Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Yr wythnos diwethaf teithiais i'r Almaen i fynychu MEDICA, un o ffeiriau masnach meddygol mwyaf y byd, a gynhelir yn flynyddol yn Düsseldorf. Ochr yn ochr â thîm Masnach a thîm yr Almaen Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ni gefnogi mwy na 30 o gwmnïau o ddiwydiant gwyddorau bywyd ffyniannus Cymru i fynychu'r digwyddiad hwn i alluogi y busnesau arloesol a chyffrous hyn i arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau i gynulleidfa fyd-eang. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle gwych i gryfhau perthynas Cymru â chysylltiadau allweddol yn rhanbarth Gogledd Rhine-Westphalia.
Ddydd Llun 11 Tachwedd, fe wnes i gyfarfod Nick Russell, Prif Gonswl Prydain yn Düsseldorf, a roddodd drosolwg o'r cyd-destun gwleidyddol ac economaidd cyfredol yng Ngogledd Rhine-Westphalia, y rhanbarth sydd â'r nifer uchaf o gwmnïau Almaeneg sy'n gweithredu yng Nghymru. Yn ystod y cyfarfod hwn, buom hefyd yn trafod sut i gydweithio â Llywodraeth y DU i hyrwyddo Cymru ymhellach.
Hefyd, roeddwn yn presennol yn MEDICA lle cefais gwrdd â'r cwmnïau o Gymru oedd yn mynychu ac yn arddangos ym Mhafiliwn Cymru. Roedd dros 30 o gwmnïau a mwy na 50 o gynrychiolwyr o'r sector gwyddorau bywyd wedi teithio i Düsseldorf eleni, fel rhan o daith fasnach Llywodraeth Cymru. Dyma bresenoldeb mwyaf Cymru yn y ffair fasnach ers y pandemig a dirprwyaeth fasnach dramor fwyaf Llywodraeth Cymru eleni. Yn y digwyddiad cefais gyfle hefyd i gwrdd â Chyfarwyddwr MEDICA, Christian Grosser.
Yn y prynhawn, agorais dderbyniad rhwydweithio a chefais y pleser o annerch ein cwmnïau a'n gwesteion o Gymru yn y ffair fasnach. Roedd hyn yn gyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd allforio a'r gefnogaeth sydd ar gael i gwmnïau o Gymru. Roedd hefyd yn galluogi cynrychiolwyr y daith fasnach i rwydweithio â chysylltiadau a rhanddeiliaid yn y farchnad.
Gyda'r nos, cynhaliom ginio gyda Phrif Gonswl Prydain yn Düsseldorf ar gyfer cysylltiadau allweddol o Ogledd Rhine-Westphalia, a oedd yn gyfle i ni arddangos bwriadau Cymru ar gyfer y dyfodol, a'i gwaith ymgysylltu â llywodraethau rhanbarthol, diwydiant a chyfryngwyr allweddol, yn ogystal ag ailddatgan ymrwymiad Cymru tuag at gynaliadwyedd, yr economi gylchol, cydraddoldeb rhywedd a chenedlaethau'r dyfodol.
Ar fore dydd Mawrth 12 Tachwedd fy nyletswydd olaf ar yr ymweliad â'r Almaen oedd ymweld â WEPA yn Arnsberg-Müschede, un o brif gyflenwyr papur ar gyfer y cartref, gyda chyfleuster yng Nghymru yn cyflogi tua 350 o bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr.