Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Ar 7 ac 8 Mawrth bum ar ymweliad ag Iwerddon i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ac i drafod yr ymateb ar y cyd rhwng Cymru ac Iwerddon i gau porthladd Caergybi ym mis Rhagfyr gyda Llywodraeth Iwerddon a chynrychiolwyr busnesau Gwyddelig.
Bu imi gyfarfod â Gweinidog Trafnidiaeth Iwerddon, Sean Canney, a thrafodais y berthynas rhwng Iwerddon a Cymru a'r cylch gorchwyl arfaethedig ar gyfer y Tasglu ar wytnwch Môr Iwerddon dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Buom hefyd yn trafod ystod o faterion eraill gan gynnwys mesurau diogelwch ar y ffyrdd, y rheilffyrdd, a phwysigrwydd a manteision y pecynnau Rheilffordd a Hwylio. Rydym wedi ymrwymo i barhau â'n perthynas waith agos, a grëwyd trwy ein profiad cyffredin o reoli a lliniaru effaith cau porthladd Caergybi.
Cwrddais hefyd â chynrychiolwyr Cymdeithas Allforwyr Iwerddon, Cymdeithas Nwyddau Iwerddon ac Irish Ferries i drafod sut oedd cau'r porthladd wedi effeithio ar economïau Iwerddon, Cymru a'r DU, yr effaith a gafodd ar eu busnesau, a'r mesurau lliniaru tymor byr a roddwyd ar waith, gan gynnwys defnyddio capasiti dros dro mewn porthladdoedd eraill. Buom yn trafod y gwersi a ddysgwyd ac yn edrych ar rai syniadau am wella gwytnwch llwybrau Môr Iwerddon yn y dyfodol yn fwy cyffredinol.
Hoffwn ddiolch i'r holl gydweithwyr Gwyddelig y gwnes i gwrdd â hwy yn ystod fy ymweliad. Fe wnaethant atgyfnerthu pwysigrwydd Caergybi a'n porthladdoedd eraill sy'n wynebu Môr Iwerddon i gymunedau yn ein gwledydd ni a thu hwnt, a'n diddordeb a'n cyfrifoldeb cyffredin, nawr ac yn y dyfodol, i sicrhau eu bod yn ffynnu ac yn tyfu.
Mae eu barn hefyd wedi helpu i lywio'r cylch gorchwyl drafft ar gyfer y Tasglu ymhellach. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ddosbarthu y cylch gorchwyl drafft i aelodau'r Tasglu cyn i'r Tasglu gytuno iddo yn ei gyfarfod cyntaf ar 27 Mawrth ar Ynys Môn. Bydd aelodaeth y tasglu yn cynnwys grŵp craidd, gan gynnwys ymhlith eraill, cynrychiolwyr o Lywodraeth Iwerddon, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, cwmniau porthladd a fferi, a chynrychiolwyr y sector logisteg. Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio arbenigedd sectoraidd penodol yn ystod cyfarfodydd thematig y Tasglu yn y dyfodol.
Rwyf hefyd wedi cytuno i sefydlu grŵp cyswllt ar gyfer yr Aelodau hynny o'r Senedd sydd â phorthladdoedd Môr Iwerddon yn eu hetholaethau (gan gynnwys ASau rhanbarthol) fel eu bod yn parhau i dderbyn gwybodaeth wrth i'r Tasglu fynd rhagddo.