Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhwng 9 a 10 Mai gwnes ymweld â Qatar am ddeuddydd. Prif ffocws yr ymweliad hwn oedd datblygu cysylltiadau economaidd rhwng ein dwy wlad.

Credwn mewn ymgysylltu â gwledydd nad ydynt bob amser yn rhannu ein gwerthoedd o ran hawliau dynol, hawliau LHDTC+, hawliau gweithwyr a rhyddid gwleidyddol a chrefyddol. Mae ymgysylltu â gwledydd yn gyfle i ddatblygu llwyfan ar gyfer trafodaeth bellach, codi ymwybyddiaeth, ac o bosibl ddylanwadu er mwyn newid ffordd o weithio.

Mae teithiau masnach ac ymweliadau tramor yn rhoi llwyfan o'r fath i drafod ein gwerthoedd, fel rhan o'n gwaith ehangach ar gyfer datblygu cysylltiadau rhyngwladol, ein gwaith ar ddatblygu economaidd, a'n huchelgeisiau fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Drwy'r gwaith hwn rydym yn ceisio ymgysylltu'n adeiladol ac amlinellu ffordd o weithio Cymru, a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd.

Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle i drafod ein gwerthoedd gyda sefydliadau Qatar, a chefais gyfle i drafod hawliau dynol yng nghyd-destun Cwpan y Byd. Mynegais yr angen i’r holl gefnogwyr deimlo bod croeso iddynt yn y digwyddiad byd-eang pwysig hwn, sydd â’r potensial i daflu goleuni ar faterion allweddol o ran hawliau dynol.

Ar y diwrnod cyntaf, gwnes gynnal cyfarfod bord gron ar gyfer y cwmnïau Cymreig a oedd yn cymryd rhan mewn taith fasnach â Qatar. Roedd hwn yn gyfle i mi gwrdd â'r cwmnïau, deall eu dyheadau ar gyfer y daith fasnach a'r gefnogaeth a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r amcanion hyn. Roedd hefyd yn gyfle i glywed yn uniongyrchol am eu profiadau o wneud busnes yn Qatar a deall y cyfleoedd a'r heriau y maent yn eu hwynebu.  Roedd hon yn daith fasnach aml-sector a drefnwyd fel rhan o'r broses gweithredu ein Cynllun Gweithredu Allforio i Gymru ac roeddwn yn falch o weld cynrychiolwyr o bob math o sectorau, gan gynnwys bwyd a diod, gweithgynhyrchu, a gwasanaethau hyfforddiant ac addysg.

Roedd y cyfarfod bord gron hefyd yn gyfle i ddysgu am y cymorth ymarferol yr hoffai allforwyr ei dderbyn er mwyn ei gwneud hi’n haws iddynt wneud busnes yn Qatar, gyda rhai'n dweud y gallai adfer y cyswllt awyr rhwng Caerdydd a Doha fod yn gam cadarnhaol. Roedd hyn yn ddefnyddiol o ran llywio trafodaethau gyda Qatar Airways a Maes Awyr Caerdydd a gynhaliais yn ddiweddarach yn ystod fy ymweliad. Pwrpas fy nghyfarfod â Phrif Weithredwr Grŵp Qatar Airways oedd trafod ailddechrau gwasanaeth Doha - Caerdydd y cwmni awyrennau ac atgyfnerthu'r berthynas a fu'n blodeuo cyn COVID.  Roedd y drafodaeth yn ddefnyddiol a chytunwyd ar gamau eraill yr oedd angen eu datblygu.

Cyfarfûm ag Awdurdod Parth Di-dâl Qatar (QFZA), sef sefydliad sy'n helpu buddsoddwyr tramor i sefydlu yn Qatar, i gryfhau'r cysylltiadau economaidd rhwng Qatar a Chymru. Roedd hwn yn gyfle i ddeall sut y gall y QFZA gefnogi buddsoddwyr tramor, gan gynnwys y rhai o Gymru, i ehangu eu busnes drwy greu safle yn Qatar. Defnyddiais y cyfarfod hefyd i drafod y cyhoeddiad sydd ar y gweill am Borthladdoedd Rhydd y DU a buom yn trafod sut y gall y QFZA weithio gyda phorthladdoedd rhydd yng Nghymru.

Cyfarfûm ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Qatar i ddysgu am ei phartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a'i chynlluniau i atgyfnerthu cysylltiadau â Chymru drwy gydweithio â phrifysgolion eraill yng Nghymru. 

Cefais yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lysgenhadaeth Prydain yn Doha am gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Cwpan y Byd FIFA a chyfarfûm â'r sefydliad sy'n gyfrifol am gynnal Cwpan y Byd, y Goruchaf Bwyllgor Cyflawni ac Etifeddiaeth (SCDL), i ddysgu mwy am ei gynlluniau a sut y mae'n bwriadu sicrhau croeso i bob cefnogwr sy'n teithio i Qatar yn ddiweddarach eleni.

Yn olaf, cynhaliais dderbyniad rhwydweithio ar gyfer cymuned fusnes Qatar, y cwmnïau o Gymru sy'n cymryd rhan yn y daith fasnach, diaspora Cymreig yn Qatar a phobl â chysylltiadau â Chymru. Yn gyffredinol, roedd yr ymweliad yn gyfle i hyrwyddo Cymru a thynnu sylw at y berthynas fusnes gadarnhaol rhwng ein dwy wlad, gan gefnogi amcanion ehangach ein Strategaeth Ryngwladol.