Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Yr wythnos ddiwethaf (7 - 11 Mawrth) bûm ar ymweliad ag Unol Daleithiau America fel rhan o ddathliad byd-eang Llywodraeth Cymru o Ddydd Gŵyl Dewi. Treuliais amser yn Washington DC ac yn Efrog Newydd, a ffocws yr ymweliad oedd busnes, twristiaeth a hyrwyddo Cymru. Yn ystod fy ymweliad cefais gefnogaeth ragorol gan Lysgenhadaeth Prydain yn Washington, Swyddfa Conswl Prydain yn Efrog Newydd, UKTI ac, wrth gwrs, staff Llywodraeth Cymru ei hunan ar lawr gwlad.
Yn Washington cyfarfûm â nifer o fuddsoddwyr a phartneriaid masnach pwysig, a chynhaliais dderbyniad yn y Llysgenhadaeth ar gyfer rhwydwaith ehangach o westeion dylanwadol. Mae rhai o’r rhain eisoes yn buddsoddi’n sylweddol yng Nghymru, tra bod eraill yn cynnig rhagolygon pwysig ar gyfer y dyfodol. Fy neges iddyn nhw yw bod Cymru’n lle bendigedig ar gyfer cynnal busnes; mae ganddi weithlu medrus, cysylltiadau agos rhwng diwydiant ac addysg, mae o fewn cyrraedd rhwydd i Lundain, ond mae ganddi fantais gorbenion is, a mynediad i farchnad Ewrop - bloc masnachu integredig mwyaf y byd. Hefyd, pwysleisiais sefydlogrwydd Cymru fel rhan annatod o’r Deyrnas Unedig. Mae Cymru wedi bod yn bartner pwysig i fuddsoddiad yn yr Unol Daleithiau ers blynyddoedd lawer. Mae’r berthynas hon wedi dwyn ffrwyth o bob cyfeiriad ac rwyf o’r farn y bydd yr Unol Daleithiau’n parhau i fod yn bartner masnachu pwysig inni am flynyddoedd lawer i ddod.
Mewn cyfarfod busnes dros frecwast yn Efrog Newydd tynnais sylw at ein dull ni o arloesedd yn yr economi. Roeddwn yn falch iawn o gael cefnogaeth Syr Terry Matthews yn y digwyddiad hwn. Gyda grym ei brofiad unigryw ef, cymeradwyodd Gymru fel lleoliad gwych ar gyfer busnes. Pwysleisiais i’r ffaith fod datganoli pwerau a bychander daearyddol Cymru yn ein rhoi ni fel llywodraeth mewn safle unigryw i weithio’n gyflym ac yn hyblyg gyda busnesau er mwyn cefnogi eu hanghenion. Roeddwn yn falch hefyd, fod cynrychiolwyr o Brifysgol Bangor yn Efrog Newydd yn croesawu eu cyn-fyfyrwyr ac yn datblygu eu cysylltiadau academaidd.
Yn Efrog Newydd cyfarfûm â chwmnïau twristiaeth oedd â phrofiad o drefnu teithiau rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru er mwyn clywed adborth ganddyn nhw ar sut rydym yn derbyn ymwelwyr a sut y gallwn anelu at wella ein perfformiad. Roedd hyn yn werthfawr iawn. Cytunwyd bod Cymru’n lleoliad gwych ar gyfer gwyliau unigol o hedfan a gyrru, ond ei bod yn wynebu rhai cyfyngiadau o ran seilwaith ar gyfer marchnad twristiaid mewn grwpiau mwy o faint. Mae’r ffyrdd yn ardaloedd poblog De a Gogledd Cymru yn ddigonol - ac yn addas i fysiau – ac mae yno ddewis hyfyw o westai. Mae rhannau o Ganolbarth Cymru’n wynebu cyfyngiadau fel cyrchfan i grwpiau o ymwelwyr yn bennaf oherwydd prinder gwestai addas. Mae’r swm sy’n cael ei wario fesul noson gan ymwelydd o America yn sylweddol uwch na’r ymwelydd cyffredin a bydd angen inni weithio ar y diffyg cyfleusterau mewn ardaloedd lle mae’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol. Yn ôl y cwmnïau twristiaeth, Llundain ac Iwerddon yw’r prif gyrchfannau i niferoedd mawr o dwristiaid yr Unol Daleithiau, a rhan bwysig o’r cyfle i Gymru yw datblygu cynnig deniadol ar gyfer pontio rhwng y ddau le.
Efallai ei bod yn werth cofnodi i’r Aelodau enghraifft ddiddorol o ymchwil i’r farchnad. Wrth deithio ar y llong i Ynys Staten daeth gwraig atom yn ddirybudd - roedd wedi’n gweld ni’n gwisgo’n bathodynnau Cymreig - a dweud ei bod yn arwain grŵp o gerddwyr yn flynyddol ar eu gwyliau ar hyd y llwybrau arfordirol o gwmpas Tŷ Ddewi. Canmolodd yr ardal am ei harddwch eithriadol a’r croeso gwresog i’w pharti Americanaidd bob amser. Cefais fy nghalonogi gan hyn. Mae twristiaeth yn rhan bwysig iawn o’n heconomi ac mae gennym lwyfan cadarn i adeiladu arno.
Mae cysylltiadau Cymru â’r Unol Daleithiau’n dyddio nôl i adeg sefydlu’r Uniad. Cefais y fraint o fod yn westai anrhydeddus yng nghinio blynyddol 177fed Cymdeithas Dewi Sant yn nhalaith Efrog Newydd. Mae’r cysylltiadau’n parhau i ffynnu heddiw ac mae’n hiaith a’n diwylliant yn ychwanegu dimensiwn pwysig i’n hôl-troed ni. Cefais y fraint o fynd i berfformiad yn Broadway lle’r oedd Mathew Rhys yn serennu; roedd Bryn Terfel - a oedd yn perfformio yn y Met - yn eistedd yn fy ymyl. Bûm mewn dangosiad arbennig o’r ffilm “Solomon a Gaenor”, a gafodd ei henwebu am Oscar, yn Amgueddfa Treftadaeth Iddewig Efrog Newydd. Mae’n amlwg fod Cymru’n dal i rannu ei thalent greadigol ar y lefel uchaf â’r Unol Daleithiau a thu hwnt. Ar yr un pryd, cyfarfûm â llawer o Gymry eraill, sy’n cyfrannu i fywyd ar bob ochr i Fôr Iwerydd ym myd busnes, y gyfraith, materion cyhoeddus a’r diwydiannau creadigol.
Erys yr Unol Daleithiau’n bartner pwysig i Gymr, ac er gwaethaf y gwahaniaeth aruthrol o ran maint, rwy’n bendant o’r farn bod gennym rywbeth unigryw ac arwyddocaol i’w gynnig. Mewn byd cystadleuol tu hwnt, mae’n rhaid i ni yng Nghymru ddwysau ein hymdrechion i gryfhau ein henw da ac i ddod o hyd i bartneriaid busnes newydd. Rwy’n gwerthfawrogi perthynas Cymru ag Unol Daleithiau America a bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu i gynnal a datblygu proffil Cymru yn America a phopeth sydd gennym i’w gynnig.