Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Seland Newydd. Cefais wahoddiad ers to gan Lywodraeth Seland Newydd i ymweld ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd. Roedd hyn yn gyfle delfrydol i ni ddefnyddio Cwpan y Byd fel llwyfan i godi’n proffil yn Seland Newydd a thu hwnt.
Yn ogystal â gwylio seremoni agoriadol Cwpan y Byd a gêm Cymru v De Affrica, roedd fy ymweliad pum niwrnod yn cynnwys nifer o gyfarfodydd â busnesau a Gweinidogion yn Auckland ac yn Wellington. Hefyd cefais fy nghyfweld nifer o weithiau ar gyfer y teledu a radio, a oedd yn gyfle gwych i godi proffil Cymru.
Fy nigwyddiad cyntaf oedd llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Phwyllgor Paralympaidd Oceania a gytunodd y byddai holl wledydd Paralympaidd Rhanbarth Oceania – Awstralia, Ffiji, Tonga, Vanuatu, Papwa Gini Newydd ac Ynysoedd Solomon – yn aros yng Nghaerdydd cyn Gemau Paralympaidd 2012. Daw hyn ar ben y cytundeb a lofnodwyd y llynedd gyda Paralympics New Zealand sy’n golygu y bydd tîm Paralympaidd Seland Newydd yn aros yn Abertawe. Roedd yn addas i hyn ddigwydd ar y Diwrnod Paralympaidd Rhyngwladol. Rwyf wrth fy modd hefyd i Athletics New Zealand gyhoeddi yn ystod fy ymweliad pum niwrnod y byddant yn sefydlu canolfan hyfforddi yng Nghaerdydd cyn Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Roedd yr achlysuron eraill yn cynnwys cinio gyda phobl fusnes Seland Newydd, digwyddiad rhwydweithio cymdeithasol gyda newyddiadurwyr a chwmnïau twristiaeth a swper gyda’r Dirprwy Uchel Gomisiynydd, lle’r oedd nifer o swyddogion y Llywodraeth yn bresennol. Cafwyd trafodaeth ynghylch y potensial o rannu gwybodaeth ac arbenigedd ym maes rheoli’r sector cyhoeddus.
Hefyd cynhaliodd Llywodraethwr Cyffredinol Seland Newydd swper lle’r oedd Dirprwy Arlywydd De Affrica, tri o Weinidogion eraill De Affrica, Uchel Gomisiynydd De Affrica a’u swyddogion yn bresennol. Roedd y gwesteion eraill yn cynnwys Uchel Gomisiynydd Seland Newydd a chynrychiolwyr Uchel Gomisiwn Prydain.
Hefyd bûm i ar ymweliad ag Amgueddfa Te Papa yn Wellington, sef amgueddfa ac oriel gelf genedlaethol Seland Newydd. Roedd y digwyddiad yn cyd-ddigwydd â ‘Diwrnod Cymru’. Roedd nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ac roedd pobman yn fôr o goch. Cefais groeso cynnes wrth annerch cynulleidfa fawr a oedd wedi ymgasglu yn yr amgueddfa ar gyfer y cyngerdd Cymreig.
Bûm ar ymweliad â’r Orakei Marae lle cefais fy nghroesawu â seremoni draddodiadol gan y gymuned Maori.
Ar fy niwrnod olaf yn Seland Newydd cefais gyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth Seland Newydd – y Gweinidog Addysg, y Gweinidog Amaethyddiaeth, y Gweinidog Iechyd, y Gweinidog Materion Maori a’r Prif Weinidog. Roedd hyn yn gyfle i drafod amryw feysydd polisi a rhannu gwybodaeth a dysgu oddi wrth ein gilydd. Roedd y derbyniadau cyn y gêm hefyd yn gyfle i mi gwrdd â nifer o Weinidogion Llywodraethau o rannau eraill o’r byd a chodi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Rwy’n atodi copi o raglen fy ymweliad er gwybodaeth i chi.
Dogfennau
-
Ymweliad â Seland Newydd: rhaglen, Saesneg yn unig, math o ffeil: doc, maint ffeil: 120 KB
Saesneg yn unig120 KB