfer ysgolion yr Awdurdod.
Rwyf hefyd yn bwriadu sefydlu Bwrdd Perfformiad Strategol a fydd yn cefnogi gwaith y Comisiynydd. Aelodau’r Bwrdd hwn fydd y Comisiynydd, uwch swyddogion o Lywodraeth Cymru, cynrychiolaeth o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolydd o’r consortia addysg rhanbarthol. Rwyf hefyd wedi gofyn i Nerys Evans barhau i ymwneud â’r awdurdod drwy ddod yn aelod o’r bwrdd hwn. Rôl y Bwrdd fydd cynnig her a chymorth i swyddogion ac aelodau’r Cyngor mewn perthynas â gwasanaethau addysg yr awdurdod.
Fy mwriad yw sicrhau y daw’r newidiadau hyn i rym cyn gynted â phosibl, ac mae fy swyddogion wrthi’n drafftio cyfarwyddyd newydd ar gyfer y Cyngor fel y gall y newidiadau hyn ddod i rym. Y bwriad yw y bydd y dull a amlinellir sef: Comisiynydd Addysg amser llawn yn cydweithio â’r awdurdod; cynnwys y dimensiwn rhanbarthol; sefydlu Bwrdd Strategol; a chaniatáu i ddeiliad y portfolio addysg gysgodi’r Comisiynydd Addysg yn creu cyfle i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr awdurdod.