Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Yn ddiweddar, cefais y cyfle i fynd ar daith dramor i Arfordir Gorllewin America, gan deithio o San Francisco i Los Angeles. Bwriad yr ymweliad oedd datblygu cysylltiadau economaidd rhwng Cymru ac America yn ogystal â hyrwyddo diwydiannau technoleg a chreadigol Cymru. Rhoddodd gyfle imi arwain taith fasnach amlsector i’r rhanbarth a chefnogi’r ddirprwyaeth o Gymru a oedd yn arddangos yn y Gynhadledd Datblygwyr Gemau flynyddol. Hefyd, cymerais ran mewn rhaglen ymgysylltu ehangach gyda busnesau.
Mae’r UDA yn farchnad economaidd bwysig i Gymru. Yn flynyddol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae’r wlad hon wedi bod yn brif fewnfuddsoddwr inni. Yn 2022, daeth yr UDA hefyd yn farchnad allforio fwyaf Cymru, gan achub y blaen ar yr Almaen, gyda’r gwerth allforion nwyddau yn £3.4 biliwn.
Dros ugain o gwmnïau o Gymru gymryd rhan yn y daith fasnach a GDC, yn bennaf o’r sectorau gemau, digidol a thechnoleg. Dyma’r ddirprwyaeth fwyaf o Gymru inni fynd â hi i’r digwyddiad erioed a gwelais lawer ohonynt wrth eu gwaith ym Mhafiliwn Cymru yn y Gynhadledd.
Y noson cyn y gynhadledd, cynhaliodd Prif Gonswl Prydain a finnau dderbyniad yn ei breswylfa swyddogol a oedd yn rhoi cyfle i gwmnïau o Gymru gyfarfod â chysylltiadau o’r diwydiant o ardal Bae San Francisco.
Fe wnaethom hefyd drafod ei rôl o ran hyrwyddo Cymru ar Arfordir y Gorllewin a’r mannau lle y mae rhagor o gyfleoedd iddo ef a’i dîm arddangos Cymru yn rhan o’u gwaith ehangach o hyrwyddo’r DU.
Y diwrnod canlynol, cyfarfûm â Chyngor Ardal y Bae er mwyn dysgu am ei ddull rhanbarthol o ran datblygu economaidd a’r synergedd sy’n gysylltiedig â’r dull Dinas-Ranbarth rydym wedi’i fabwysiadu yng Nghymru. Roedd hyn yn gyfle i drafod sut y mae digwyddiadau a rennir, megis yr argyfwng costau byw yn effeithio ar economïau ein gilydd ac ar ein dull i fynd i’r afael â’r materion hyn. Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu am waith Ardal y Bae o ran symud tuag at opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus glanach.
Yn dilyn hyn, ymwelais â Cruise sef cwmni cerbydau awtonomaidd, a hynny er mwyn cyfarfod â’i Brif Swyddog Cyfreithiol, Jeff Bleich a oedd yn gyn-lysgennad yr UD i Awstralia. Buom yn trafod y datblygiadau yn y diwydiant cerbydau awtonomaidd gan roi cyfle imi godi ymwybyddiaeth ynghylch arbenigedd Cymru mewn ymchwil a datblygu a symudedd o ran y dyfodol a sut y gallai hynny fod o fudd i gwmnïau sy’n chwilio am gyfleoedd i ehangu i farchnad y DU a’r farchnad Ewropeaidd.
Mae cwmnïau o Gymru sy’n cymryd rhan mewn teithiau masnach i’r UDA yn aml yn gofyn am y cyfleoedd i ddenu buddsoddiad cyfalaf menter. Er mwyn deall rhagor am farchnad ecwiti preifat yr UD, cyfarfûm â chwmni cyfalaf menter o’r enw TPG. Roedd hyn hefyd yn gyfle i drafod ein cynnig i gwmnïau sy’n ceisio cyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru.
Yn ystod yr ymweliad, teithiais hefyd i Silicon Valley lle cyfarfûm ag Is-lywydd Materion Corfforaethol a Phensaernïaeth Oracle er mwyn trafod ei fuddsoddiad i Gymru a hynny yng nghanolfan data Vantage yng Nghasnewydd. Yn dilyn hyn, ymwelais â Silicon Catalyst, deorfa’r sector technegol sy’n benodol ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion. Yma, amlinellais y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n ffynnu yng Nghymru yn ogystal â’n gwaith o gefnogi cwmnïau technegol drwy ein mannau deori a’n canolfannau menter ein hunain.
Wedyn, ymwelais â KLA, cwmni lled-ddargludyddion byd-eang yn Silicon Valley sydd wedi cyhoeddi yn ddiweddar fuddsoddiad gwerth dros $100 miliwn yng Nghasnewydd. Roedd hyn yn gyfle i gyfarfod â’r Bwrdd i drafod y buddsoddiad, cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i’r cwmni, y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd ehangach a chynlluniau KLA i’r dyfodol. Cefais y cyfle i fynd o amgylch safle KLA a gweld gyda fy llygaid fy hun rywfaint o’r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud.
Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, cyfarfûm â Lynwen Brennan o Lucasfilm er mwyn trafod y cynhyrchiad diweddar o Willow a ffilmiwyd yng Nghymru. Trafodwyd y potensial i ddefnyddio Cymru ar gyfer cynyrchiadau ffilmio yn y dyfodol a’r cymorth y gall Cymru Greadigol ei roi.
Yn ystod fy ymweliad, cefais gefnogaeth Aled Miles sef Cennad Llywodraeth Cymru sydd wedi’i leoli yn y ddinas. Trefnodd Aled imi gyfarfod â Phrif Swyddog Profiad a Phartner Sefydlu Simplicity a Phrif Swyddog Gweithredol HackerOne, ac sydd hefyd yn Gonswl Anrhydeddus i’r UD o’r Ffindir. Cefais drafodaethau cynhyrchiol gyda’r ddau ohonynt ynghylch rôl technoleg i drawsnewid economïau a chysylltu dinasyddion â gwasanaethau cyhoeddus.
O San Francisco, teithiais i Los Angeles i siarad yn nigwyddiad Media Cymru, a gynhaliwyd gan Ddirprwy Gonswl Prydain yn Los Angeles, a oedd yn dathlu arloesedd y cyfryngau yng Nghymru. Yma, cyfarfûm hefyd â sefydliadau, Cymry ar wasgar o’r ddinas sy’n gweithio yn y diwydiant cyfryngau, a rhanddeiliaid eraill o’r diwydiant cyfryngau.
Roedd yr adborth gan y cwmnïau a gymerodd ran yn y daith fasnach yn gadarnhaol, ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd swyddogion yn cydweithio â nhw i ddatblygu’r cytundebau a chysylltiadau a nodwyd yn ystod yr ymweliad. Bydd swyddogion yn y UDA a Chymru hefyd yn datblygu’r trafodaethau cadarnhaol a gynhaliwyd gyda phob cwmni a sefydliad y cyfarfûm ag ef.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.