Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru
Rwyf newydd ddychwelyd o Japan yn dilyn fy ymweliad swyddogol cyntaf â’r wlad fel Prif Weinidog.
Gan fod y wlad yn cynnal gemau Cwpan Rygbi'r Byd 2019, roedd hwn yn gyfle gwirioneddol i hyrwyddo Cymru yn Japan a chryfhau'r cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddwy wlad. Roedd fy ymweliad yn cyd-daro ag un o deithiau masnach mwyaf erioed Cymru i Japan, ynghyd â rowndiau agoriadol Cwpan Rygbi'r Byd.
Mae'r cysylltiadau rhwng Cymru a Japan yn ymestyn dros sawl degawd ac ardal – mae 60 o gwmnïau o Japan yng Nghymru ac maent yn cyflogi dros 6,000 o bobl. Mae Japan yn farchnad bwysig i allforion o Gymru, marchnad a oedd yn werth bron i £250m y llynedd, cynnydd o 25%.
Roedd cynrychiolwyr masnach Cymru yn cynnwys 17 o gwmnïau, o amrywiaeth o sectorau, pob un ohonynt yn edrych ar gyfleoedd busnes newydd yn Japan. Roedd hyn yn dilyn taith fasnach bwyd a diod gan Lywodraeth Cymru i Tokyo yn gynharach eleni, ynghyd â thaith fasnach lwyddiannus yn 2018, a oedd yn cynnwys saith cwmni, a lwyddodd i sicrhau archebion allforio gwerth mwy na £670,000.
Yn ystod fy niwrnod cyntaf yn Japan, bûm mewn digwyddiad i hyrwyddo sector seiberddiogelwch adnabyddus Cymru i rai o gwmnïau seiber mwyaf Japan, digwyddiad a drefnwyd ar y cyd â Chlwstwr Seiber Tokyo. Yno, cefais gyfarfod ag NTT, grŵp sy'n cynnwys un o gwmnïau telathrebu mwyaf Japan ac un o'r cwmnïau diogelwch mwyaf i hyrwyddo Cymru fel lle i wneud busnes.
Cynhaliais gyfarfod ag uwch-gynrychiolwyr o Hitachi i drafod y gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau bod Wylfa Newydd yn mynd yn ei blaen a’n bod yn elwa felly ar y potensial ehangach y mae’r prosiect yn ei gynnig ar gyfer economi gogledd Cymru.
Yn ystod fy ymweliad, cefais fynd i sawl digwyddiad yng nghromen Tŷ Cymru yng Ngorsaf Shinjuku – cyfle gwych i arddangos Cymru yng nghanol Tokyo, gan ddenu miloedd o ymwelwyr. Mae'r profiad hwn yn rhan o ymgyrch llawer ehangach yn Japan, sy'n cynnwys partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, cysylltiadau â'r cyfryngau ac ymgyrchoedd marchnata ar gyfryngau cymdeithasol wedi’u hanelu at gynulleidfaoedd a buddsoddwyr busnes yn Japan.
Cefais hefyd gyfle i siarad yn nigwyddiad Wythnos Cymru Fyd-eang yng nghromen Tŷ Cymru, gan gydnabod y rôl bwysig y mae Cymry ar wasgar yn ei chwarae o ran codi proffil Cymru yn rhyngwladol.
Ddydd Sadwrn, teithiais i Oita a Kitakyushu, dwy ddinas sydd wedi rhoi croeso cynnes a brwdfrydig iawn i Gymru. Cefais gyfarfod â Llywodraethwr Oita i drafod meysydd cydweithio posibl. Ar y cyd â’r Llywodraethwr, agorais Arddangosfa Gelf Cymru yn Amgueddfa Gelf Raglywyddol Oita, cyfle i arddangos gwaith gan artistiaid o Gymru mewn lleoliad byd-eang newydd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys perfformiad gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Yn Kitakyushu, gwelais ganlyniadau'r gwaith allgymorth anhygoel y mae Undeb Rygbi Cymru wedi'i wneud yn y dalaith. Cefais gyfarfod â Maer Kitakyushu, llywydd y siambr fasnach a diwydiant, cynrychiolydd busnes a swyddogion o'r ganolfan chwaraeon a diwylliant i drafod y gwaith a fydd yn cael ei wneud ar ôl Cwpan Rygbi'r Byd. Ymunodd cynrychiolwyr o asiantaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Urdd â mi.
Cefais groesawu uwch-swyddogion gweithredol yn ystod y gêm rygbi rhwng Cymru ac Awstralia. Roedd hwnnw'n gyfle i ddiolch i'r buddsoddwyr presennol am eu cefnogaeth barhaus i Gymru. Roedd hefyd yn gyfle i roi gwybod i fuddsoddwyr arfaethedig am fanteision dechrau gweithredu yng Nghymru.
Ddydd Llun, cefais gyfarfod â Sony Corporation, un o brif fewnfuddsoddwyr Japan yng Nghymru, a Tokio Marine & Nichido Fire Insurance Co., Ltd, un o gwmnïau yswiriant mwyaf Japan.
Mae nifer y twristiaid a ddaw o Japan i Gymru wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o ddim twristiaid o Japan ar deithiau pecyn yn 2015-16, i 5,369 yn 2018-19. Mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Cymdeithas Asiantaethau Teithio Japan, cefais gyfle i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, gan dynnu sylw at y bwyd a'r ddiod o ansawdd uchel sydd gennym.
Cynhaliais dderbyniad â Llysgennad Prydain yn Japan er mwyn croesawu'r daith fasnach yno yn swyddogol. Roedd y digwyddiad yn gyfle i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan busnes, gan dynnu sylw at ein diwylliant unigryw ac amrywiol. Ymhlith y 200 o westeion, roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Raglywyddol Japan, mewnfuddsoddwyr presennol a rhai newydd posibl, a Chymry ar wasgar.
Ar fy niwrnod olaf yn Japan, cefais gyfarfod ag un arall o'n mewnfuddsoddwyr allweddol, Panasonic, a siaradais mewn digwyddiad yng nghromen Tŷ Cymru er mwyn hyrwyddo Amgueddfa Cymru.
Mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth a allwn i godi proffil Cymru yn rhyngwladol, gan gynyddu cyfleoedd masnachu ac allforio, ac annog mewnfuddsoddiad.
Mae'r ymweliad hwn – ar adeg pan fo tîm Cymru yn perfformio ar lwyfan chwaraeon y byd – yn gyfle gwych i ddangos bod Cymru yn genedl sy'n edrych tuag allan. Mae hi’n agored ar gyfer busnes, yn benderfynol o gynnal y cysylltiadau presennol sydd ganddi ac yn chwilio am ffyrdd newydd o gryfhau'r cyfeillgarwch a'r cysylltiadau arbennig sy'n bodoli rhwng Cymru a Japan.