Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Yn ddiweddar, fe wnes i ymweld â'r Unol Daleithiau am dri diwrnod, gan deithio i Atlanta, Georgia a Birmingham, Alabama i hyrwyddo ein cysylltiadau economaidd ac atgyfnerthu ein cysylltiadau diwylliannol unigryw. Roedd yr ymweliad yn cynnwys arwyddo Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol rhwng Cymru a Birmingham, a chyfarfodydd gyda busnesau a sefydliadau economaidd y rhanbarth. Cwrddais hefyd â swyddogion blaenllaw yr Unol Daleithiau, y Dalaith a'r Ddinas ac arweinwyr o fudiad hawliau sifil Alabama. Fel rhan o’r ymweliad, siaradais ochr yn ochr â Barnwr Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau, Ketanji Brown Jackson, ar wahoddiad Eglwys y Bedyddwyr 16th Street wrth iddynt goffáu 60 mlynedd ers bomio hiliol eu heglwys, gweithred o gasineb a hawliodd fywydau pedair merch ifanc.
Mae'r cysylltiadau rhwng Cymru a Birmingham yn llawn hanes ac yn deillio o ymateb y cyhoedd yng Nghymru i’r bomio ar 15 Medi 1963 lle cafodd pedair merch ifanc ddu eu llofruddio a chafodd yr eglwys ddifrod mawr. Fel arwydd o undod gyda'r gymuned Affricanaidd-Americanaidd yn Birmingham, cododd pobl Cymru arian ar gyfer creu ffenestr wydr lliw ar gyfer yr eglwys, a ddyluniwyd gan yr artist Cymreig John Petts gan ddarlunio Crist croeshoeliedig du. Cafodd 'Ffenestr Cymru' ei chysegru ym 1965 ac mae'n dal yn rhan ganolog o gymuned Eglwys y Bedyddwyr 16th Street. Roedd cyfraniad Cymru i'r seremoni hefyd yn ein galluogi i dalu teyrnged i waddol parhaus yr ymgyrch dros gyfiawnder hiliol yr oedd Birmingham mor flaenllaw wrth ei hyrwyddo, a myfyrio ar y ffordd y mae eu haberthau wedi ysbrydoli pobl o liw ar draws y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru.
Ar ôl cyrraedd Atlanta, cwrddais â Chonswl Cyffredinol Prydain i drafod y dirwedd economaidd yn nhaleithiau'r de a'r cyfleoedd sy'n bodoli i hybu cysylltiadau masnach a buddsoddi gyda busnesau Cymru. Dilynwyd hyn gan gyfarfod ag Airbus, buddsoddwr allweddol yng Nghymru, i ddeall sut mae'r safleoedd ym Mrychdyn ac Alabama yn cyfnewid arferion gorau, arloesedd a thalent. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig clywed sut y gallwn gydweithio i hyrwyddo gyrfaoedd STEM a chyfleoedd i ddatblygu'r gweithlu yng Ngogledd Cymru, gan nodi nifer o gyfleoedd y gellir eu datblygu. Cefais gyfle hefyd i ymweld â Moneypenny, cwmni cyfathrebu cwsmeriaid o Gymru gyda'i bencadlys yn yr Unol Daleithiau yn Atlanta, mynd ar daith o amgylch ei ganolfan newydd ac edrych pa gyngor sydd gan Moneypenny i gwmnïau eraill o Gymru sy'n ceisio sefydlu canolfan yn yr UDA. Cyfarfûm â llysgennad Llywodraeth Cymru, La-Chun Lindsay, i drafod y gwaith y bu hi yn ei wneud ar ran Cymru a'n strategaeth ymgysylltu ar gyfer yr Unol Daleithiau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Fy nghyfarfod olaf yn Atlanta oedd trafodaeth ford gron ar dwf cynhwysol ac entrepreneuriaeth leiafrifol, a gynhaliwyd gan y Sefydliad Polisi Blaengar, gan gynnwys mewnwelediad gan entrepreneuriaid, arbenigwyr diwydiant, a swyddogion o lywodraeth leol i ffederal.
Ar ôl teithio i Birmingham, roedd y ffocws ddydd Gwener ar y gwasanaeth coffa 60 mlynedd ers bomio'r eglwys, a chwrdd â ffrindiau a theuluoedd dioddefwyr. Roedd yn anrhydedd cyflwyno neges o gyfeillgarwch a chydgefnogaeth o Gymru mewn gwasanaeth a oedd o arwyddocâd cenedlaethol gwirioneddol yn yr Unol Daleithiau. Mae Cymru a Birmingham wedi meithrin perthynas ystyrlon a hirsefydlog dros y chwe degawd diwethaf, gan arwain at arwyddo Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol gyda dinas Birmingham. Bydd y Cytundeb yn meithrin cysylltiadau cryfach, yn gwella cyfnewid diwylliannol, yn cefnogi cyfleoedd ar gyfer twf economaidd cryfach, ac yn creu buddion i'r ddau ranbarth ar draws meysydd allweddol y Celfyddydau a Diwylliant, Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd, ac Addysg.
Fel symbol o'n cyfeillgarwch, cysegrodd y Maer Randall Woodfin a minnau bedair coeden ym Mharc Kelly Ingram, sy'n symbol o'r pedair merch a lofruddiwyd - Addie Mae Collins, Cynthia Morris Wesley, Carole Robertson a Denise McNair. Fel rhan o'r seremoni o gysegru'r coed, dadorchuddiais blac coffa sy'n nodi'r 60 mlynedd o gyfeillgarwch rhwng Cymru a Birmingham. Cefais hefyd yr anrhydedd o ymweld â chartref Lisa McNair, chwaer Denise, i gyflwyno anrheg i'r teulu ar ran pobl Cymru.
Es hefyd i ford gron economaidd yn y Depo Arloesi yn Birmingham gydag arweinwyr economaidd lleol i nodi meysydd posibl o gydweithio economaidd a chyfleoedd ar gyfer partneriaeth, ac i drafod sut y gallem fonitro cynnydd y Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol. Cytunwyd ar ffyrdd o weithio a nodwyd cyfleoedd addawol i gynnal gweithgarwch cynnar dros yr wythnosau nesaf. Cwrddais â Tquila Automation, ymgynghoriaeth awtomeiddio yn Texas a buddsoddwr yng Nghymru, a ehangodd yn ddiweddar i Birmingham, AL. Trwy gydol ein trafodaethau gyda lleisiau o fyd busnes, arbenigwyr a swyddogion etholedig, canolbwyntiais yn bennaf ar feysydd o gryfder cymharol Cymru yn y farchnad yn yr Unol Daleithiau – megis gwyddorau bywyd, technoleg, gweithgynhyrchu uwch a diwydiannau creadigol – a gwersi o ran yr hyn sy'n gweithio wrth helpu pobl o gefndiroedd difreintiedig i fod yn entrepreneuriaid llwyddiannus.
Ar y diwrnod olaf yn Birmingham, cymerais ran mewn sesiwn banel yn y Ffwrneisi Sloss hanesyddol gydag ymgyrchwyr blaenllaw o fudiad hawliau sifil Birmingham. Roedd hwn yn gyfle i drafod profiadau byw a'r camau rydym yn eu cymryd yng Nghymru ac Alabama i frwydro yn erbyn hiliaeth – gan gynnwys Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol. Yn y sesiwn hefyd roedd pobl ifanc yr Urdd, a oedd yn Birmingham i ddysgu am hawliau sifil a hyrwyddo eu neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023 am wrth-hiliaeth.
Yn olaf, roedd cyfle i ddod â phartneriaid ynghyd a oedd wedi cefnogi’r ymweliad a datblygu'r Cytundeb Cyfeillgarwch. Cynhaliodd Birmingham Sister Cities dderbyniad ar gyfer rhanddeiliaid allweddol ar draws busnes, addysg a diwylliant ym mhartneriaeth Birmingham a Chymru. Roedd y digwyddiad yn gyfle i dreulio amser gyda gwirfoddolwyr o’r Urdd ochr yn ochr ag ymgyrchwyr hawliau sifil a’r partneriaid sy'n gyfrifol am gyflawni ein gweithgareddau cydweithredol. Roedd y Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol a'r digwyddiadau cysylltiedig yn ail-ddatgan yr ymrwymiad ar y cyd ar lefel wleidyddol a chymunedol i yrru'r berthynas yn ei blaen.
Ar ôl y digwyddiadau hyn, ymwelodd Llysgennad yr Unol Daleithiau i’r DU, Jane D. Hartley, â’r Senedd ar 20 Medi. Bu'r Llysgennad Hartley yn trafod Coffáu Birmingham a mynegodd ddiddordeb mewn cefnogi ymdrechion i gryfhau'r cysylltiadau rhwng y ddwy gymuned i helpu i gynnal gwaddol cadarnhaol i bobl yng Nghymru ac UDA.