Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, bydd Estyn yn cyhoeddi llythyr yn amlinellu canlyniadau ei ymweliad monitro diweddar â Thorfaen (a gynhaliwyd rhwng 18 a 22 Chwefror 2013).  Yn dilyn arolygiad gan Estyn o wasanaethau addysg Torfaen ym mis Hydref 2011, nodwyd bod angen gweithredu mesurau Gwelliant Sylweddol mewn perthynas â’r awdurdod. Gwneir y datganiad hwn i dynnu sylw’r Aelodau at ddyfarniadau Estyn yn sgil cynnal yr ymweliad monitro hwn.
Mae’r llythyr sy’n crynhoi canlyniadau’r ymweliad yn cynnwys beirniadaethau o berfformiad yr awdurdod lleol. Nododd y tîm arolygu na wnaed llawer o gynnydd gan yr awdurdod yn erbyn y rhan fwyaf o’r argymhellion, a bod gwelliant wedi bod yn araf ers cynnal yr arolygiad gwreiddiol ym mis Hydref 2011.  
Ar ôl cwblhau’r arolygiad gwreiddiol, cyflwynodd Estyn bump o argymhellion i’r awdurdod eu gweithredu, ond yn ystod yr ymweliad monitro daeth yr arolygiaeth i’r casgliad mai dim ond tri argymhelliad oedd wedi’u gweithredu’n rhannol, ac nad oedd wedi rhoi sylw i’r ddau arall. Felly, mae’r tîm arolygu o’r farn nad yw’r awdurdod wedi gwneud cynnydd digonol o ran gweithredu argymhellion yr adroddiad arolygu ac y dylid rhoi’r awdurdod yn y categori Mesurau Arbennig.
Mae casgliadau Estyn yn destun pryder imi. Mae’n hynod o siomedig gweld bod awdurdod a allai fod wedi elwa ar arolygiad Estyn, ac a gafodd argymhellion clir i’w gweithredu, wedi methu â mynd i’r afael â’r problemau yn ddigon cyflym ac â’r brys yr oedd ei angen. Mae casgliadau Estyn mai ychydig o gynnydd a wnaed gan yr awdurdod, a hynny’n gynnydd araf, 16 mis wedi’r arolygiad gwreiddiol, yn annerbyniol. Rwy’n disgwyl i Arweinydd y Cyngor gymryd y camau priodol.   
Mae’r methiannau hyn yn dangos gwendidau difrifol yn y modd y mae’r awdurdod yn rheoli gwasanaethau addysg. Rhaid i’n hymateb wella deilliannau i blant a phobl ifanc yr ardal ar frys, a hefyd rhaid i unrhyw gamau a gymerir fod yn gynaliadwy yn y tymor hir. I’r perwyl hwn, bydd fy adran yn gweithio dros yr wythnosau nesaf i ystyried y ffordd orau o ymateb. Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau arfaethedig yr ydym am eu cymryd yn cael ei rhoi i Aelodau’r Cynulliad cyn gynted ag y byddaf wedi gwneud penderfyniad ar y mater.