Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am reoli a gwella eu perfformiad eu hunain. Ar lefel gorfforaethol ac ar lefel gwasanaeth, disgwylir i Awdurdodau Lleol bennu a monitro eu hamcanion ar gyfer gwella, nodi heriau penodol o ran llywodraethu a pherfformiad a bod yn gyfrifol am ymdrin â’r rhain a’u rheoli.

Rydym i gyd yn ymwybodol o’r heriau y mae rhai Awdurdodau wedi’u hwynebu mewn perthynas â rheoli corfforaethol a rheoli gwasanaethau. Ar brydiau, mae hyn wedi arwain at  fy rhagflaenwyr Gweinidogol yn rhoi cyfarwyddiadau i ymyrryd, neu i gynnig cefnogaeth ffurfiol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i ysgogi gwelliannau ym mherfformiad corfforaethol rhai Awdurdodau.

Cafwyd enghreifftiau o gynnydd arwyddocaol oherwydd ymyrraeth a chefnogaeth gan Weinidogion, yn fwyaf nodedig yn achos Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.  

O ystyried effaith ymyrraeth Weinidogol yn ddiweddar, bydd Aelodau’n ymwybodol o’r problemau a fu’n fwrn ar Gyngor Sir Ynys Môn am flynyddoedd lawer. Yn y bôn, roeddent yn ymwneud ag ymddygiad gwan Aelodau a diffyg cyfeiriad strategol, ac  effaith hynny ar ddarpariaeth gwasanaethau i bobl yr ynys. Roedd y sefyllfa o fewn y Cyngor yn hynod ddifrifol, ac yn galw am gamau grymus a chyson i atal y Cyngor rhag cyrraedd y pwynt di-droi’n-ôl.

Yn 2011, cynhaliodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ail arolygiad arbennig. Roedd ei ganfyddiadau a’i argymhellion yn ddamniol. Nid oedd gan y Gweinidog ar y pryd, Carl Sargeant AC, unrhyw ddewis ond gohirio swyddogaethau gweithredol y Cyngor a phenodi pum Comisiynydd i redeg y Cyngor ar ei ran.

Nid penderfyniad hawdd oedd hwn. Ni welwyd sefyllfa debyg o’r blaen. Ni thynnwyd ei holl bwerau oddi ar unrhyw Awdurdod Lleol yn y DU erioed o’r blaen. Fodd bynnag, roedd hyn yn angenrheidiol o ystyried pa mor ddifrifol oedd problemau’r Cyngor ac roedd camau llym o’r fath yn hanfodol er mwyn amddiffyn dyfodol y Cyngor ac, yn bwysicach fyth, y ddarpariaeth o wasanaethau i ddinasyddion Ynys Môn.

Roedd y penderfyniad i benodi Comisiynwyr a chaniatáu amser iddynt sefydlu swyddogaethau a phrosesau cynaliadwy wedi bod yn drobwynt. Yn dilyn penodi’r Comisiynwyr a’u gwaith caled, mae’r Cyngor wedi gweddnewid yn llwyr, ac wedi gwneud cynnydd rhyfeddol. Roedd pawb a oedd yn gysylltiedig â’r broses adfer wedi elwa’n fawr o oruchwyliaeth, profiad ac arbenigedd y Comisiynwyr.

Yn dilyn newidiadau sylweddol i ffiniau a’r etholiad dilynol ym mis Mai 2013, mae’r Cyngor wedi dangos yn glir fod ganddo’r gallu i gyflawni democratiaeth swyddogaethol a chynaliadwy, a gwelliant parhaus a pharhaol. Daeth yn amlwg y gallai’r Cyngor reoli ei faterion ei hunan heb ymyrraeth a chefnogaeth allanol. Cafodd hyn ei gadarnhau gan y Comisiynwyr blaenorol, a hefyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. O ganlyniad, daeth ymyrraeth y Gweinidog i ben yn ffurfiol ddiwedd mis Mai y llynedd. Bydd Aelodau’n sylweddoli bod hyn yn drawsnewid rhyfeddol, ac yn gyflawniad sylweddol i’r Cyngor.

Er gwaethaf y ffaith na welwyd sefyllfa debyg i’r un yng Nghyngor Sir Ynys Môn o’r blaen, nid yw’n golygu na fydd angen ymyrraeth debyg mewn Awdurdod Lleol arall yng Nghymru yn y dyfodol. Yng ngoleuni hyn, comisiynodd Llywodraeth Cymru werthusiad annibynnol o’r ymyrraeth ym Môn. Diben y gwerthusiad oedd asesu effeithiolrwydd a chanlyniadau’r dull o ymyrraeth a ddefnyddiwyd ym Môn, gan nodi’r gwersi i’w dysgu a’r arferion da er mwyn llywio unrhyw ymyriadau tebyg a allai fod yn angenrheidiol yn y dyfodol. Mae’r adroddiad gwerthuso’n cael ei gyhoeddi heddiw a bydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyrraedd Gwelliant: Gwerthusiad Annibynnol o’r Ymyrraeth ar Ynys Môn

Mae’r gwerthusiad yn dangos bod ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiant ac mae’n rhoi cydnabyddiaeth benodol i waith y Comisiynwyr. Mae’n nodi gwersi defnyddiol, yn arbennig mewn perthynas â phwysigrwydd bod yn glir o ran y dull mwyaf priodol o weithredu o gyfnod cynnar. Byddaf yn ystyried y gwerthusiad ac yn ystyried y gwersi hyn os digwydd unrhyw ymyriadau yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn ystyried y gwerthusiad yng nghyd-destun Diwygio Llywodraeth Leol.

O ran cymorth a gyfarwyddir, roedd fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths AC, wedi rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am ei phecyn cymorth arfaethedig ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ar ôl i bryderon gael eu codi fel rhan o raglenni archwilio ac arolygu.

Roedd Llythyr Asesu Gwelliant gan yr Archwilydd Cyffredinol i’r Cyngor ym mis Hydref 2013 yn egluro bod arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau ym Mlaenau Gwent yn anghyson, ac nid oedd y Cyngor wedi gwneud unrhyw beth fel mater o frys i ymdrin â’i sefyllfa ariannol ddifrifol  a pherfformiad newidiol gan wasanaethau.

Yng ngoleuni’r pryderon hynny, gwnaed dau argymhelliad statudol i’r Cyngor gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n ymdrin â’i gynllunio ariannol, ei ddull o wneud penderfyniadau a’i drefniadau craffu. Roedd yr asesiad hefyd yn cynnwys argymhelliad bod fy rhagflaenydd yn arfer pwerau Gweinidogol i gynnig cymorth i’r Cyngor, gan ei bod yn glir nad oedd gan yr Awdurdod ei hunan y capasiti i gymryd y camau angenrheidiol i gyflawni gwelliannau.

Ar ddiwedd Hydref 2013, hysbysodd y Gweinidog Aelodau’r Cynulliad am ei bwriad i ddefnyddio ei phwerau i’w gwneud yn ofynnol i’r Cyngor dderbyn pecyn cymorth ffurfiol. Bu’r cymorth hwn yn ei le am chwe mis, a daeth i ben ddiwedd Mawrth eleni.

Ar ôl i’r Ymgynghorwyr a benodwyd ddarparu cymorth pwrpasol, her ac arbenigedd, gwnaed cynnydd sylweddol gan y Cyngor, na fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth Gweinidogol. Roedd y cymorth yn cynnig mynediad i, a chyngor ar, yr adnoddau a’r prosesau oedd eu hangen i alluogi’r Cyngor i sefydlu systemau corfforaethol ac ariannol er mwyn symud ymlaen a chyflawni ar ei gyllideb. Erbyn hyn mae’r Cyngor mewn sefyllfa gryfach i wireddu ei gyfrifoldebau democrataidd, ac i ddarparu gwasanaethau gwell i’w ddinasyddion.

Ers diwedd mis Mawrth, mae’r Cyngor wedi parhau i wneud cynnydd. Dychwelodd yr Ymgynghorwyr ym mis Mehefin i adolygu’r cynnig, a byddant yn dychwelyd i Flaenau Gwent i gynnal ymweliad monitro terfynol ym mis Hydref.

Yn fwy diweddar, cafodd pecyn cymorth tebyg ond byrrach ei sefydlu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Daeth y pecyn cymorth hwn fel cais gan y Cyngor ei hun er mwyn helpu i ymdrin â phryderon ariannol a godwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Penodwyd Ymgynghorwyr i gynnal archwiliad o sefyllfa ariannol y Cyngor, ac i ddarparu safbwynt annibynnol, a dilysiad allanol, o ran cadernid ei gynlluniau ariannol a phrosesau i gefnogi’r rheini. Hefyd, gofynnwyd i’r Ymgynghorwyr asesu rhaglen waith y Cyngor ar y trawsnewid er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn addas i’r diben. Yn bwysicach fyth, gofynnwyd i’r Ymgynghorwyr wneud asesiad i weld a oedd gan y Cyngor, yn eu barn hwy, y gallu a’r capasiti i wireddu’r gwelliannau angenrheidiol heb yr her a chymorth allanol.

Heb fod yn annisgwyl, nododd yr Ymgynghorwyr feysydd  y gellid eu gwella o ran swyddogaeth ariannol y Cyngor, ac o ran rhaglen y Cyngor ar drawsnewid, ond unwaith eto roedd canlyniad y pecyn cymorth ar y cyfan yn gadarnhaol.

Yn sgil canfyddiadau’r Ymgynghorwyr, ni fydd unrhyw gymorth Gweinidogol pellach yn cael ei ddarparu i’r Cyngor ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd yr Ymgynghorwyr yn dychwelyd i’r Cyngor ym mis Hydref i wneud yn siŵr bod y sefyllfa’n parhau’n sefydlog a bod digon o gynnydd yn cael ei wneud.

Byddaf yn cyfarfod â’r Ymgynghorwyr ar ôl eu hymweliadau â Blaenau Gwent a Merthyr Tudful i gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Rwy’n disgwyl y bydd y ddau Gyngor yn adeiladu ar y cymorth, yr her a’r arbenigedd a gafwyd gan yr Ymgynghorwyr, ac yn sicrhau y bydd newidiadau buddiol yn cael eu cynnal, ac yn aros yn rhan ganolog o fusnes beunyddiol y ddau Awdurdod.

Er ein bod wedi gweld cynnydd positif ym mherfformiad corfforaethol Ynys Môn, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, mae problemau difrifol yn dal i fodoli mewn perthynas â gwasanaethau addysg Blaenau Gwent a Merthyr Tudful. Maent yn parhau i fod dan fesurau arbennig, felly hefyd Sir Fynwy a Thorfaen. Mae byrddau adfer Gweinidogl yn dal i weithredu yn y pedwar awdurdod lleol hyn.

Dylai ymyrraeth a phecynnau cymorth ddigwydd pan fetha popeth arall, neu ar gyfer argyfyngau nas rhagwelwyd. Gall ymyrraeth a chymorth fod yn gostus a gall gymryd llawer o amser. Gallant ddrysu democratiaeth leol ac achosi niwed difrifol i enw da’r Cyngor, ac i Lywodraeth Leol yng Nghymru yn fwy cyffredinol. Nid yw ymyrraeth allanol adweithiol, radical ac weithiau ymwthiol yn atebion cynaliadwy gan eu bod yn aml yn delio â methiant ar ôl y digwyddiad.

Mae angen i Awdurdodau Lleol gymryd cyfrifoldeb llawn dros weithredu eu democratiaeth a pherfformiad eu gwasanaethau; ac am hyrwyddo lles drwy gamau ataliol yn hytrach na chamau adweithiol. Mae’n rhaid i Awdurdodau gymryd cyfrifoldeb dros eu gwelliant corfforaethol ac am wella eu gwasanaethau, gan wneud defnydd o graffu effeithiol i ddarparu her a’u dal i gyfrif. Dylai’r cyfrifoldeb fod ar yr Awdurdodau Lleol i adnabod ac ymateb i broblemau sy’n dod i’r amlwg o ran perfformiad neu lywodraethu cyn iddynt gael eu hamlygu gan archwilwyr neu arolygwyr.

Datblygwyd Protocol ar Gefnogi ac Ymyrryd ym materion Llywodraeth Leol i leihau’r angen am gymorth neu ymyrraeth ffurfiol drwy annog hunanwerthusiad gonest gan Awdurdodau Lleol, rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid cenedlaethol a chynigion prydlon o gymorth. Gwyddom fod hyn yn digwydd mewn rhai Awdurdodau Lleol ar gyfer rhai gwasanaethau ond nid yw’n digwydd yn eang o bell ffordd.

Gwyddom hefyd y dull presennol o weithredu’n gostus iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi’n sylweddol mewn cefnogi gwelliant. Yn amlwg byddai’n well targedu’r buddsoddiad hwn at rwystro sefyllfa debyg rhag digwydd eto, at les mwy hirdymor, at wella gwasanaethau a llywodraethu da, yn hytrach nag adfer. Daw’r ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn cyntaf ar Ddiwygio Llywodraeth Leol i ben ar 1 Hydref. Byddwn yn ystyried yr ymatebion yng ngoleuni’r profiadau a nodwyd uchod.

Byddaf yn rhoi gwybod i Aelodau am unrhyw ddatblygiadau.