Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AC, Gweinidog Y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod y Toriad ymwelais â Washington, Efrog Newydd a Philadelphia ar fy ymweliad rhyngwladol cyntaf fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Diben fy ymweliad oedd dweud yn glir bod Cymru ar agor ar gyfer busnes, er gwaethaf Brexit. Roeddwn yn awyddus hefyd i dynnu sylw at feysydd lle mae gan Gymru stori wych i'w hadrodd, fel dwyieithrwydd a'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol unigryw.

Mae modd olrhain y cysylltiadau rhwng Cymru ac America yn ôl ganrifoedd ac maen nhw'n parhau hyd heddiw drwy fusnes, diwylliant, addysg a thwristiaeth. Yn yr hinsawdd ryngwladol bresennol, mae'n bwysicach nag erioed inni gynnal cysylltiadau agos ag un o'n marchnadoedd pwysicaf. Mae 270 o gwmnïau o'r Unol Daleithiau yn cyflogi bron i 50,000 o bobl yng Nghymru, a dyma'r drydedd farchnad allforio fwyaf yn 2017, ar ôl Ffrainc a'r Almaen.

Yn Washington DC, cefais gyfarfod â chynrychiolwyr o Symantec a seiber arbenigwyr eraill i dynnu sylw at y lefel o arbenigedd mewn Seiberddiogelwch yng Nghymru, sydd gyda'r uchaf yn y byd. Cefais gyfle hefyd i gyfarfod cynrychiolwyr Cyngor Busnes y DU-UDA o Siambr Fasnach yr UDA. Roedd yn glir bod Brexit yn achos cryn bryder ymhlith y gymuned fusnes. Rhoddais sicrwydd iddynt o ymrwymiad Cymru i gynnal hinsawdd cwbl gefnogol i fusnes.

Ymwelais â Banc y Byd i bwysleisio sut mae'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru yn hyrwyddo llesiant cymdeithasol ac economaidd a'n bod yn esiampl arbennig i wledydd ym mhob cwr o'r byd o sut y gall ieithoedd cynhenid ffynnu. Cefais hefyd gyfle i gyd-gynnal y derbyniad Dydd Gŵyl Dewi ar Capitol Hill, ac annerch cynulleidfa o gysylltiadau o'r byd busnes, cynrychiolwyr gwleidyddol a Chymry alltud gan roi sylw arbennig i'n Prifysgolion sydd gyda'r gorau yn y byd, ein gweithlu medrus ac ymroddedig, a'n diwylliant dwyieithog unigryw.

Yn Efrog Newydd, ar y cyd â chynrychiolwyr o Wlad y Basg, Fflandrys a Québec, cynheliais sesiwn yn y Cenhedloedd Unedig lle trafodwyd ein gwaith yn hybu cymdeithasau amlieithog yn ein priod gymdeithasau. Cefais gyfarfod â chynrychiolwyr o Adran Materion Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig i drafod esiampl ragorol Cymru yn gwneud Nodau Datblygu Cynaliadwy yn berthnasol yn lleol. Cefais hefyd gyfarfod ag allforwyr o Gymru, Penderyn a Delio Wealth, i drafod eu profiad o ehangu i farchnad America a sut y gallwn annog mwy o gwmnïau i ddilyn eu hesiampl.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, Teithiais i Philadelphia yn Pennsylvania, talaith sydd â chyfoeth o gysylltiadau â Chymru a lle mae'r dreftadaeth Gymreig i'w gweld o hyd. Cefais gyfarfod â'r Maer, James Kenney, i drafod meysydd o ddiddordeb cyffredin lle gellid cydweithio. Cefais drafodaethau defnyddiol â'r gymuned fusnes a chyfarfod â chynrychiolwyr o Evolve IP, un o'r cwmnïau strategaeth cwmwl sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, i drafod eu presenoldeb yng Nghymru a sut y gallwn eu helpu i adeiladu ar y sylfaen honno.

Yn ystod noson olaf fy ymweliad, bûm yn nigwyddiad Dydd Gŵyl Dewi y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol yn Efrog Newydd, lle ddangoswyd y cyfoeth o dalent greadigol sydd i'w chael yng Nghymru a pha mor llewyrchus yw ein Sector Creadigol.

Fe gadarnhaodd fy ymweliad fy marn ei bod yn hanfodol i Gymru gadw ei chysylltiadau agos â'r Unol Daleithiau ac adeiladu ar y rhwydweithiau da sydd eisoes yn eu lle. Rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn dod o hyd i bosibiliadau newydd ar gyfer y dyfodol er mwyn i'r hanes hir o gyfeillgarwch sydd rhwng y ddwy wlad barhau i ffynnu.