Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Treuliais amser yn Washington DC rhwng 20 a 22 Tachwedd yn arwain rhaglen o ddigwyddiadau gyda’r nod o godi proffil Cymru ochr yn ochr â gêm grŵp gyntaf tîm Cymru, yn erbyn UDA, ym Mhencampwriaeth Cwpan Pêl-droed y Byd.
Yn ystod fy nghyfarfod cyntaf, cwrddais i â La-Chun Lindsay, Cennad Llywodraeth Cymru sydd wedi hyrwyddo Cymru yn gyson fel lle gwych i wneud busnes. Mae hi hefyd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau anrhydeddus megis cadeirio panel yn y Cenhedloedd Unedig ar gydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Roedd y cyfarfod yn gyfle ardderchog i glywed y diweddaraf am y gwaith mae hi wedi bod yn ei wneud ar ran Cymru a Llywodraeth Cymru a thrafod cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Yn ystod digwyddiad arddangos o’r enw ‘Soccer in the Circle’, a gynhaliwyd yng Nghylch Dupont, croesawais i tua 2,000 o gefnogwyr a rhanddeiliaid busnes i wylio’r gêm rhwng Cymru ac UDA ar sgriniau mawr yn yr awyr agored yn fyw. Manteisiwyd ar y digwyddiad i arddangos deunyddiau marchnata Croeso Cymru a denu sylw cyfryngau’r Unol Daleithiau. Roedd yn gyfle gwych i ddathlu diwylliant Cymru ac America ar y cyd – gan gynnwys cynhyrchiad byw o ddarn o gelf ar y cyd a grëwyd gan artist Americanaidd lleol ac artist ifanc o Gymru a noddwyd gan yr Urdd, sef un o’n partneriaid ‘Tîm Cymru 22’. Roedd bwyd a diod o Gymru ar gael yn ystod y digwyddiad, ac roedd hynny’n gyfle gwych i fynychwyr ddysgu rhagor am y cysylltiadau rhwng ein gwledydd.
Daeth diwrnod cyntaf fy ymweliad i ben gyda derbyniad a gynhaliwyd gan dîm DC Llywodraeth Cymru a Llysgennad Ei Fawrhydi i UDA, y Fonesig Karen Pierce. Cafodd y digwyddiad ei fynychu gan uwch-arweinwyr yn y byd busnes a’r byd addysg, ynghyd â diplomyddion eraill. Cynigiodd hyn gyfrwng imi roi sylw i gyfleoedd ym meysydd datblygu economaidd, addysg a chwaraeon rhwng y ddwy wlad, a’r cysylltiadau rhwng Cymry ac Americanwyr sydd wedi byw yng ngwledydd ei gilydd.
Ar ail ddiwrnod fy rhaglen, cynhaliais i gyfarfod dwyochrog â’r Llysgennad i drafod sut y gall tîm y Llysgenhadaeth hyrwyddo Cymru ymhellach.
Ar gyfer digwyddiad olaf fy rhaglen, cynhaliwyd cyfarfod bord gron ag uwch-arweinwyr busnes o Gymdeithas Busnes Prydain America (BABA). Gwnaethom drafod sut maen nhw’n ymdrin â heriau gwleidyddol ac economaidd presennol ac yn hyrwyddo cryfderau Cymru mewn sectorau megis technoleg ariannol, gweithgynhyrchu a seiberddiogelwch. Roedd hwn hefyd yn gyfle i’n tîm yn yr Unol Daleithiau wneud cysylltiadau uniongyrchol ag arweinwyr o Washington DC sydd ymhlith y buddsoddwyr mawr yng Nghymru, megis GE ac IQE.
Roedd y sylw a roddodd y cyfryngau i Gymru yn ystod fy ymweliad yn eang ac amrywiol. Cymerais ran mewn cyfweliadau radio a theledu, ac fe roddodd nifer o rwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol sylw i’r gêm, gan gyfeirio at y cysylltiadau rhwng Cymru ac UDA. Roedd y sylw a gawsom gan bapur atodol y Washington Post Metro yn destun cryn bleser inni, gydag erthygl ar y digwyddiad ‘Soccer in the Circle’ ar dudalen flaen ei atodiad Metro a dalen ddwbl y tu mewn iddo a oedd yn cynnwys cyfweliadau ag Americanwyr a oedd wedi astudio yng Nghymru.
Yn ddi-os, mae ein proffil yn UDA wedi codi o ganlyniad i’r ymweliad a’n proffil yng Nghwpan y Byd. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau cyfleoedd masnachu, buddsoddi ac addysg yn y dyfodol.