Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 16 Hydref 2014 ynghylch cyhoeddi adroddiadau ar ymweliadau dirybudd Ymddiried mewn Gofal, cyhoeddais y byddai’r rhaglen waith hon yn cael ei hymestyn i gynnwys wardiau iechyd meddwl pobl hŷn.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn dadansoddi canlyniadau llawn y rownd bellach hon o ymweliadau dirybudd a wnaed i weld y gofal sy’n cael ei ddarparu i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn ysbytai yng Nghymru. Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am ganlyniadau rhagarweiniol y darn o waith pwysig hwn tra bydd adroddiadau manylach ar gyfer pob ardal bwrdd iechyd ac adroddiad cenedlaethol yn cael eu cwblhau.

Yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2014, cynhaliwyd adolygiadau o 22 o 51 wardiau sy’n darparu gofal iechyd meddwl i bobl hŷn yng Nghymru gan dimau a oedd yn cynnwys uwch nyrsys iechyd meddwl pobl hŷn, fferyllwyr a therapyddion galwedigaethol o blith y mwyafrif o’r byrddau iechyd yng Nghymru. Darparwyd mewnbwn meddygol hefyd yn ystod rhai o’r ymweliadau hyn.

Arweiniwyd y timau hyn gan y gweithwyr proffesiynol oedd yn gysylltiedig â’r ymweliadau dirybudd a gynhaliwyd eisoes yn ystod haf y llynedd yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad Ymddiried mewn Gofal. Hoffwn gofnodi fy niolch i’r timau adolygu am eu gwaith caled a’u cyngor arbenigol. Roedd yr Athro June Andrews, cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, Mark Butler, cyfarwyddwr The People Organisation, a’r Athro Phillip Routledge, cyn-gadeirydd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, a ddatblygodd y broses ar gyfer y rownd gyntaf o ymweliadau dirybudd, hefyd wedi ein helpu ni i lunio’r dull o gynnal yr ymweliadau hyn mewn wardiau iechyd meddwl i bobl hŷn. Cawsant eu helpu gan Donna 
Ockenden uwch nyrs, Kim Williams Seicolegydd Ymgynghorol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae gwaith y grŵp wedi bod yn fuddiol ac yn wybodus.

Cynhaliwyd adolygiadau mewn wardiau ymhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n darparu gwasanaethau i bobl hŷn â chyflyrau fel dementia a salwch meddwl, gan gynnwys iselder a seicosis. Roedd yr ymweliadau dirybudd hyn yn canolbwyntio ar y canlynol, yn yr un modd â’r cam cyntaf o ymweliadau dirybudd mewn wardiau ysbyty cyffredinol:

  • Gofal ymataliaeth a gofal personol 
  • Maetheg a hydradu 
  • Meddyginiaeth a rhagnodi gwrthseicotig

Fodd bynnag, oherwydd anghenion penodol pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl, roedd yr ymweliadau dirybudd hefyd yn canolbwyntio ar rai meysydd penodol:

  • Ffrwyno a chymryd camau diogelu priodol 
  • Gweithgareddau dyddiol
  • Perthnasau neu ofalwyr y cleifion a’u hymgysylltiad nhw wrth ofalu am eu hanwyliaid
  • Diwylliant ac arweinyddiaeth

Fel yn achos ymweliadau dirybudd a gynhaliwyd eisoes, datgelwyd nifer o arferion da a rhagorol mewn sawl maes ar draws Cymru. Dylid llongyfarch yr holl staff sy’n gyfrifol am ddarparu gofal o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i’r grŵp cleientiaid bregus hwn.

Dysgodd y timau adolygu lawer o’r broses hon ac maent wedi elwa’n fawr o rannu syniadau a phrofiad. Hoffem weld hyn yn parhau, ac i’r perwyl hwn mae cymuned ymarfer i gleifion iechyd meddwl mewnol yn cael ei sefydlu ar gyfer pobl hŷn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y gall y gwaith pwysig hwn gael ei ddatblygu ymhellach a pharhau.

Yn ôl y disgwyl, datgelodd yr ymweliadau rai meysydd hefyd lle’r oedd angen gwneud gwelliannau. Daeth y timau adolygu o hyd i dipyn o amrywiaeth yn y safonau a’r arferion rhwng ac o fewn ardaloedd Byrddau Iechyd ac mae’n rhaid gweithredu ar y rhain. Maent yn cynnwys materion sy’n ymwneud â:

  • Rhagnodi a storio meddyginiaeth;
  • Y staff â’r gymysgedd sgiliau sydd ar gael i ddarparu’r gofal mwyaf priodol; 
  • Hyfforddi staff; 
  • Ansawdd amgylchedd y ward a pha mor ‘gyfeillgar i ddementia’ ydyw;  
  • Cymhwyso deddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol yn ymarferol; a’r 
  • Ddarpariaeth o wasanaethau arlwyo.  

Codwyd y problemau a ddaeth i’r amlwg o bob ymweliad dirybudd gyda’r byrddau iechyd ar unwaith ac yna cawsant eu codi gyda phrif weithredwyr a dirprwy gadeiryddion y GIG sy’n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl.

Caiff adroddiadau unigol a manwl am bob ymweliad eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, ynghyd ag adroddiad cenedlaethol yn nodi manylion pellach y themâu a ddaeth i’r amlwg o’r broses hon a’r argymhellion i’w gweithredu yn y dyfodol.