Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ar 13 Mehefin, roedd gen i ddiwrnod cyfan o ymweliadau i’w cynnal yn Nulyn a'r cyffiniau. Dyma fy ymweliad cyntaf â Dulyn fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Prif ffocws fy ymweliad oedd cyfarfod wyneb yn wyneb gyda'r Tánaiste a'r Gweinidog Materion Tramor, Simon Coveney. Roedd y ddau ohonom yn falch o ddathlu ailagor swyddfa Conswl Iwerddon yng Nghaerdydd, a'r cyfleoedd yn sgil hynny i gryfhau'r berthynas rhyngom. Trafodwyd profiad Cymru o hyrwyddo'r Gymraeg, a sut y gallai Iwerddon a Gogledd Iwerddon fanteisio ar hynny. Rhannwyd pryderon am effaith Brexit, o ran cynlluniau wrth gefn a'r effeithiau posib. Yn benodol, trafodwyd llif y fasnach rhwng Iwerddon a gwledydd yr UE, swyddogaeth ein porthladdoedd yn hynny o beth, a'r ffordd rydyn ni'n dibynnu ar ein gilydd i ddarparu cynnyrch fferyllol a nwyddau hanfodol i ddefnyddwyr mewn union bryd. Buom hefyd yn trafod rhaglenni ar y cyd wedi'u hariannu drwy'r UE, gan gynnwys rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru ac Interreg, y manteision a welwyd yn y gorffennol ac sy'n dal i gael eu darparu, a'r angen i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed mewn unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth y DU yn eu cael gyda'r UE ar barhad hynny.

Llwyddais hefyd i wneud amrywiol alwadau ar draws fy mhortffolio. Roedd hynny'n cynnwys ymweliad â Sharp Clinical Services a'u rhiant-gwmni UDG Healthcare, cwmni sydd ag enw da am fuddsoddi yng Nghymru. Cynhaliais gyfarfod bord gron gydag amrywiol gynrychiolwyr o Siambr Fasnach Prydain ac Iwerddon yng Nghanolfan Fenter Guinness - meithrinfa fusnes orau'r byd. Ymwelais ag Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon, sydd yn ddiweddar wedi sefydlu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Amgueddfa Cymru. Hefyd cefais ymweld â swyddfa Llywodraeth Cymru yn Llysgenhadaeth Prydain yn Nulyn, a thra fy mod yno cefais gyfarfod â Llysgennad Prydain yn Iwerddon.

Yn fy holl gyfarfodydd gyda llywodraeth a busnesau Iwerddon, roedd yn gwbl amlwg bod ewyllys da ac awydd i weithio gyda Chymru, beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol. Roedd hyn er gwaethaf eu hanghrediniaeth o hyd i Gymru bleidleisio fel ag y gwnaeth yn 2016.