Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch fy ymweliad diweddar â Berlin. Prif ddiben fy ymweliad oedd agor yn swyddogol swyddfeydd newydd Llywodraeth Cymru yn Berlin a Dusseldorf. Mae swyddfa Berlin bellach yn weithredol, a bydd y swyddfa yn Dusseldorf yn cael ei staffio yn ystod yr wythnosau nesaf.  

Yr Almaen yw ffynhonnell fwyaf buddsoddiadau tramor Ewropeaidd uniongyrchol yng Nghymru, a hi yw'r farchnad fwyaf yn y byd ar gyfer allforion o Gymru. Roedd allforion o Gymru i'r Almaen yn 2017 yn werth £3.2bn, sef cynnydd o 8% ar werth ein hallforion i'r Almaen yn 2016.

Mae swyddfeydd newydd Llywodraeth Cymru yn Berlin a Dusseldorf yn anfon neges uchel a chlir at ein partneriaid yn Ewrop bod Cymru ar agor am fusnes, a'n bod ni'n benderfynol o weld ein perthynas fuddiol gyda'r UE yn parhau ar ôl Brexit.

Hefyd, cefais nifer o gyfarfodydd â chwmnïau a Gweinidogion yn yr Almaen, ac â’r  BDI (sy'n cyfateb i'r CBI). Brexit oedd prif destun yr holl drafodaethau hyn.

Cefais gyfarfod diddorol iawn â Phennaeth Polisi Diwydiannol ac Economaidd Volkswagen.  Mae'r diwydiant ceir yn yr Almaen yn bryderus iawn ynghylch Brexit, a'r ffaith nad oes dim byd yn glir eto. Ar hyn o bryd, mae'r cwmni'n gweithredu gan gadw'r holl scenarios possibl mewn golwg, ac mae'n credu ei fod yn bwysig rhoi rhywbeth ar bapur er mwyn gweld cysyniad o sut y bydd Brexit yn gweithio. Buom hefyd yn trafod y datblygiadau ym maes ceir trydan.

Cyn agor y swyddfa'n swyddogol, cyfarfûm  â Llysgennad Prydain, Sir Sebastian Wood, a roddodd rywfaint o wybodaeth ynghylch y sefyllfa wleidyddol bresennol yn yr Almaen, a'r pryderon ynghylch Brexit.  

Yn ogystal â chyfarfodydd gyda'r BDI a'r Gweinidog Gwladol dros Ewrop, cyfarfûm  â Monika von der Lippe, cydlynydd Cydraddoldeb/Cynrychiolydd Talaith Brandenburg. Buom yn trafod yr agenda gydraddoldeb a sut y mae talaith Brandenburg yn gweithio i gyflawni nod y wlad o sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ei bywyd cyhoeddus.

Drwy gryfhau presenoldeb Cymru yn yr Almaen, gallwn fynd ati i greu cyfleoedd masnach a buddsoddi newydd, adeiladu rhwydweithiau, a chodi proffil Cymru. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth inni wynebu dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Mae agor ein swyddfeydd newydd yn rhan o'r gwaith o ehangu gweithrediadau tramor Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu marchnadoedd sy'n bodoli eisoes, yn ogystal â mynd ati i greu cyfleoedd buddsoddi newydd a hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd.