Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 18-19 Mai, ymwelais â Norwy am ddeuddydd. Prif bwrpas yr ymweliad oedd ymuno ag Urdd Gobaith Cymru wrth i’r mudiad nodi canmlwyddiant ei neges o heddwch ac ewyllys da; fodd bynnag, cynhaliais hefyd raglen ehangach o ddigwyddiadau diplomataidd a digwyddiadau a oedd yn gysylltiedig â materion economaidd tra oeddwn yn Oslo.

Ar y diwrnod cyntaf, cyfarfûm â Chargé d’affaires Prydain i Norwy a gwnaethom drafod y sefyllfa economaidd a gwleidyddol yn Norwy. Yna teithiais i Ganolfan Heddwch Nobel ar gyfer lansiad 100fed Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd a oedd yn canolbwyntio ar yr Argyfwng Hinsawdd. Galwad i weithredu gan blant a phobl ifanc Cymru yw’r neges i bobl ifanc y byd, i ddefnyddio grym eu llais i annog llywodraethau a chorfforaethau mawr i gymryd camau brys i achub ein planed. Cefais gyfle i gwrdd â myfyrwyr o Aberystwyth a Norwy yn ogystal â Chyfarwyddwr Canolfan Heddwch Nobel ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Cyfarfûm â chwmni ynni adnewyddadwy o Norwy, sydd â safle yng Nghymru, i ddysgu mwy am ei gynlluniau i ehangu ei bortffolio a'i waith yng Nghymru ac i drafod sut y gall y cwmni gefnogi ein cynllun Cymru Sero Net.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, cyfarfûm â Chyngor Cenedlaethol Sefydliadau Plant a Phobl Ifanc Norwy( LNU), sy'n cynrychioli 105 o sefydliadau ieuenctid ledled Norwy, i siarad am hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru a Norwy. Roedd hefyd yn gyfle i drafod Taith yn ogystal â dysgu am gynlluniau Norwy i ganiatáu i bobl ifanc 16-17 oed bleidleisio a rhannu profiadau Cymru.

Ar 19 Mai, cyfarfûm â chwmni rhyngwladol amlwg o Norwy sydd, ymhlith ei bortffolio, yn rheoli nifer o gwmnïau ynni adnewyddadwy. Buom yn trafod yr hyn y gall Cymru ei gynnig o ran ynni gwynt a llanw, yn ogystal ag ynni niwclear, gan gynnwys cryfder ein perthynas ag Iwerddon a'n cynlluniau ar gyfer ynni adnewyddadwy yn y Môr Celtaidd.

Yn olaf, cyfarfûm â Sprakradet – Cyngor Iaith Norwy – i drafod dull Norwy o ddiogelu ieithoedd lleiafrifol Norwy. Mae diogelu enwau lleoedd yn arbennig o bwysig i Gymru a Norwy a chytunwyd i gydweithio i rannu arfer gorau o ran cefnogi ieithoedd lleiafrifol.