Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yn ystod Wythnos y Pasg (10-14 Ebrill), arweiniais daith fasnach i India i annog ein dwy wlad i fasnachu â’i gilydd ac i fuddsoddi.  Ymwelais â Delhi a Mumbai ac ar yr un pryd, roedd dirprwyaeth o gwmnïau o Gymru yn y wlad yn dilyn rhaglen i chwilio am gyfleoedd i fusnesau.  Gydol ein taith, cawsom gefnogaeth ddiflino Uchel-Gomisiwn y DU, UKTI  a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ei hun yn y wlad.

Cefais gwrdd â’r Gweinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Materion Allanol, Ms Preneet Kaur.  Roeddwn yn falch o’r cyfle i ganmol cyfraniad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y gymuned o Indiaid sy’n byw yng Nghymru.  Yn ogystal â’r gymuned barhaol o Gymry o dras Indiaidd, rydym yn elwa hefyd ar 3,000 o fyfyrwyr o India sydd wedi dewis astudio yng Nghymru.  Nodais fod gan Lywodraeth Cymru berthynas ardderchog â Chonswl India yn y DU ac y carem yn fawr weld agor Chonswlad India yng Nghymru, pwnc y mae’r gymuned yma wedi’n holi yn ei gylch.  Dywedodd y Gweinidog fod conswlad yng Nghymrun destun sydd o dan ystyriaeth ganddi.

Trwy Visit Britain, cyfarfûm â chynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth i drafod yr hyn yr oedd gan Gymru i’w gynnig.  Mae’r gymuned o Indiaid yng Nghymru yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer ymwelwyr o India gan greu effaith luosol trwy ddenu teulu a ffrindiau i’r wlad.  Mae gan India gyfradd dwf economaidd dda a pharhaol ac wrth i’w chyfoeth dyfu, mae’r farchnad ar gyfer twristiaeth ryngwladol hefyd yn tyfu ac yn dod yn fwy soffistigedig.  Rhaid inni nawr ddatblygu strategaeth i elwa ar y twf hwn er mwyn i gyfran Cymru ym marchnad ymwelwyr o India ehangu.

Mae gweithgarwch masnachol rhwng Cymru ac India wedi tyfu’n raddol a phleser imi oedd helpu i lansio yn Delhi gynnyrch allforio diweddaraf Cymru.  Ym Mharc Ynni Gwaun Baglan y mae cartref Montagne Jeunesse sy’n cynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch coluro o gynhwysion naturiol.  Mae’r cwmni bellach yn gweithio gyda phartner o India i’w gwerthu ym marchnad India.  Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt.

Roedd yn dda cael bod yn bresennol hefyd wrth arwyddo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Planet Edu, darparwr addysgol o India.  Mae’r partneriaid wedi cytuno i ddatblygu modiwlau dysgu hyblyg ar gyfer y farchnad yn India.  Esboniodd gweinidog addysg yr India, Mr Kapil Sibal (neu’r Gweinidog Adnoddau Dynol fel ag yr oedd cynt) wrthyf fod y Llywodraeth yn bwriadu rhyddfreinio rhai agweddau ar y ddarpariaeth addysg ac mae hynny’n golygu agor marchnad enfawr.  Mae’r farchnad ar gyfer dysgu sgiliau yn India hefyd yn fawr ac rwy’n gobeithio symbylu darparwyr o Gymru i fanteisio ar y maes hwn.

Mae diwylliant yn ei holl ffurfiau yn rhan bwysig o hunaniaeth India, fel ag i ninne yng Nghymru.  Cynhaliais ddigwyddiad yn y Cyngor Prydeinig yn Delhi i hyrwyddo Gŵyl WOMEX 2013 sy’n cael ei chynnal yng Nghymru a meithrin cysylltiadau rhwng diwydiannau creadigol y ddwy wlad.  Mae nifer o ffilmiau Bollywood eisoes wedi’u gwneud yng Nghymru a hoffwn weld mwy.  Yn ogystal â’r effaith economaidd uniongyrchol yng Nghymru, mae cynyrchiadau Bollywood yn gallu codi ymwybyddiaeth am Gymru yn India.

Ym Mumbai, cefais gwrdd â Mr B Muthuraman, Is-Gadeirydd Tata Steel.  Pwysleisiodd ymrwymiad Tata yng Nghymru a gwnes inne gydnabod gwerth y gweithlu ardderchog a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r cwmni.  Esboniodd Mr Muthuraman gynlluniau Tata i fuddsoddi £800 miliwn yn eu gwaith yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.  Addewais iddo y byddai cefnogaeth Llywdraeth Cymru i Tata Steel a’i weithlu yn parhau.

Cefais gyfarfod hefyd â’r Dr Habil Khorakiwala, Cadeirydd y Wockhardt Group, un o’r buddsoddwyr mwyaf o India yng Nghymru, sy’n cyflogi rhyw 350 o bobl yn ei ffatri fferyllol yn Wrecsam.  Pwysleisiodd y Dr Khorakiwala yntau’r manteision y mae ei gwmni yn eu cael o’i bartneriaeth agos â Llywodraeth Cymru, perthynas yr oeddwn yn falch iawn o’i chymeradwyo.

Cefais gyfarfod â nifer fawr o fuddsoddwyr a darpar fuddsoddwyr yng Nghymru yn ogystal â Chydffederasiwn Diwydiant India (CII).  Manteisiais ar fy nghyfle gyda’r CII i hyrwyddo Cymru ac maen nhw’n gweithio ar ddigwyddiad i gyflwyno busnesau bach a chanolig i Gymru ym mis Hydref 2012.

Maharashtra yw enw’r Dalaith y mae Mumbai a’i chyffiniau ynddi ac mae’n ardal o ddeinameg a photensial economaidd aruthrol.  Cyfarfûm â’r Prif Weinidog Mr Prithiraj Chavan (da oedd clywed mai ym Mhrifysgol Abertawe y cafodd pennaeth ei swyddfa ei addysgu).  Cefais ddweud wrth y Prif Weinidog imi fynd, prin wythnos yng nghynt, i’r Marathi Sammelan Ewropeaidd, cynulliad blynyddol o gymuned y Marathi, a gynhaliwyd yn Abertawe.  Dywedodd y Prif Weinidog bod addysg yn faes datblygu â photensial aruthrol iddo, gan gadarnhau’r hyn roeddwn wedi’i glywed eisoes.

Mae India yn wlad o amrywiaeth ac egni ryfeddol ac mae ei heconomi’n datblygu’n gyflym.  Mae Cymru’n wlad fach ac mae India’n wlad enfawr - mae hynny’n amlwg - ond mae gennym fanteision naturiol o ran datblygu perthynas all ddod â buddiannau i’r ddwy wlad.  Mae arian buddsoddi o India eisoes yn cynnal miloedd o swyddi yng Nghymru ac mae’r gymuned o Indiaid yng Nghymru wedi gosod sylfeini cadarn y gallwn adeiladu arnyn nhw.  Mae gweithgarwch masnachol heddiw yn rhychwantu meysydd mor amrywiol â dur, nwyddau fferyllol a choluron ac mae’r iaith Saesneg yn rhoi mantais fasnachu werthfawr i ni.  Yn y blynyddoedd i ddod, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i roi blaenoriaeth i’n perthynas ag India ac i gryfhau’r cysylltiadau cryf sydd eisoes yn bod rhyngom.