Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Ar 16 ac 17 Ionawr, euthum ar daith i hyrwyddo strategaeth newydd y Llywodraeth hon ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol ac i helpu i baratoi Cymru at heriau’r dyfodol, gan ymweld â Brwsel a Pharis.
Yn Ewrop, mae ein strategaeth yn nodi Fflandrys, ynghyd â Llydaw a Gwlad y Basg, fel rhanbarth sy’n bartner allweddol, ac â Jan Jambon, Gweinidog-Lywydd Llywodraeth Fflandrys, oedd fy nghyfarfod cyntaf. Ymysg pethau eraill, gwnaethom drafod:
- y potensial ar gyfer Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Fflandrys a Llywodraeth Cymru, gan sefydlu ymrwymiad clir i barhau i gydweithio’n agos
- budd cyffredin mewn seiberddiogelwch fel elfen hanfodol o economïau ein gilydd
- cydweithredu a chydlynu posibl ar y lefel ranbarthol ledled Ewrop
- paratoadau ar gyfer ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd a rôl y Gweinyddiaethau Datganoledig mewn trafodaethau ar gytundebau masnach y dyfodol
- dibyniaethau cyffredin ar fasnach esmwyth rhwng y DU a chyfandir Ewrop
Yn ein Swyddfa ym Mrwsel, cefais gyfarfod ag Eleni Mariannou, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol (CPMR). Parhau â pherthynas gynhyrchiol â’r CPMR, ei dylanwad ledled Ewrop ac o fewn Brwsel, a’n budd cyffredin yng nghyd-ffyniant ei haelod-ranbarthau oedd o dan sylw yn ein trafodaeth.
Mae’r Strategaeth Ryngwladol yn nodi seiberddiogelwch fel maes i’w hyrwyddo ac roedd fy amser ym Mrwsel yn gyfle i dynnu sylw cynrychiolwyr Sefydliad Seiberddiogelwch Ewrop at gryfderau Cymru yn y sector hwn.
Mae’r Swyddfa ym Mrwsel yn ased hanfodol i hyrwyddo ein dyheadau rhyngwladol ac i gynnal y cysylltiadau sy’n hanfodol er mwyn parhau i gael dylanwad ym Mrwsel, yn enwedig nawr y byddwn yn gweithredu y tu allan i’r sianeli swyddogol niferus a oedd ar gael inni o’r blaen. Yno, roedd modd imi lansio ein strategaeth i gynulleidfa fawr, ac ynddi gysylltiadau allweddol a Chymry alltud, mewn derbyniad amser cinio.
Bydd gweithio’n effeithiol gydag adrannau Llywodraeth y DU yn hanfodol i roi’r Strategaeth ar waith. Roedd fy rhaglen yn cynnwys cyfarfod â swyddogion UKRep, i egluro’r Strategaeth iddynt fel y gallant gyfleu ein stori yn well a mynd ati i warchod a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth iddynt symud yn gynyddol at ddiplomyddiaeth gyhoeddus.
Cefais hefyd gyfarfod â Chabinet y Comisiynydd Masnach Phil Hogan i roi diweddariad iddynt ar sut rydym yn paratoi at ein rhan yn negodiadau masnach y DU.
Ar wahoddiad Ei Arddechogrwydd Martin Shearman Llysgennad Ei Mawrhydi i Wlad Belg, daeth fy ymweliad â Brwsel i ben drwy fynd i dderbyniad Blwyddyn Newydd Llysgenhadaeth Prydain.
Mae ein strategaeth yn nodi bod Ffrainc yn bartner allweddol ar lefel genedlaethol, ac ym Mharis roedd fy rhaglen yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd ym Mhreswylfa’r Llysgennad, gyda:
- Matthew Lodge: Gweinidog a Llysgennad Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i UNESCO
- Airbus Cybersecurity
- Cymry alltud yn Ffrainc
Roedd y cyfle i gwrdd â Francois Delattre, Ysgrifennydd Cyffredinol Gweinyddiaeth Materion Tramor Ffrainc, yn rhan allweddol o’r rhaglen. Ymysg pethau eraill, gwnaethom drafod:
- rôl Cymru a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn negodiadau’r DU ar gytundebau masnach y dyfodol â’r UE a gweddill y byd
- y potensial i gryfhau ein perthynas gydweithredol bresennol â Llydaw, a nodir yn ein Strategaeth Ryngwladol fel maes i ganolbwyntio arno
- cyfleoedd i ymgysylltu â Llywodraeth Ffrainc yng nghyd-destun uwchgynhadledd Ffrainc-Prydain yn Ffrainc yn hydref 2020
- y posibilrwydd o ddefnyddio ein deddf unigryw, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, fel astudiaeth achos i eraill, gan dynnu sylw at ein gallu i arwain y ffordd o ran datblygu cynaliadwy
Yr ymweliad olaf yn fy rhaglen oedd â phencadlys UNESCO er mwyn:
- tynnu sylw at Gymru fel esiampl dda o ran y rhaglen ddeng-mlynedd y mae UNESCO wedi’i chynllunio i gefnogi ieithoedd cynhenid
- trafod y broses ar gyfer ceisiadau o Gymru ar gyfer safleoedd statws Treftadaeth y Byd, gan gynnwys hynt cais tirwedd llechi Gwynedd.