Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Ymwelais â Brwsel yn ddiweddar i drafod y berthynas bosibl yn y dyfodol rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Chymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach. Bûm hefyd yn trafod y gweithgareddau presennol sy’n gysylltiedig â’r UE.
O ran ein perthynas yn y dyfodol, cefais gyfle i gael cyfarfodydd ar wahân gyda Llysgenhadon yr UE o’r Swistir a Gwlad yr Iâ i drafod modelau eu gwledydd nhw ar gyfer cysylltiadau â’r UE a pha senarios fyddai’n bosibl ym marn eu llywodraethau ar gyfer y berthynas rhwng yr UE a Chymru a’r DU yn y dyfodol.
Bydd gan Senedd Ewrop rôl bwysig i’w chwarae yn nhrafodaethau negodi Brexit, a chwrddais â Gianni Pittella ASE, Llywydd y Grŵp y Sosialwyr a’r Democratiaid yn y Senedd, ac ymgeisydd i fod yn Llywydd y Senedd ei hun, i drafod y broses negodi a senarios wedi Brexit.
O ran y gweithgareddau presennol, cefais gyfarfod yn y Comisiwn Ewropeaidd er mwyn ceisio sicrwydd y bydd yn parhau i gefnogi Metro De Cymru, ac na fydd y broses negodi sydd ar fin digwydd yn effeithio ar hwnnw. Hefyd codais fater y gwaith da sy’n cael ei gyflawni yng Nghymru ym maes ynni adnewyddadwy’r môr, gyda Karmenu Vella, y Comisiynydd Ewropeaidd dros yr Amgylchedd, Materion Morol a Physgodfeydd.
Yn ogystal, cwrddais ag ASEau Cymru, Syr Ivan Rogers, Cynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd, Shan Morgan, y Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol, a Lowri Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn ar gyfer y Farchnad Fewnol, Diwydiant, Entrepreneuriaeth a BBaChau a’r swyddog Cymreig uchaf ei swydd yn sefydliadau’r UE.