Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ddiweddar, ymwelais ag India i ymgymryd â chyfres o ymrwymiadau i ailddatgan a chryfhau cysylltiadau gofal iechyd Cymru â'r wlad; i archwilio cyfleoedd masnach a buddsoddi a dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda'n partneriaid rhyngwladol allweddol. 

Fel rhan o'm rhaglen, es i i dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi ym Mumbai lle caeais flwyddyn Cymru yn India 2024 yn ffurfiol. Roedd yn galendr dwys o ddigwyddiadau yn India a Chymru a oedd wedi cynnwys llawer o ddigwyddiadau buddsoddi ac wedi tynnu sylw at y cysylltiadau dwfn o ran treftadaeth, addysg, y celfyddydau, chwaraeon a'r economi rhwng ein dwy wlad. 

Yn ystod fy ymweliad, cynhaliais drafodaethau ar draws sawl sector, gan gynnwys gofal iechyd, buddsoddi a chyfrifoldeb byd-eang. Hefyd, cynhaliais gyfarfod bord gron gyda chwmnïau technoleg feddygol sydd â diddordeb mewn buddsoddi yng Nghymru neu fasnachu gyda hi.

Ffocws arall ar gyfer yr ymweliad oedd polisïau blaengar ar hawliau LHDTC+. Tra ym Mumbai, cynhaliais cyfarfod bord gron gydag arweinwyr cymunedol LHDTC+, gan gynnwys trefnwyr Pride, diplomyddion, ymgyrchwyr priodas cyfartal, arweinwyr diwylliannol a thywysog cyntaf India i fod yn agored hoyw, Ei Uchelder Manvendra Singh Gohil.

Ymwelais â thalaith Kerala i ailddatgan ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Phrif Weinidog Kerala a'r Gweinidog Iechyd, a Datblygiad Menywod a Phlant, gan gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a Llywodraeth Kerala. Mae mwy na 300 o nyrsys a doctoriaid o Kerala wedi derbyn swyddi yn GIG Cymru yn barod ers i’r cytundeb gael ei lofnodi ym mis Mawrth 2024. Cytunwyd y bydd 200 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn cael eu recriwtio i ymuno â'r GIG yng Nghymru o dan y cytundeb hwn. 

Mae’r GIG yng Nghymru yn elwa ar sgiliau a thalent gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o Kerala, sy’n ychwanegiad pwysig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hyfforddwyd yng Nghymru a DU.

Erbyn hyn, mae mwy o staff yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag ar unrhyw adeg yn ei hanes. Mae’n cyflogi bron i 97,000 o staff cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi yn y gweithlu presennol ac i hyfforddi gweithlu’r GIG ar gyfer y dyfodol. 

Yn ystod fy ymweliad â Kerala, cefais y pleser o gwrdd â staff a fydd yn ymuno â'r GIG yng Nghymru cyn bo hir. Cefais drafodaethau cadarnhaol a chynhyrchiol hefyd gyda Norka Roots, asiantaeth Llywodraeth Kerala sy'n cefnogi ein dull o recriwtio rhyngwladol moesegol.