Vaughan Gething, Y Prif Weinidog
Ar 9 Mai, teithiais i Mumbai, India i gwrdd ag uwch swyddogion gweithredol o gwmni Tata Steel. Fe wnes i ddadlau dros barhau i gynhyrchu dur drwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot, osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol a pheidio â gwneud penderfyniadau di-droi'n-ôl cyn Etholiad Cyffredinol y DU a allai newid dyfodol y diwydiant yn sylweddol.
Yn ystod trafodaethau helaeth, rhoddais bwyslais mawr ar yr angen i osgoi diswyddiadau gorfodol ar draws safleoedd y cwmni yng Nghymru. Tynnais sylw hefyd at bwysigrwydd cynnal gweithrediadau cysylltiedig Tata er mwyn sicrhau bod lefelau cynhyrchu'n cael eu cynnal yn llawn gyda dyfodol tymor hwy yn Nhrostre, Shotton, Llanwern a Chaerffili. Cytunodd y Cwmni i ddarparu gwybodaeth am y rhai y mae unrhyw gynlluniau pontio yn effeithio arnynt er mwyn sicrhau y gellir cynnig cymorth i gyflogeion a chyflenwyr yn gyflym. Mae’r gadwyn gyflenwi o fewn Cymru yn un sylweddol, gan gyrraedd y tu hwnt i gymunedau dur yn uniongyrchol. Er mwyn i’r llywodraeth roi cymorth effeithiol a chyflym i fusnesau a gweithwyr y mae’r broses bontio yn effeithio arnynt ar hyd y gadwyn gyflenwi, rhaid inni gael yr wybodaeth ofynnol yn gynnar. Edrychaf ymlaen at roi gwybod y diweddaraf i’r Aelodau am y gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo.
Fe wnaethom hefyd drafod meysydd pwysig sydd o ddiddordeb cyffredin inni. Roedd y rhain yn cynnwys cyfleoedd buddsoddi ym Mhort Talbot a'r cyffiniau, a chydweithio â phrifysgolion Cymru, yn enwedig Prifysgol Abertawe, ym mhob rhan o'r broses o gynhyrchu dur gwyrdd, gan gynnwys prosesu sgrap ac adeiladu. Tynnais sylw at y cyfleoedd sylweddol a geir i fuddsoddi a chreu swyddi yn sgil y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd yn Onllwyn. Rwy'n falch bod y Cwmni wedi cytuno i ystyried Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â'r Ganolfan.
Rwyf hefyd wedi cwrdd â chynrychiolwyr undebau llafur a byddaf yn parhau i drafod â'r gweithlu yn y dyddiau nesaf. Croesawodd y cwmni y cyfle i siarad â Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol a chytunodd i barhau i weithio ar y materion pwysig hyn.