Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddydd Llun fe es i i Frwsel am gyfres o gyfarfodydd ynghylch buddiannau Ewropeaidd Llywodraeth Cymru. Cefais y cyfle i gwrdd â’r Comisiynydd Hahn (y Comisiynydd Polisi Rhanbarthol) a’r Comisiynydd Lewandowski (y Comisiynydd Rhaglennu Ariannol a’r Gyllideb) i drafod cyd-destun dyfodol cyllid y Comisiwn Ewropeaidd a’i effaith bosibl ar raglenni yng Nghymru.

Mae’n amlwg y bydd y setliad ariannol ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd wrth i ni symud tuag at gyfnod y gyllideb nesaf (2014-20) yn un heriol. Byddai cynnydd mawr yng nghyfraniadau’r Aelod-wladwriaethau yn afrealistig yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni. Yn yr un modd, mae effaith economaidd rhaglenni’r UE ar Gymru a rhannau eraill yn anferthol, ac nid dyma’r amser i gymryd oddi wrth gymunedau lle mae’r esgid yn gwasgu y cymorth ariannol y mae ei angen arnyn nhw i fod yn gystadleuol a cheisio ffyniant.  

Mae maint cyllideb y Comisiwn Ewropeaidd yn destun pryder; mae dosbarthu arian o fewn y gyllideb yn destun pryder arall. Am resymau gwleidyddol a hanesyddol, mae’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn cael ei gefnogi ar draws yr UE. Mae hyn yn newyddion da i’n ffermwyr a’n cymunedau gwledig. Yn wleidyddol, mae’r Cronfeydd Strwythurol yn fwy bregus ac mae’n bwysig peidio â chymryd unrhyw beth yn ganiataol; bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ddadlau achos cryf yn y DU ac yn Ewrop.  

Mewn unrhyw gylch y Cronfeydd Strwythurol yn y dyfodol, bydd y Llywodraeth yn mynd ati i geisio nifer lai o brosiectau sy’n fwy strategol. Bydd hyn yn helpu rhanbarthau sydd ar ei hôl hi i baratoi’u hunain cystal â phosibl i dyfu yn y dyfodol.  

Mae arloesi wrth wraidd ein strategaeth economaidd, ac rydyn ni am weithio’n galed i elwa ar Horizon 2020, sef cyllideb arloesi ac ymchwil y Comisiwn. Mae’r gyllideb hon ar gael drwy wneud cais am brosiectau, yn drawswladol, ac mae’n ategu’n dull gweithredu ym maes gwyddoniaeth a chysylltu ymchwil â masnacheiddio.  

Yn ystod fy ymweliad, cymerais ran mewn ymgyrch hyrwyddo cig oen Cymreig, a drefnwyd ar y cyd â Hybu Cig Cymru, mewn cangen o Delhaize, cadwyn archfarchnadoedd fwyaf Gwlad Belg. Mae Delhaize yn gwerthu cig oen Cymreig tymhorol â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) ar draws ei gadwyn fel cynnyrch o safon uchel. Mae’n dyst i’n cymuned ffermio y gallwn gynhyrchu cig ag enw da rhyngwladol ac roedd yn bleser gennyf fod yn rhan o’r gydnabyddiaeth i hyn. Cynhaliais dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi ym Mrwsel i’n cyfeillion yn yr UE, a oedd hefyd yn hyrwyddo’n hamrywiaeth wych o fwyd a diod. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru ym mhedwar ban byd.  

Roeddwn i’n falch iawn o gael cwrdd â Maer y Langemark-Poelkapelle yn y derbyniad. Dyma’r gymuned yng Ngorllewin Fflandrys lle lladdwyd ein bardd enwog Hedd Wyn ym 1917, ychydig y tu allan i Ieper. Soniodd y Maer wrthyf am gynlluniau i godi cofadail i gofio am gyfraniad ac aberth yr holl filwyr o Gymru a fu’n ymladd ar dir Fflandrys. Roedd clywed am y prosiect hwn yn fraint ac fe addewais y byddwn yn tynnu sylw Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol ato cyn gynted â phosibl.