Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae lansio bargen y sector niwclear yn y DU yng Ngogledd Cymru heddiw yn gam pwysig ymlaen i’r sector, ac mae’n adeiladu ar y momentwm sy’n cael ei greu gan y cyhoeddiad diweddar ar ariannu prosiect arfaethedig Wylfa Newydd.  Fel llywodraeth, rydym yn cydnabod posibiliadau enfawr y sector niwclear o ran twf economaidd a darparu yn erbyn ein nod canolog o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol a sicrhau llewyrch i bawb.  

Mae posibiliadau’r sector yn cael eu cydnabod gan ein partneriaid o’r awdurdodau lleol, prifysgolion, partneriaethau sgiliau rhanbarthol, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac yn hanfodol, màs critigol cwmnïau arloesol, blaengar a galluog y gadwyn gyflenwi niwclear yng Nghymru.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn flaengar iawn dros sawl blwyddyn wrth gefnogi’r sector niwclear.  Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y sector am nifer o flynyddoedd.  Rydym wedi cefnogi y cadwyni cyflenwi cystadleuol a galluog yng Nghymru drwy raglenni fel Fit for Nuclear a helpu i greu Fforwm Niwclear Cymru, sy’n ddeinamig a llwyddiannus iawn, ac yn llais i’r sector yng Nghymru.  Rydym wedi targedu’r angen i ddatblygu sgiliau lleol yn enwedig yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn falch o fod wedi gallu cefnogi buddsoddiadau cyfalaf yng Ngholeg Menai a chefnogi’r cynllun arloesol Cwmni Prentis Menai – rhaglen o brentisiaethau ar y cyd dros sawl blwyddyn.  

Rydym yn cydnabod y posibiliadau gwirioneddol o greu canolfan ragoriaeth o sgiliau a gallu niwclear yng ngogledd Cymru, a dyma pam yr ydym wedi arwain y broses o dargedu datblygu, ymchwil ac arloesi ar Ynys Môn, o fewn cyd-destun y North West Nuclear Arc.   Mae’r consortiwm o dan arweiniad Prifysgol Bangor yn cynnal Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi Niwclear ar hyn o bryd a fydd gobeithio yn helpu i wneud penderfyniadau ar fuddsoddiadau o fewn Bwa Niwclear y Gogledd-orllewin, yn dilyn cyhoeddi Bargen y Sector Niwclear.  Mae ein dull o weithio, yn unol â’r Cynllun Gweithredu Economaidd, yn seiliedig ar gydweithio a chynllunio ar y cyd ble yr ydym yn ceisio mynd ati i gydweithio â’r diwydiant a’n partneriaid, i ddylanwadu ar ddatblygiadau o fewn y DU yn uniongyrchol.  

Prawf o ba mor effeithiol yw’r dull hwn o weithio yw’r ffaith bod bargen y sector niwclear yn cael ei lansio heddiw yn Nhrawsfynydd.  Mae’r ffaith bod cyfleoedd yn y maes niwclear yn y dyfodol yn cael eu cydnabod ar raddfa’r DU ac yn rhyngwladol yn ganlyniad uniongyrchol y rhagweledigaeth a ddangoswyd gennym wrth ddynodi Ardal Fenter Eryri yn ôl yn 2012.  Mae’r ardal wedi dangos sut y mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â busnesau, awdurdodau lleol a phartneriaid yn helpu i osod sylfeini cadarn ar gyfer sector bywiog sy’n datblygu ac a allai fod o fantais uniongyrchol i’r bobl leol gan helpu i gynnal cymunedau bywiog.  

Ni ddylai’r model llwyddiannus hwn gael ei gyfyngu i’r sector niwclear yn unig.  Mae gennym amcanion datgarboneiddio uchelgeisiol iawn ar gyfer ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio ac mae’r angen a’r cyfle i fanteisio i’r eithaf ar y manteision economaidd i Gymru o newid i garbon isel yn sail i’n datblygiad economaidd cyfan.  Fel y gwŷr yr aelodau yn iawn, roedd fy natganiad yn pwysleisio bod yn rhaid inni gydweithio yn agos â Llywodraeth yu DU i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel.  Dylai blaenoriaeth ynni Llywodraeth y DU gefnogi uchelgeisiau Cymru, nid dim ond rhai Lloegr, yn enwedig oherwydd yr adnoddau ynni cynaliadwy sylweddol ac unigryw yng Nghymru.  

Mae Bargen y Sector yn cydnabod sefyllfa hanesyddol Gogledd Cymru a Chymru a’i sefyllfa yn y dyfodol o fewn diwydiant niwclear y DU.  Mae’r Fargen yn pennu achos deniadol ar gyfer buddsoddiadau a’r camau sydd angen eu cymryd i fod yn sail i gystadleurwydd a phosibiliadau twf y sector.

Wrth edrych ymlaen, rydym yn galw am fwy o fanylion gan Lywodraeth y DU ar y cyfnod amser a’r dulliau ar gyfer darparu’r addewidion a gyhoeddwyd heddiw.  Bydd y manylion hyn yn sicrhau y gallwn ddefnyddio y posibiliadau enfawr yng Ngogledd Cymru ar y cyd i ddarparu Bargen y Sector Niwclear er budd y DU gyfan.  

Rydym yn barod ac yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ddarparu’r agenda niwclear gyffrous iawn a phwysig hon.  

Byddaf yn hysbysu’r aelodau wrth i hyn ddatblygu.