Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch fy ymweliad diweddar â’r UDA i hyrwyddo Cymru fel man i ddod i astudio ac er mwyn cefnogi cydberthnasau addysgol dwyochrog ac i ddatblygu cyfleoedd rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr, athrawon ac academyddion o Gymru.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys cyfarfodydd â chynrychiolwyr o brifysgolion blaenllaw yn yr Unol Daleithiau, sefydliadau addysgol rhyngwladol, Llysgennad y DU i'r Cenhedloedd Unedig, Prif Gonswl ei Mawrhydi yn Efrog Newydd a'r Comisiynydd Masnach ar gyfer Gogledd America, arweinwyr yn systemau addysg yr UD ac Efrog Newydd, ymweliadau ag ysgolion a chynnal derbyniad 'Astudiwch yng Nghymru'.
Cefais gyfle hefyd i gyfarfod ag uwch swyddogion o'r Institute of International Education i drafod uchelgeisiau Cymru o ran teithiau cyfnewid addysgol rhyngwladol a chyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru astudio mewn gwledydd eraill. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ynghylch cyfleoedd i fyfyrwyr astudio'n rhyngwladol yn yr wythnosau sydd i ddod.
Teithiais i brifysgolion Columbia a Princeton i drafod gweithio ar y cyd ac i hyrwyddo cyfnewid academyddion a myfyrwyr. Roedd yn bleser gennyf gefnogi cysylltiadau Prifysgol Abertawe â Columbia, wrth iddynt ddwysáu eu partneriaeth a'i gwneud yn ffurfiol ar draws meysydd ymchwil, ymgysylltiad dinesig a symudedd myfyrwyr.
Cyd-weithiais â Cymru Fyd-eang i gynnal derbyniad 'Astudiwch yng Nghymru' yng Nghenhadaeth y DU i'r Cenhedloedd Unedig. Diolch i'w Hardderchogrwydd y Fonesig Karen Pierce am gyfarfod â mi i drafod materion sydd o ddiddordeb cyffredin i ni fel addysgu dinasyddiaeth a hefyd am helpu â threfniadau'r derbyniad. Daeth llawer o bobl i'r digwyddiad gan gynnwys, ymhlith eraill, cynrychiolwyr o golegau a phrifysgolion ledled Gogledd America, cymdeithas sifil Cymru-Efrog Newydd a chyn-fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru.
Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i hybu diddordeb yn ein gwaith i ddiwygio addysg yng Nghymru, i ddysgu oddi wrth ddatblygiadau yn system yr UD ac i ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr ac athrawon Cymru greu cydberthnasau rhyngwladol.
Cefais gyfarfod cadarnhaol gyda Kerry Kennedy (Llywydd) a Karen Robinson (Uwch Reolwr Addysg) o sefydliad Robert F. Kennedy Human Rights. Yn sgil y trafodaethau hyn, byddwn yn ymgysylltu ymhellach â nhw ynghylch meysydd o ddiddordeb cyffredin inni fel diwygio'r cwricwlwm, dibenion addysg ac addysgu dinasyddiaeth.
Cefais gyfle hefyd i ymweld ag ysgolion ac i gwrdd ag athrawon, myfyrwyr ac arweinwyr yn Efrog Newydd. Roedd y rhain yn cynnwys Eva Moskowitz, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd y Success Academy Charter Schools, Lukas Weinstein a Lisette Gomez o'r Children’s Aid Society’s National Center for Community Schools, a Mariano Guzman a'i gydweithwyr yn Adran Addysg Dinas Efrog Newydd. Buom yn trafod dysgu proffesiynol, datblygu arweinyddiaeth, strategaethau llesiant ac ymgysylltu â'r gymuned. Bydd y trafodaethau hyn yn arwain at gyfleoedd a rhaglenni pellach wrth imi barhau i roi blaenoriaeth i dystiolaeth ac arfer gorau rhyngwladol i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer addysg.
Yn yr holl gyfarfodydd hyn, roedd diddordeb mawr yn yr hyn y gall Cymru ei gynnig i fyfyrwyr ac i addysgwyr, yn ogystal ag awydd i ymgysylltu â'n gwaith diwygio ac i ddwysáu partneriaethau a chydberthnasau cyfnewid. Mae ein prifysgolion, colegau ac ysgolion llwyddiannus yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella ein proffil yn rhyngwladol, yn ogystal â chryfhau ein cysylltiadau â Gogledd America, a hynny er budd myfyrwyr, athrawon a staff o fewn ein system addysg.