Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roeddwn yn yr Ariannin rhwng 26 a 29 Gorffennaf er mwyn cael ymuno yn rhai o ddathliadau 150 mlwyddiant glaniad y Cymry ym Mhatagonia.  Roedd rhai o’r digwyddiadau wedi’u trefnu gan Lywodraeth Chubut ac eraill gan y cymunedau Cymreig lleol.  

Dechreuodd fy rhaglen swyddogol â chyfarfod gyda Llywodraethwr Chubut, Martin Buzzi, lle buom yn trafod y berthynas hir rhwng Cymru a Chubut a gwerthfawrogiad Llywodraeth y Dalaith o’r gymuned Gymreig. Ar ôl y cyfarfod, llofnodwyd Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Chubut a Cherddorfa Genedlaethol Cymru a fydd yn perfformio nifer o gyngherddau ac yn cynnal gweithdai cymunedol ym Mhatagonia yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Cynhaliodd Llywodraeth Chubut gyngerdd rhagorol a oedd yn deyrnged berffaith i sefydlu’r Wladfa 150 mlynedd yn ôl.

Roedd modd gweld dylanwad Cymreig ym mhobman. Ymwelais â Rawson, Trelew, Gaiman, Esquel a Threvelin ac mae’r Gwladfawyr cyntaf wedi gadael etifeddiaeth gadarn sydd wedi galluogi’r cymunedau Cymreig i oroesi a ffynnu. Ymwelais â phedair ysgol, tair ohonynt yn rai dwyieithog Cymraeg a Sbaeneg, tair amgueddfa a fferm hanesyddol (gyda’r dref gyfan yn ymddangos i estyn croeso). Gosodais dorch o flodau ar fedd Lewis Jones (sylfaenydd Trelew) ac fe gefais gyfle i fwynhau Te Cymreig yng Nghapel Seion ym Mryn Gwyn.  Hefyd cefais gyfle i weld ail-gread o’r glaniad gwreiddiol ym Mhorth Madryn, a chyngherddau yn Nhrelew a’r Gaiman ac fe dreuliais ddwy awr gyda chymunedau Gwladfaol yr Andes yng ngorllewin Chubut. Roedd yn hyfryd clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn eang, a gweld gyda’m llygaid fy hun bod bywyd diwylliannol Cymreig yn parhau yn yr Ariannin, diolch yn rhannol i lwyddiant prosiect y Gymraeg sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan y British Council.

Cefais groeso cynnes ym mhob digwyddiad ac fe gadarnhawyd y cysylltiadau rhwng Cymru a chymunedau Cymreig Patagonia yn ystod fy ymweliad. Daeth fy rhaglen swyddogol i ben wrth i mi gynnal derbyniad i ddiolch i Gymry Chubut am eu lletygarwch a’u hymrwymiad parhaus i gadw’r diwylliant Cymreig yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rwy’n gwybod bod nifer o ymweliadau eraill ar y gweill dros y misoedd nesaf, a nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Ar sail fy mhrofiadau i, gallaf ddweud y bydd pawb yn siŵr o gael croeso cynnes, ac y bydd derbyniad da iawn i’r gweithgareddau sy’n cael eu trefnu. Rwy’n hynod o falch y bydd gwaddol yn cael ei adael i’r gymuned Gymreig ymhell ar ôl i’r dathliadau ddod i ben.

Roedd Cymunedau Cymreig Patagonia wedi apelio ar awdurdodau’r Ariannin i beidio troi’r dathliadau i fod yn wleidyddol eu naws yn ystod y flwyddyn etholiad hon ac rwyf i, ynghyd â Llysgennad Prydain a oedd gyda mi drwy gydol yr ymweliad hwn, yn falch iawn i’r cais hwn gael ei barchu.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.