Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rhaglen Drawsffiniol Iwerddon/Cymru

Heddiw (11  Ebrill), mae Brendan Howlin TD, Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Iwerddon, ar ymweliad â Chymru i weld ei hun rai o lwyddiannau rhaglen Drawsffiniol Iwerddon/Cymru yr UE. Mae ei ymweliad hefyd yn nodi’n cyhoeddiad heddiw mai Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli rhaglen newydd Iwerddon/Cymru ar gyfer y cyfnod 2014–2020, buddsoddiad sydd werth oddeutu £75 miliwn (£66m drwy ERDF) yn y rhanbarth trawsffiniol. 
    
Cynulliad De a Dwyrain Iwerddon sy’n rheoli rhaglen Iwerddon/Cymru 2007–2013, sydd wedi cefnogi 41 o brosiectau cydweithredol gyda chefnogaeth o £41m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, sef cyfanswm buddsoddiad o £58m.

Bydd cyfrifoldeb am reoli’r rhaglen newydd yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau Iwerddon. Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) fydd yr Awdurdod Rheoli a bydd y rhaglen newydd yn sylfaen ar gyfer cydweithio a rhannu arfer gorau i fynd i’r afael â heriau a chyfleoedd economaidd a chymdeithasol cyffredin ynghylch arloesi, newid hinsawdd a datblygu cyfoeth naturiol a diwylliannol.

Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd cyfanswm gwerth y rhaglen yn cynyddu i oddeutu 92m o ewros (tua £75m). Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd y mae’r ddwy lywodraeth yn ei rhoi i gydweithredu fwyfwy ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Hefyd, dyma’r cynnydd mwyaf o ran canran mewn unrhyw un o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd y DU.

Caiff y dyraniadau ariannol terfynol ar gyfer y rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd newydd eu gosod ar lefel Aelod-wladwriaeth a bydd Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd yn eu cadarnhau dros yr wythnosau nesaf – yn amodol ar fabwysiadu’r ddeddf weithredu gan y Comisiwn Ewropeaidd, a ddisgwylir ddiwedd mis Ebrill.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar raglen newydd Iwerddon/Cymru o fis Mehefin cyn cyflwyno’r Rhaglenni Gweithredol i’r Comisiwn ganol mis Medi.


Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol 2014–2020

Rydym hefyd yn cyrraedd cam allweddol o ran ceisio cytundeb gan y Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â Rhaglenni newydd Cronfeydd Strwythurol 2014-2020 ar gyfer Cymru. Hoffwn roi gwybod i'r Aelodau am rai o'r cerrig milltir pwysig y byddwn yn eu cyrraedd yn ystod cyfnod y Pasg.

Mae gwaith ar ein Rhaglenni Gweithredol yn mynd rhagddo'n dda, yn sgil cael eu datblygu drwy ymgynghori'n agos â rhanddeiliaid ac â'r Comisiwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond nid ydym wedi gallu cyflwyno ein rhaglenni'n ffurfiol oherwydd oedi rheolaidd o ran cwblhau Cytundeb Partneriaeth y DU.

Mae'r Adolygiad Barnwrol diweddar gan Awdurdodau Lleol Sheffield a Glannau Mersi, a materion ynghylch cynnwys Pennod Lloegr wedi achosi'r oedi i Lywodraeth Cymru o ran cyflwyno'r Cytundeb Partneriaeth. Rwy'n deall y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiad yn fuan ar ei hadolygiad o ddyraniadau ariannol Cronfa Strwythurol yr UE ar draws y DU yng nghyd-destun ei Dyletswydd Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus, yn dilyn yr Adolygiad Barnwrol, a’i bod yn bwriadu cyflwyno’r Cytundeb Partneriaeth erbyn dyddiad terfyn rheoleiddio'r Comisiwn Ewropeaidd, sef 22 Ebrill 2014.

Bydd hynny'n garreg filltir bwysig a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno Rhaglenni Gweithredol Cymru yn ffurfiol a dechrau trafodaethau ffurfiol â'r Comisiwn. 
 
Yn y cyfamser, mae trafodaethau anffurfiol â'r Comisiwn am ein rhaglenni wedi bod ar y gweill ers sawl mis. Rwy'n falch o nodi bod y trafodaethau'n mynd rhagddynt yn dda iawn ac mae’n rhaid imi fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n holl bartneriaid sydd wedi helpu i lunio cynnwys a strwythur ein rhaglenni. Yr wythnos diwethaf (31 Mawrth) cyfarfûm â Johannes Hahn, y Comisiynydd Polisi Rhanbarthol, a oedd wedi cyflwyno Gwobr fawreddog RegioStars yr UE i Gymru ar gyfer prosiect bioburo BEACON. Bu'n rhoi canmoliaeth fawr am hynt gwaith ein rhaglenni newydd.

Yn y cyfamser, rydym yn parhau i helpu sefydliadau ar draws yr holl sectorau yng Nghymru i gynllunio a datblygu prosiectau. Rydym hefyd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithdai ac wedi cyhoeddi dogfennau allweddol, gan gynnwys Rhaglenni Gweithredol drafft a chanllawiau eraill.  

Yr wythnos diwethaf, yn dilyn gwaith pellach gyda phartneriaid i ddatblygu'r adrannau rhanbarthol ymhellach, cafodd fersiwn ddiweddaraf o'r Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd ei chyhoeddi hefyd (http://wefo.wales.gov.uk/applyingforfunding/funding2014-202/epf/?lang=cy). Bydd y Fframwaith yn llunio rhan annatod o broses WEFO o arfarnu prosiectau. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod mwy o ganolbwyntio, integreiddio a blaenoriaethu wrth ddefnyddio cronfeydd yr UE.

Rydym hefyd wedi pennu a chynnal cyfarfodydd cychwynnol Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Cysgodol ar gyfer Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014–2020 – y Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cysgodol cyntaf i gael ei sefydlu yn y DU – sydd eisoes wedi trafod, ac yn cefnogi 'mewn egwyddor', y fethodoleg a'r meini prawf yr ydym yn eu cynnig ar gyfer dewis gweithrediadau ar gyfer cronfeydd yr UE.

Byddaf yn parhau i hysbysu'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau pellach.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.