Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yr wyf yn falch o gael cyflwyno adroddiad am fy ymweliad diweddar â Stockholm. Amcanion cyffredinol yr ymweliad oedd cael gweld drosof fy hun dri maes allweddol o’m mhortffolio lle mae Sweden wedi bod yn arbennig o arloesol a llwyddiannus. Y meysydd dan sylw oedd y rôl enfawr y mae tai cymdeithasol a chyrff cydweithredol yn ei chwarae yn sector tai Sweden, y defnydd o gyfleusterau diwylliannol amlddefnydd bywiog, a’r dull cynhwysol a democrataidd sy’n cael ei weithredu gan ei phrif amgueddfeydd.

Un o’r cyfarfodydd allweddol a gefais oedd cyfarfod gyda chorff Tai Cydweithredol HSB. Er bod tua 20% o boblogaeth Sweden yn byw mewn cartrefi cydweithredol, mae hon yn ffordd o fod yn berchen ar gartref fforddiadwy sydd heb ei hystyried yn drwyadl yn y DU. Yn Stockholm, mae'r HSB yn un o’r prif gyrff yn y maes tai, ac mae ganddo enw da am stoc tai sydd o ansawdd uchel, ynghyd â phwrpas cymdeithasol clir. Mae’r enghraifft hon o gorff tai cydweithredol wedi rhoi ‘help llaw’ i gannoedd o filoedd o deuluoedd fedru cael cartref boddhaol y byddent fel arall wedi methu â’i gael. Ar ôl siarad â staff, ac ymweld â pherchnogion cartrefi cydweithredol mewn lleoliadau gwahanol ledled y ddinas, yr wyf yn benderfynol o ddangos y gallai’r model tai hwn ddiwallu anghenion teuluoedd tebyg yng Nghymru. Bydd y cysylltiadau a wnaed yn amhrisiadwy dros y misoedd nesaf wrth i ni fynd ati i ddatblygu'r sector tai cymdeithasol embryonig yng Nghymru.

Mae 'Kulturhuset' (tai diwylliant), neu leoliadau diwylliannol amlddefnydd, yn chwarae rhan hanfodol yn hyrwyddo mynediad i ddiwylliant yn Sweden. Mae ynddynt lyfrgelloedd arloesol sydd wedi eu hanelu at gynulleidfaoedd gwahanol, lleoliadau a chyfleusterau celfyddydol, a mannau manwerthu ac arlwyo. Maent yn cael eu hystyried yn rhan bwysig o brosiectau adfywio, maent yn chwalu’r rhwystrau rhwng y naill genhedlaeth a’r llall ac yn gwella cynhwysiant a llythrennedd. Mae'r rhain yn amcanion sydd yn uniongyrchol berthnasol i ddatblygiad Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, fframwaith strategol ar gyfer llyfrgelloedd Cymru. Ymwelais â dau leoliad o'r fath, y Kulturhuset a'r Dieselverkstaden. Roedd y ddau wedi chwarae rhan ganolog mewn cynlluniau adfywio trefol mawr. Mae’r cynllunio gofalus a’r nod o sicrhau hygyrchedd i bawb yn golygu eu bod yn fwrlwm o fywyd o ben bore tan yn hwyr y nos chwe diwrnod yr wythnos. Roedd y gweithgareddau a’r cyfleusterau wedi eu hanelu at, ac yn amlwg yn apelio at bob oedran, gan gynnwys pobl ifanc, sydd, yn aml, yn bobl anodd ymgysylltu â hwy. Mae angen i ni sicrhau bod arferion da o'r fath yn rhan annatod o’r gefnogaeth strategol yr ydym yn ei rhoi i’r celfyddydau ac i lyfrgelloedd yma yng Nghymru.

Mae amgueddfeydd Stockholm ymysg y rhai mwyaf poblogaidd yn Ewrop ac yn nodedig am eu dull poblogaidd a chynhwysol o ymdrin â hanes. Gyda buddsoddiad cyfalaf mawr ar y gweill ar gyfer Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, roedd hwn yn gyfle perffaith i holi a thrafod gyda staff uwch yn amgueddfa awyr agored Skansen, rhagflaenydd Sain Ffagan, a’r ysbrydoliaeth drosti. Yn fy marn i, bydd yn gwbl hanfodol i ni gynnwys Cymru gyfan yn y stori y bydd Sain Ffagan yn ei hadrodd. Fel y dywedodd aelod o staff yn ein hamgueddfeydd ac orielau ni, dylai holl bobl Cymru deimlo eu bod yn rhan o'r stori, yn hytrach na theimlo mai dim ond ymwelwyr ydynt.

Roedd yr Amgueddfa Hanesyddol ac Amgueddfa Vasa yn drawiadol hefyd; y gyntaf sy’n gyfrifol am adrodd hanes Sweden a'r ail am adrodd hanes llong ryfel ganoloesol wych, gan wneud hynny mewn ffyrdd sydd wir yn ennyn diddordeb. Roedd y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn amlwg ym mhob amgueddfa, ac fel dywedodd un cyfarwyddwr amgueddfa wrthym, roedd yr holl gynllunio’n cynnwys darpariaeth ‘ar gyfer plant, gan blant a chyda phlant'.

Yn ystod fy ymweliad, ymwelais hefyd â Llysgenhadaeth Prydain, a thrwy’r cyfarfod hwn, yr wyf yn gobeithio y byddaf yn gallu meithrin cysylltiadau mwy clòs rhwng ein gwledydd yn y dyfodol er mwyn parhau â'r ddeialog. Roedd fy ymweliad yn addysgiadol ac yn amserol ac rwyf wedi cyrraedd adref â llawer o syniadau y gallwn ni fynd i’r afael â hwy yma yng Nghymru.