Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 2 Hydref 2024, bûm ar ymweliad deuddydd â Toulouse yn Ffrainc er mwyn dathlu'r ffaith bod y digwyddiad blynyddol a gynhelir gan ADS Toulouse yn 25 oed, a chefnogi'r berthynas rhwng Airbus UK ac Airbus France. 

Roedd yn anrhydedd cael bod yn bresennol yn y digwyddiad rhwydweithio blynyddol hwn, sy'n un uchel ei broffil, ac yn y derbyniad i aelodau a gynhelir gan ADS Toulouse i helpu cwmnïau o'r DU/Cymru sydd am fanteisio ar gyfleoedd ym marchnad awyrofod sifil Ffrainc. 

Mae hanes Aerospace yn y DU yn un o lwyddiant ac mae'n parhau i sicrhau lle i Gymru ar lwyfan byd-eang. Mae'r diwydiant yn wynebu cyfnod o newid dwys, trafferthus ar hyn o bryd, wrth iddo newid o alwminiwm i ddeunyddiau cyfansawdd, a newid hefyd o gerosin i danwydd hedfan cynaliadwy (SAF) a hydrogen. 

Mae Airbus yn un o’r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru. Mae’n cyflogi dros 5,500 o weithwyr yng Ngogledd a De Cymru, ac amcangyfrifir ei fod yn cyfrannu £311 miliwn at gynnyrch domestig gros (GDP) Cymru.

Mae'r galw am awyrennau masnachol yn parhau'n gryf iawn, ac mae'r ffaith bod gan Airbus archebion am 8,500 o awyrennau sy’n aros i'w hadeiladu yn sail i'r targedau cynhyrchu ar gyfer ei holl raglenni. Mae Airbus, fodd bynnag, yn wynebu problemau cyson a phenodol gyda'i gadwyn gyflenwi, yn bennaf mewn perthynas â pheiriannau, cydrannau sy'n rhan o gyrff yr awyrennau, a chyfarpar ar gyfer y cabanau. 

O ystyried yr amgylchedd geowleiydyddol allanol anodd a'r problemau yn y gadwyn gyflenwi, mae'n hanfodol bod Airbus yn canolbwyntio ar ei fusnes craidd a'i gadwyn gyflenwi er mwyn sefydlogi'r amgylchedd y mae'n gweithredu o'i fewn. Mae'n buddsoddi'n drwm er mwyn parhau i fod yn gystadleuol a chynhyrchu mwy er mwyn ateb y galw ymhlith ei gwsmeriaid.

Ar ddiwrnod cyntaf y digwyddiad, aeth cwmni o Gymru (Gwasanaethau Peirianneg Metroleg) â mi i gyfleusterau gweithgynhyrchu a phrofi Sogeclair. Mae Sogeclair yn fusnes gwasanaethau dylunio a pheirianneg byd-eang sy'n cyflenwi Airbus a Trafnidiaeth Cymru. Rhoddodd yr ymweliad addysgiadol hwnnw gyfle imi gael deall yn well pa mor ddyrys yw'r problemau sy'n wynebu cyflenwyr Haen 1 Airbus. 

Y noson honno, bûm yn siarad mewn digwyddiad a drefnwyd gan ADS Toulouse i groesawu'r dirprwyaethau o Gymru, Gogledd Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr. 

Ar yr ail ddiwrnod, cefais fy nhywys ar daith o amgylch ffatri Airbus Toulouse gan weld â'm llygaid fy hun y broses y mae adenydd yr A321 yn mynd drwyddi cyn cael eu cydosod yn derfynol. Clywais gan dîm Uwch-reolwyr Airbus am y problemau sy'n eu hwynebu a sut y gall y Llywodraeth a'r diwydiant gydweithio i helpu i leddfu'r rheini. 

Bûm mewn cyfarfod bwrdd crwn ar gyfer y diwydiant, a drefnwyd gan ADS, ac a gynhaliwyd ar y cyd â'r Gweinidog Gwladol dros Ynni a Sero Net a'r Adran Busnes a Masnach, Sarah Jones, lle cefais gyfle i glywed drosof fy hun am yr heriau mwyaf sy'n wynebu cwmnïau ledled y DU sy'n rhan o gadwyn gyflenwi'r diwydiant awyrofod. 

Cyfarfûm â Veronique Bardelman, Prif Swyddog Gweithredol Safran UK, i drafod y problemau penodol sy'n wynebu eu cyfleusterau yng Nghymru, yn ogystal â thrafod cyfleoedd i'w helpu i ddatblygu eu hôl troed yn y DU ac yng Nghymru. 

Y noson honno, roedd yn anrhydedd cael siarad ar y cyd â'r Gweinidog Sarah Jones, Sabine Klauke, Prif Swyddog Technoleg Airbus a David Lockwood, Prif Swyddog Gweithredol Babcock, yn Nerbyniad Blynyddol ADS Toulouse.