Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Ar 10 Ionawr 2024, es i am dridiau i Silesia yng Ngwlad Pwyl i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda thalaith Silesia. Roedd hwn hefyd yn gyfle i ymgymryd â rhaglen o ymweliadau a digwyddiadau sy'n cyd-fynd â'r meysydd cydweithredu a nodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
Mae'r berthynas rhwng Cymru a Silesia yn un hirsefydlog, wedi'i seilio'n bennaf ar ein hanes cyffredin o fwyngloddio a diwydiant trwm ac a ffurfiolwyd gan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan yn 2002. Heddiw, mae Cymru a Silesia wedi symud i ffwrdd o'r diwydiannau hyn ac maent yn canolbwyntio ar adfywio, adfer tir, datblygu cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol, twristiaeth, addysg a datblygu gwledig. Ar y sail honno, rydym wedi adnewyddu'r bartneriaeth hon drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chynllun gweithredu wedi'u diweddaru.
Bydd y Memorandwm a'r cynllun gweithredu rhwng Cymru a Silesia yn canolbwyntio i ddechrau ar wyddorau bywyd, seiberddiogelwch, diogelwch tomenni glo a thrawsnewid gwyrdd, gwyddoniaeth ac arloesi, addysg a thwristiaeth ddiwydiannol.
Yn ogystal â llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, roedd fy rhaglen yn cynnwys ymrwymiadau gyda Marsial a Dirprwy-Farsial Silesia, perfformiadau diwylliannol, ac ymweliad â mwynglawdd arian gyda chysylltiadau â Chymru yn dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif.
Ar ôl cyrraedd Krakow, cwrddais â Phennaeth yr Economi a Chydweithrediad Rhyngwladol o swyddfa Marsial Talaith Silesia. Teithiais i Koszęcin lle siaradais mewn digwyddiad, a gynhaliwyd gan y Marsial, ar gyfer sefydliadau sy'n ymwneud â darparu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Roedd yn cynnwys perfformiad diwylliannol gan Ensemble Canu a Dawns Stanisław Hadyna a pherfformiad gan gerddorfa o Fyddin Wcráin. Rhoddodd hyn gyfle imi amlinellu'r camau y mae Cymru wedi'u cymryd i groesawu dinasyddion Wcráin fel Cenedl Noddfa ac i fyfyrio ar y gefnogaeth y mae Gwlad Pwyl wedi'i darparu yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Dechreuodd yr ail ddiwrnod gydag ymweliad â mwynglawdd arian Tarnowskie Góry. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Silesia yn ymrwymo i rannu’r gwersi sy’n cael eu dysgu ynghylch rheoli tirweddau ôl-ddiwydiannol a defnyddio safleoedd mwyngloddio blaenorol yn gyfle ar gyfer twristiaeth. Roedd statws y mwynglawdd arian fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn enghraifft wych o sut mae Silesia yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ac fe wnes i drafod Amgueddfa Lechi Cymru a Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Mae sgyrsiau eisoes wedi dechrau ynglŷn â rhannu arferion gorau a phrosiectau posibl lle gall ein priod safleoedd UNESCO gydweithio.
Roedd uwch swyddogion o bob rhan o'r chwe maes cydweithredu yn bresennol i weld y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cael ei lofnodi. Roedd Jan Olbrycht MEP, cyn-Farsial o Silesia a chyd-lofnodwr memorandwm 2002 hefyd yn bresennol. Mae partneriaethau sefydledig eisoes ar waith i fwrw ymlaen â llawer o'r camau yn y cynllun gweithredu, er enghraifft, ynghylch diogelwch tomenni glo, seiberddiogelwch ac arloesi. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ffurfioli'r partneriaethau hynny ac mae'n gyfle i ddod â'r gwaith rhagorol rhwng Cymru a Silesia at ei gilydd.
Daeth fy rhaglen i ben gydag ymweliadau â thref Nikiszowiec, ystâd tai mwyngloddio hanesyddol yn Katowice, a Chanolfan Rhyddid ac Undod Silesia lle, ynghyd â'r Marsial, gosodais dorch er cof am chwe glöwr a laddwyd gan filwyr yn ystod rheolaeth filwrol i atal twf yr undeb llafur Solidarity, ac Amgueddfa Silesia. Mae pob un o'r safleoedd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth adrodd stori ddiwydiannol Silesia a'i thrawsnewid i economi ôl-ddiwydiannol.