Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r diweddaraf i chi ar fy ymweliad â Los Angeles rhwng 28 Chwefror a 2 Mawrth i hybu diwydiannau creadigol Cymru.
Ar ddydd Gŵyl Dewi, bûm mewn seremoni i ddadorchuddio seren newydd Richard Burton ar Hollywood Boulevard. Roedd hwn yn ddigwyddiad pwysig ar gyfer sector creadigol Cymru a llwyddodd i ddenu sylw’r wasg ryngwladol.
Yna, bûm yn siarad mewn derbyniad gan Lywodraeth Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Daeth tua 130 o bobl i’r digwyddiad gan gynnwys pobl ddylanwadol o gwmnïau ffilm a theledu America, actorion Cymreig a’r Cymry ar Wasgar.
Roedd y seremoni a’r derbyniad yn gyfle gwych i roi llwyfan rhyngwladol i dalentau creadigol Cymru a chodi proffil Cymru o fewn diwydiant adloniant UDA.
Gan fod llu o swyddogion gweithredol o ddiwydiannau mawr America wedi dod ynghyd, llwyddom i gwrdd â thros 30 o fusnesau ac unigolion o’r sector creadigol a digidol mewn swper busnes preifat ac mewn cyfres o gyfarfodydd busnes gyda chwmnïau teledu, ffilm a chyfryngau digidol pwysig.
Roedd y swper busnes a’r cyfarfodydd yn gyfle gwych i hybu Cymru fel lleoliad delfrydol ar gyfer mewnfuddsoddi - mae Cymru’n enwog am ei thalent greadigol benigamp, mae’n lleoliad cyfleus o fewn Prydain, mae ganddi olygfeydd godidog ar gyfer ffilmiau ac mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhelliannau hael.