Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diben y datganiad hwn yw rhoi’r newyddion diweddaraf i Aelodau am fy ymweliad â Texas, Alabama a Georgia i hyrwyddo Cymru fel lleoliad i astudio, i ddatblygu partneriaethau dinesig ac addysgol, ac i sicrhau cytundebau a chyfleoedd i fyfyrwyr, sefydliadau ac academyddion o Gymru.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfûm â Llywyddion ac uwch-gynrychiolwyr rhai o brif brifysgolion yr Unol Daleithiau; Maer Birmingham, Alabama; Conswl Cyffredinol Ei Mawrhydi yn Houston ac Atlanta; a swyddogion gwyddoniaeth a masnach y Deyrnas Unedig. Bûm hefyd yn annerch mewn prifysgolion a digwyddiadau busnes ac yn cynnal derbyniadau er mwyn hybu Cymru a’i sector addysg uwch ynghyd â chydweithwyr o brifysgolion Cymru.

Yn ystod fy ymweliad â Houston, Texas, yng nghwmni Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, cawsom gyfle i fynd i Goleg Meddygaeth Baylor, Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston a Phrifysgol Houston. Mae cyfleoedd clir i adeiladu ar y cysylltiadau ymchwil hyn ac roeddwn yn falch bod yr Is-ganghellor wedi gallu llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Phrifysgol Houston.

Traddodais ddarlith ym Mhrifysgol Houston a chwrdd â myfyrwyr o Gymru ar ymweliad â’r Unol Daleithiau, lle bûm yn trafod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cyfleoedd i symud am allan a denu mwy o fyfyrwyr o’r Unol Daleithiau i Gymru, a’r partneriaethau newydd sydd gennym â Chomisiwn Fulbright a Rhaglen Ysgoloriaeth Ryngwladol Benjamin A Gilman.

Gan weithio gyda chydweithwyr o swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Ngogledd America, cynhaliais dderbyniad yn Nhŷ Conswl Cyffredinol ei Mawrhydi yn Houston. Roedd cynrychiolaeth dda o  golegau a phrifysgolion yno, ynghyd ag aelodau o gymdeithas ddinesig Cymru-Texas, arweinwyr diwydiant a llawer o bobl eraill. Cefais y fraint o gwrdd â George Abbey, cyn-Gyfarwyddwr Cymraeg-Americanaidd Canolfan Ofod Johnson, sydd wedi cael Medal Rhyddid gan yr Arlywydd.

Yn Birmingham, Alabama cefais gwrdd â’r Maer Randall Woodfin a’i swyddogion. Roedd ganddynt gryn ddiddordeb yn ein polisi ar brentisiaethau, ein hymrwymiad i ddysgu gydol oes a’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes yn bwrw iddi yn hyn o beth, ac rwy’n hyderus y gallwn feithrin partneriaeth gref ac arbennig gyda Birmingham ar sail y meysydd hyn sy’n gyffredin i ni.

Cefais y fraint o fynd gyda Phrif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru i dalu teyrnged yn Eglwys y Bedyddwyr 16th Street,  Birmingham a gweld Ffenestr Cymru. Rhoddais lythyr a rhodd ar ran y Prif Weinidog, a thrwy gydweithio â’r Urdd cafwyd trafodaeth ar y ffyrdd ymarferol o feithrin y cyfeillgarwch rhwng yr Eglwys, Alabama a Chymru.

Cafwyd ymweliad cadarnhaol â Phrifysgol Alabama yn Birmingham, lle bu trafodaethau cychwynnol rhwng y Brifysgol a Phrifysgol Aberystwyth ynghylch cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth, ac mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn datblygu partneriaeth â’r Brifysgol.

Yn Atlanta, roeddwn yn siaradwr gwadd mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan y Cyngor Materion Byd-eang o dan ofal Llywydd Prifysgol Talaith Georgia. Roedd yn gyfle pwysig i dynnu sylw at y broses o ddiwygio addysg sy’n digwydd yma yng Nghymru, a llwyddiannau’r broses honno, i gynulleidfa o Aelodau Cynulliad Talaith Georgia, arweinwyr addysg a chynrychiolwyr diwydiant.

Yn Nhŷ Conswl Cyffredinol ei Mawrhydi yn Atlanta, cynhaliais dderbyniad i ddathlu canmlwyddiant Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Yno, cyfarfûm â phartneriaid presennol a darpar bartneriaid newydd Prifysgol Aberystwyth a phrifysgolion eraill Cymru. Ymwelais hefyd â Sefydliad Technoleg Georgia, a chwrdd â chynrychiolwyr.

Yn olaf, llofnododd Llywodraeth Cymru Ddatganiad o Fwriad gyda Phrifysgol Emory  (sy’n cynnwys yr Atlanta Studies Network) er mwyn hyrwyddo cydweithredu mewn gweithgareddau ymchwil a gweithgareddau addysg er mwyn cryfhau’r cydweithrediad dinesig a chydweithio rhwng prifysgolion. Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid yn y sector prifysgolion, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a CCAUC er mwyn symud ymlaen â’r bartneriaeth cenhadaeth ddinesig bwysig hon.

Trwy gydol fy ymweliad, roedd diddordeb mawr yn yr hyn y gall Cymru a'n prifysgolion ei gynnig, a sut y gallwn weithio gyda sefydliadau dinesig ac addysg ledled yr Unol Daleithiau i ddyfnhau a chryfhau’r cyfleoedd i gyfnewid myfyrwyr, rhaglenni astudio dramor a chysylltiadau ymchwil. Bydd datblygiadau pellach yn y meysydd hyn yn y misoedd i ddod.

Mae ein hymgysylltiad addysgol rhyngwladol yn parhau'r wythnos hon wrth i Gaerdydd gynnal y bedwaredd Uwchgynhadledd ARC, yn dilyn Califfornia y llynedd.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.