Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AC, Gweinidof y Gymraeg a Chysyll Tiadau Rhyngwladol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymwelais â Düsseldorf rhwng 5 a 6 Medi i ymgymryd â rhaglen lawn o ddigwyddiadau. Hwn oedd fy ymweliad cyntaf â'r Almaen fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Diben fy ymweliad oedd agor swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn Düsseldorf ac i hyrwyddo cryfderau masnachol Cymru ym maes technoleg a seiberddiogelwch. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i ddangos bod Cymru yn wlad agored, flaengar a chreadigol sy'n arwain y ffordd o ran cynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Yn ogystal â hyn, roedd yn gyfle i gyfarfod â chysylltiadau allweddol ym maes twristiaeth er mwyn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan.

Yr Almaen yw ein partner economaidd pwysicaf yn Ewrop. Dyma brif gyrchfan allforio Cymru – gyda gwerth allforion Cymru yn £3.1 biliwn yn 2018. Amcangyfrifir bod gan 90 o gwmnïau Almaenig bresenoldeb yng Nghymru, gan gyflogi ychydig o dan 12,000 o bobl.

Mae Cymru yn wlad Ewropeaidd falch ac roedd fy mhrif neges ar gyfer yr ymweliad yn glir – ein bod yn edrych ymlaen at feithrin ein perthynas economaidd, ddiwylliannol a gwleidyddol â'r Almaen yn y dyfodol, ac na fyddwn yn gadael i beth bynnag a ddaw yn sgil Brexit niweidio ein perthynas gadarn â'r Almaen.

Cefais gyfarfod â Phrif Gonswl Prydain yn Düsseldorf i drafod sut y gall swyddogion Llywodraeth Cymru a'r Adran Masnachu Rhyngwladol gydweithio'n agosach i gefnogi ac annog rhagor o gwmnïau o Gymru i allforio i'r Almaen, yn ogystal â sicrhau bod cwmnïau o'r Almaen yn mewnfuddsoddi mwy yng Nghymru. Roedd y ddau ohonom yn falch bod y ddwy wlad yn awyddus i gydweithio i gryfhau'r cysylltiadau masnach rhwng Cymru a'r Almaen.

I wireddu'r nod hwn sy'n gyffredin rhwng y ddwy wlad, cynhaliodd y Prif Gonswl a minnau ginio gyda'r nos ar gyfer arweinwyr busnes a llywodraeth o ddinas Düsseldorf a gweddill Talaith Gogledd y Rhein-Westffalia. Roedd hwn yn gyfle i hyrwyddo cynnig ac uchelgais economaidd Cymru i bobl ddylanwadol. Roedd y cinio hefyd yn gyfle imi gael gwell dealltwriaeth o safbwynt yr Almaen ar Brexit a sut mae'r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth bolisi Brexit 'heb gytundeb' Llywodraeth y DU yn effeithio ar benderfyniadau buddsoddi a wneir gan fusnesau yn yr Almaen. Roedd yn amlwg bod gan yr arweinwyr busnes allweddol hyn ddiddordeb yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn annog Prif Weinidog y DU i newid cyfeiriad.

Ddydd Gwener, 6 Medi, cynhaliais Frecwast Technoleg, lle y bu i mi annerch busnesau allweddol yn y sector technoleg. Yn y digwyddiad hwn, eglurais sut y mae Cymru yn datblygu cryfderau penodol, yn enwedig yn y sector technoleg.

Agorais yn ffurfiol swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn Düsseldorf, gan amlinellu pwysigrwydd cynnal ein cysylltiadau â'r Almaen. Roedd ein partneriaid lleol yn falch iawn o glywed ein bod yn awyddus i feithrin cysylltiadau ar draws pob maes.

Hefyd, cynhaliais ginio â chynrychiolwyr masnach teithio a chyfryngau'r Almaen, gan ganolbwyntio ar faes Twristiaeth. Y nod oedd hyrwyddo Cymru fel cyrchfan a chyfleu negeseuon cadarnhaol mewn perthynas â thwristiaeth yng nghyd-destun Brexit.

Cefais gyfarfod yng Ngweinyddiaeth yr Economi, Arloesi, Digideiddio ac Ynni Talaith Gogledd y Rhein-Westffalia i rannu sut rydym yn defnyddio ein deddfwriaeth flaengar ar ddatblygu cynaliadwy a'r amgylchedd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i drafod heriau cyffredin a meysydd ar gyfer cydweithio â Thalaith Gogledd y Rhein-Westffalia.

Wrth imi ddychwelyd i Gymru, roedd yn amlwg bod ein cysylltiadau busnes a llywodraethol yn Ninas Düsseldorf a Thalaith Gogledd y Rhein-Westffalia yn gryfach nag erioed, a bod awydd cryf yn yr Almaen i weithio gyda Chymru i gyfyngu ar y niwed a achosir gan ansicrwydd Brexit.