Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel y gŵyr yr aelodau, yn ddiweddar dychwelais o ymweliad â Tsieina. Pwrpas yr ymweliad hwn oedd cryfhau ac ehangu cysylltiadau Cymru â Rhanbarth Dinesig Chongqing, a hefyd y cysylltiadau â’r llywodraethau canolog a rhanbarth dinesig yn Beijing. Ein nod yw creu mwy o gyfleoedd addysgol a busnes i sefydliadau a chwmnïau o Gymru. O bryd i’w gilydd yn ystod fy ymweliad, cefais gwmni uwch gynrychiolwyr o’n byd busnes ac addysg. Roedd ganddynt hwythau hefyd eu rhaglen eu hunain i’w dilyn.

Cyfarfod â’r Comisiwn Masnach Dramor a Chydweithredu Economaidd (COFTEC) i drafod cyfleoedd busnes ym meysydd masnach a buddsoddi oedd fy nghyfarfod cyntaf yn Chongqing, a hynny yng nghwmni rhai o’r cynrychiolwyr o Gymru. Roedd proffil Cymru a’i henw da yn Chongqing yn amlwg o weld parodrwydd a brwdfrydedd y Comisiwn i chwilio am gyfleoedd busnes.

Ymwelais â ‘Two Rivers New Zone’ (TRNZ) yn Chongqing a chwrddais â’r Cyfarwyddwr Cyffredinol.  TRNZ yw’r drydedd ardal ddatblygu ar lefel genedlaethol sydd wedi cael ei dynodi yn Tsieina (ar ôl Ardal Pudong, Shanghai, ac Ardal Newydd  Binhai, Tianjin). Bydd yr ardal hon yn ganolfan ariannol a masnachol i ganoldir Tsieina. Disgwylir i TRNZ gyfrannu tua £60 biliwn i Gynnyrch Mewnwladol Crynswth Chongqing bob blwyddyn.

Bûm mewn cyfarfodydd lefel uchel ar wahân gydag Ysgrifennydd y Parti, Bo Xilai, a’r Maer, Huang Qifan, a gynhaliodd cinio i uwch bersonél o Lywodraeth Chongqing a chynrychiolwyr o Gymru. Roedd y cyfarfodydd yn gadarnhaol ac yn adeiladol iawn, ac unwaith eto cafodd perthynas Cymru a Chongqing ei chydnabod. Buom yn trafod nifer o gyfleoedd mewn busnes ac addysg, a llofnodais Gytundeb Cydweithredu newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Chongqing, sy’n disodli’r Cytundeb blaenorol a lofnodwyd yn 2008.

Cymerais ran yn lansiad Consortiwm Addysg Bellach Cymru - Chongqing a grëwyd gan CollegesWales/ColegauCymru i ddatblygu cysylltiadau cydweithio â’r sector addysg alwedigaethol yn Chongqing a De-orllewin Tsieina. Hefyd cymerais ran yn lansiad Consortiwm Hyfforddiant Addysg Uwch Cymru - Tsieina a sefydlwyd gan sector y Prifysgolion yng Nghymru. Bydd hyn yn creu siop-un-stop er mwyn i brifysgolion, sefydliadau’r llywodraeth a’r sector preifat yn Tsieina gael gweld yr ystod lawn o gyrsiau hyfforddiant a datblygu a gynigir gan brifysgolion Cymru. Bydd gan y ddau Gonsortiwm aelod o staff yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Chongqing. 

Roedd y digwyddiadau eraill yn Chongqing yn cynnwys cynhadledd i’r cyfryngau; ymweld â HIFU Technology Co Ltd Chongqing, sy’n arbenigo mewn therapi uwchsain dwysedd uchel a dargedir, ac sydd â diddordeb mewn sefydlu canolfan yng Nghymru; ymweld â’r Three Gorges Museum yn Tsieina a fydd yn cynnal arddangosfa o Amgueddfa Cymru y flwyddyn nesaf; bod yn bresennol wrth i Gytundeb Cydweithredu gael ei lofnodi rhwng Prifysgol Caerdydd ac Ysbyty Canser Chongqing; ymweld â gardd Cymru, a ddyluniwyd gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac sy’n cael ei chreu yn Expo Gerddi Rhyngwladol Tsieina (dyma’r unig ardd o’r DU yn yr Expo); ymweld â phrosiect tai cymdeithasol; a bod yn bresennol mewn Derbyniad a gynhaliwyd gan Swyddfa Prif Gonswl Prydain yn Chongqing.

Yn Beijing, cefais fy mriffio’n llawn gan y Dirprwy Lysgennad ynghylch y berthynas rhwng y DU a Tsieina a’r cyfleoedd ym meysydd addysg a busnes. Wedyn, cwrddais ag Is-weinidog Materion Tramor Tsieina a chafwyd trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol am y berthynas rhwng Cymru a Tsieina a’r cyfleoedd i greu mwy o gysylltiadau ym meysydd busnes, addysg a diwylliant, gan gynnwys sicrhau mwy o bresenoldeb llysgenhadol i Tsieina yng Nghymru.

Bûm yn bresennol wrth i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gael ei lofnodi rhwng Prifysgol Abertawe a Chanolfan Rheoli Tystysgrifau Ansawdd Co Ltd Daluhuangxing (HXQC) ynghylch sefydlu Sefydliad Safonau Ewrop Tsieina yn Abertawe, a chwrddais â Chyfarwyddwr Cyffredinol Haban (Cyngor Rhyngwladol yr Iaith Tsieineeg) i gefnogi cais gan Brifysgol Bangor i greu Athrofa Confucius yn y Brifysgol.

Cefais drafodaethau adeiladol a chadarnhaol iawn â Gweinyddiaeth Gyffredinol Goruchwylio Ansawdd, Arolygu a Chwarantîn (AQSIQ) ynghylch cael gwared ar y cyfyngiadau ar fewnforio cig oen Cymru i Tsieina, ac â Gweinyddiaeth y Wladwriaeth ar gyfer Materion Arbenigwyr Tramor (SAFAE) ynghylch achredu Consortiwm Hyfforddiant Addysg Uwch Cymru - Tsieina fel corff hyfforddi sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer cyrsiau a ariennir gan y Llywodraeth.  Cynhaliais Dderbyniad ar gyfer cysylltiadau hen a newydd yn Beijing.

Cwrddais â Maer Llywodraeth y Bobl Rhanbarth Dinesig Beijing a llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy Lywodraeth i nodi ein bwriad i gydweithio ym meysydd masnach a datblygu economaidd, addysg a hyfforddiant, safonau ac ansawdd, yr amgylchedd, diwylliant a llywodraethu.

Mae Cymru wedi datblygu cysylltiadau cadarnhaol iawn â Tsieina ac mae’n hollbwysig cynnal y rhain a’u hehangu yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r adborth a gafwyd oddi wrth gynrychiolwyr eraill o Gymru yn ystod yr ymweliad hefyd yn gadarnhaol. Rwy’n credu bod cyfleoedd sylweddol i Gymru yn Tsieina a’m bwriad yw sicrhau ein bod yn cael manteisio ar y cyfleoedd hynny.