Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf newydd fod ar ymweliad 6 diwrnod â Tsieina, a drefnwyd i gryfhau a datblygu cysylltiadau Llywodraeth Cymru â Llywodraethau Dinesig Beijing a Chongqing, ac i hybu buddiannau Cymru ym meysydd busnes, addysg a diwylliant.

Tsieina yw’r economi fwyaf ond un yn y byd ac mae’n dal i dyfu. Mae ei photensial yn aruthrol o ran masnach ac addysg yn enwedig, ac mae ysfa am fwy o gysylltiadau diwylliannol. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau ar lefel Llywodraethau Dinesig/Taleithiol er mwyn manteisio ar gyfleoedd busnes a chyfleoedd eraill. Ni ellir goramcanu rôl a dylanwad Llywodraeth yn Tsieina.

Cefais gyfarfod briffio â Llysgennad Prydain i Tsieina, â phennaeth Masnach a Buddsoddi y DU (Tsieina), ac â Chyfarwyddwr y Cyngor Prydeinig yn Tsieina i drafod cysylltiadau’r DU a Tsieina, cyfleoedd busnes a materion diwylliannol ac addysgol.

Gwnaeth Prif Weinidog Cymru lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Llywodraeth Ddinesig Beijing (sy’n cynrychioli poblogaeth o ryw 20 miliwn) yn ystod ei ymweliad â Tsieina yn Hydref 2011. Gwnaeth ein Hadran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Swyddfa Hybu Buddsoddi Llywodraeth Beijing ym Mehefin 2012, ac ers hynny rydym wedi croesawu 5 dirprwyaeth fusnes o Beijing yng Nghymru.  

Yn ystod fy ymweliad, gwnaeth fy Adran innau dros Dai, Adfywio a Threftadaeth lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Swyddfa Ddiwylliant Llywodraeth Beijing i annog mwy o gysylltiadau a chydweithio ym meysydd treftadaeth, celfyddyd a diwylliant, gan adeiladu ar ymgysylltu sydd eisoes wedi cychwyn, er enghraifft y daith lwyddiannus gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i Beijing yng Ngorffennaf y llynedd. Yn ogystal gwnaeth fy ymweliad hwyluso llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i sicrhau cydweithio rhwng Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Prifddinas Beijing, un o’r amgueddfeydd celfyddyd mwyaf nodedig yn Tsieina.

Gwneuthum gyfarfod â Mme Hou Yulan, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Llywodraeth Ddinesig Beijing, i drafod datblygiad y cysylltiad rhwng Cymru a Beijing a’r posibilrwydd o’i ddatblygu ymhellach. Rhoddais gyfweliad cynhwysfawr i’r cylchgrawn “Economi”, sy’n cael ei gyhoeddi gan y Cyngor Gwladol, gyda mwy na 250,000 o gopïau yn cael eu hanfon at ddarllenwyr dylanwadol gan gynnwys y Llywodraeth Ganolog a Gweinyddiaethau Gwladol, Llywodraethau Dinesig, a Mentrau sy’n Eiddo i’r Wladwriaeth.

Ar 1 Mawrth cynhaliais Dderbyniad Gŵyl Dewi i ryw 150 o bobl allweddol ym meysydd Llywodraeth, busnes, addysg a diwylliant, a theithiodd rhai yn bell iawn i fod yno. Roedd y mynychwyr hefyd yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Dewi Sant Beijing.

Ymwelais hefyd â’r Ddinas Waharddedig ac ardal hutongs (lonydd cul) Beijing, am fod y ddau le ymhlith safleoedd twristiaeth ddiwylliannol pwysicaf Beijing. Trefnwyd yr ymweliadau hynny gan Ffederasiwn Dinasoedd Twristiaeth y Byd, y mae Cymru newydd ddod yn aelod ohono.

Mae cysylltiad Cymru â Chongqing (Rhanbarth Dinesig o ryw 33 miliwn o bobl ac un o’r rhannau o Tsieina sy’n datblygu gyflymaf) wedi bod yn ffynnu ers llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyntaf yn 2006. Y cysylltiad hwn yw’r ehangaf a’r prysuraf rhwng unrhyw ran o’r DU a Tsieina.  

Yn Chongqing lansiais Wythnos Cymru yn swyddogol ac agorais arddangosfa Amgueddfa Cymru "Cymru – Gwlad y Ddraig Goch", a fydd yn para am bedwar mis yn Amgueddfa Tri Cheunant Tsieina. Cynhaliais Dderbyniad yn yr un lleoliad i ryw 200 o bobl allweddol ym meysydd Llywodraeth, busnes, addysg a diwylliant, gan gynnwys rhai a oedd wedi treulio 5 awr ar y ffordd i gael bod yno, sy’n dangos cryfder y cysylltiadau yr ydym wedi’u meithrin.  

Fe’m syfrdanwyd gan y proffil a’r enw da y mae Cymru wedi’u sefydlu yn y rhanbarth, a chan awydd cynifer o bobl i gydweithio â Chymru. Roedd seremoni agor Wythnos Cymru yn cynnwys llofnodi tri Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng:

  • Adran Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ddiwylliant Llywodraeth Ddinesig Chongqing i gydweithio ym meysydd celfyddyd, treftadaeth a diwylliant;
  • Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Masnach Dramor ac Economaidd Chongqing i gydweithio i nodi a datblygu cyfleoedd busnes;
  • Pump o Brifysgolion Cymru (Metropolitan Caerdydd, Casnewydd, Metropolitan Abertawe, Glyndŵr a Morgannwg) a chwmni dylunio creadigol sector preifat i sefydlu consortiwm masnachol yn seiliedig ar ddylunio.

Gwneuthum gyfarfod â Ms Tan Jialing, Is-Faer Llywodraeth Ddinesig Chongqing i drafod y cysylltiad rhwng Cymru a Chongqing a sut i’w ddatblygu ymhellach. Gyda mi yn y cyfarfod roedd staff Llywodraeth Cymru, Prif Gonswl Prydain, yr oeddwn eisoes wedi cael cyfarfod briffio ag ef, a Chyfarwyddwr y Cyngor Prydeinig yn Chongqing.

Cynhaliais ginio briffio gyda chyfranogwyr mewn taith fasnach gan Lywodraeth Cymru i Chongqing yn rhan o Wythnos Cymru. Mae’r adborth yn ei chylch wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma gyda mwy na’r disgwyl yn cael ei gyflawni mewn sawl achos.

Rhoddais anerchiad ar adfywio i gynulliad o ryw 65 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Astudiaethau Rhyngwladol Sichuan, ac fe’m synnwyd ar yr ochr orau gan eu diddordeb diffuant yn ein profiad o adfywio yng Nghymru.

Ymwelais a chefais drafodaethau â Chyfarwyddwr Gweithredol prosiect adfywio sector preifat sy’n gwario £3 biliwn i droi hen ddiwydiant trwm ac ardal breswyl anghyfannedd yn ddatblygiad preswyl, masnachol a hamdden cymysg, y mae ei faint yn syfrdanol. Lawn mor syfrdanol yw prosiect tai cymdeithasol yr ymwelais ag ef, sy’n datblygu 560,000 o unedau yn ninas Chongqing.

Ymwelais ag Amgueddfa Neuadd Tref Huguang Chongqing, ac Amgueddfa a Theatr Tŷ Opera Sichuan, y mae’r ddwy yn adlewyrchu traddodiadau diwylliannol ac ethnig cyfoethog y rhanbarth.

Gwneuthum gyfarfod â dirprwyaeth o Swyddfa Ddiwylliant talaith gyfagos Guizhou sy’n awyddus i ddatblygu cysylltiadau ehangach â Chymru. Byddant yn ymweld â Chymru cyn bo hir mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Cymru.

Agorais "Salon Twristiaeth" a oedd wedi’i drefnu gan staff Llywodraeth Cymru er mwyn i ryw 25 o weithredwyr cyfryngau teithio a thwristiaeth hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i’r niferoedd cynyddol o dwristiaid Tsieineaidd sy’n ymweld ag Ewrop.

Roedd fy ymweliad â Tsieina yn agoriad llygad mewn sawl ffordd. Mae’r ffordd y mae ein staff ar lawr gwlad wedi datblygu proffil ac enw da Cymru, drwy ein cysylltiadau â Llywodraethau, wedi gwneud argraff fawr arnaf. Cryfder y cysylltiadau hynny ar lefel y Llywodraeth sydd wedi galluogi Cymru ar y cyfan i osgoi cael ei thynnu i’r tensiynau sy’n amlwg ar lefel genedlaethol rhwng y DU a Tsieina.  

Rwyf wedi fy narbwyllo o’r cyfleoedd sydd ar gael ym meysydd busnes, addysg a diwylliant, ac o’r angen i ymgysylltu’n rhagweithiol er mwyn manteisio arnynt. Rwy’n credu bod fy ymweliad wedi cyfrannu’n gadarnhaol at yr ymgysylltu hwnnw.