Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roeddwn i ym Mrwsel ar 6 Mawrth i hyrwyddo Cymru a meithrin ein cysylltiadau â’n partneriaid yn yr UE, gyda phencadlys NATO ym Mrwsel a chyda’n ffrindiau’n ymwneud â choffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy waith ar y gofeb newydd i’r Cymry a wasanaethodd yn y Rhyfel.

Cynhaliais dderbyniad blynyddol Dydd Gŵyl Dewi, a ddenodd oddeutu dau gant o bobl o sefydliadau’r UE ac unigolion o’r cymunedau diplomataidd a busnes ehangach.

Yn fy araith cadarnheais ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i’r UE ac i barhau i fod yn bartner adeiladol i’n ffrindiau yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn y Deyrnas Unedig. Dywedais y byddwn yn cymryd pob cyfle i hyrwyddo manteision yr UE, gan gynnwys aelodaeth o’r Farchnad Sengl, y rhaglenni cyllid sy’n cefnogi buddsoddiadau ar gyfer twf a swyddi a’r cyfleoedd ar gyfer ymchwil gydweithredol ar draws y cyfandir.

Tanlinellais ein hymrwymiad i hyrwyddo masnach a buddsoddiad, gan nodi bod swyddfa Tŷ Cymru wedi ehangu ei rôl i ymgymryd â gwaith masnach a buddsoddi.

Hefyd amlinellais safbwynt rhyngwladol Llywodraeth Cymru a’n ffocws ar fod yn lleoliad Uwchgynhadledd NATO ym mis Medi, gan gyfeirio at bencadlys NATO ym Mrwsel, coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf a chanmlwyddiant geni Dylan Thomas, a nodwyd gydag arddangosfa yn y lleoliad.

Yn y digwyddiad, cefais gwrdd ag unigolion gan gynnwys László Andor, y Comisiynydd Ewropeaidd ar gyfer Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chynhwysiant, lle trafodwyd ein rhaglenni i helpu pobl i gael gwaith a gwella sgiliau pobl ifanc. Hefyd bûm yn trafod Uwchgynhadledd NATO gyda Kolinda Grabar-Kitarovic, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol NATO ar gyfer Diplomyddiaeth Gyhoeddus. Dywedodd Ms Grabar-Kitarovic ei bod yn awyddus i hyrwyddo Cymru ac y byddai Cymru’n ganolbwynt i sylw byd-eang ym mis Medi.

Hefyd cefais gwrdd â Maer Langemark, lle bydd y gofeb i’r Cymry a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei dadorchuddio ym mis Awst, gan drafod y coffáu a’i ystyr heddiw. Diolchais iddo am gyfraniad y cyngor lleol at y gofeb a diolchais hefyd i aelodau cangen Fflandrys Ymgyrch y Gofeb Gymreig yn Fflandrys, oedd hefyd yn bresennol, am eu gwaith.

Yn ogystal â hyn, cefais gwrdd â Lowri Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Llysgenhadon y DU, Canada a Seland Newydd, gan drafod materion oedd yn cynnwys datblygu economaidd, masnach ac ynni’r môr.

Hefyd, yn y derbyniad, cafodd y cynnyrch gorau o Gymru ei arddangos a’i hyrwyddo, gan gynnwys cig eidion a chig oen (drwy Hybu Cig Cymru) a chregyn gleision a physgod o Gymru, ynghyd â phob math o gaws, cwrw, seidr a chwisgi.

Cyn y derbyniad cefais drafodaeth ddefnyddiol ynghylch cyfleu manteision yr UE gyda ‘thîm Cymru’ ym Mrwsel, gan gynnwys staff Swyddfa’r UE Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Addysg Uwch Cymru Brwsel.

Hefyd cefais gyfarfod gyda Chynrychiolaeth Barhaol y DU yn yr UE, lle mynegais bryder ynghylch yr oedi gan Lywodraeth y DU o ran cyflwyno Cytundeb Partneriaeth y DU ar ddarparu y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd i’r Comisiwn Ewropeaidd. Roedd y drafodaeth yn cadarnhau bod Pennod Cymru o’r Cytundeb Partneriaeth wedi cael ei derbyn yn dda a bod ein Rhaglenni Gweithredol manwl ar gyfer Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop yn symud ymlaen yn dda. Gall yr aelodau weld y fersiynau diweddaraf o’r dogfennau drafft allweddol hyn ar wefan WEFO yn:  http://wefo.wales.gov.uk/programmes/?lang=cy a http://wefo.wales.gov.uk/programmes/post2013/milestones/draftwelshukpa/?lang=cy

Yn olaf, cefais gyfarfod yng Nghyfarwyddiaeth Gyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Diwylliant, lle cadarnheais ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n ymwneud â rhaglen Erasmus +, a fydd, er enghraifft, yn eu galluogi i astudio neu wneud profiad gwaith yn un o wledydd eraill yr UE. Hefyd pwysleisiais bwysigrwydd Erasmus + o ran cefnogi mwy o brosiectau cyfrwng Cymraeg.

Fel rwyf i a’r Prif Weinidog wedi’i bwysleisio droeon, mae’r UE yn bwysig i Gymru oherwydd y cyfleoedd y mae’n eu cynnig i gynyddu masnach a mewnfuddsoddi, y rhaglenni cyllid sy’n buddsoddi mewn twf a swyddi, y cyfleoedd i astudio a gweithio yn Aelod-wladwriaethau eraill yr UE, a gwneud ymchwil ac arloesi ar y cyd.

Roedd fy ymweliad â Brwsel yn cadarnhau i’n partneriaid yn yr UE bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i’n haelodaeth o’r UE, a dangosais hefyd ein bod ni’n gallu dangos agwedd allblyg drwy drafod gyda phencadlys NATO cyn yr Uwchgynhadledd, gan ddiolch hefyd i’n ffrindiau sy’n ymwneud â choffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.