Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol i mi ymweld â Washington, Philadelphia, Efrog Newydd a Montréal yr wythnos ddiwethaf, er mwyn adeiladu ar sawl perthynas a sefydlwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a rhoi hwb i gysylltiadau masnach a buddsoddi rhwng Cymru a Gogledd America.
Treuliais ddiwrnod yn Washington, gan gyfarfod Llysgennad Iwerddon, Daniel Mulhall i drafod perthynas Iwerddon â'r Unol Daleithiau yn ogystal â Brexit. Yn ystod ymweliad â Llysgenhadaeth De Affrica, cyhoeddodd Llysgennad De Affrica a minnau y newyddion da y bydd tîm rygbi Cymru yn chwarae yn erbyn De Affrica ar 2 Mehefin yn Washington. Mae llu o gefnogwyr gan Gymru a'r Springboks ar draws y byd, ac fe fydd y gêm yn helpu i godi proffil rygbi yn America.
Cefais gyfle hefyd i gyfarfod y cwmni ynni Valero, ac yn dilyn hynny cyhoeddodd y cwmni brosiect gwerth £127 miliwn a fydd yn creu Uned Cydgynhyrchu Gwres a Phŵer Cyfunedig ym Mhurfa Valero ym Mhenfro. Dyma bleidlais enfawr o hyder yn economi de-orllewin Cymru.
Roedd cynrychiolwyr o gwmni cyfreithiol Eversheds, Caerdydd hefyd yn yr Unol Daleithiau i ddangos sut mae eu partneriaeth gyda'r cwmni Sutherland Asbill & Brennan LLP i ffurfio Eversheds Sutherland wedi cryfhau eu presenoldeb yn yr Unol Daleithiau. Cynhaliodd y cwmni ginio i Gymdeithas Busnes Prydain America, ac roedd nifer o gynrychiolwyr busnes yr Unol Daleithiau yn bresennol.
Yn ddiweddarach cefais gyfarfod nifer o Aelodau'r Gyngres, ac roeddwn hefyd yn bresennol yn y derbyniad Gŵyl Dewi ar Capitol Hill yng nghwmni Cawcws Cyfeillion Cymru.
Dydd Mawrth teithiais i Philadelphia, lle cefais gyfarfod â chynrychiolwyr cwmni Purolite sydd â chyfleuster yn Llantrisant, a'r cwmni gwyddorau bywyd PCI sydd â 3 safle yng Nghymru.
Yna teithiais i Efrog Newydd i gael cyfarfod â Thomson Reuters, sydd â phresenoldeb yn Wrecsam.
Gyda'r hwyr cynhaliais dderbyniad i ddathlu Gŵyl Dewi ac i hyrwyddo Blwyddyn y Môr.
Dydd Mercher, cymerais ran mewn trafodaeth o amgylch y bwrdd gyda nifer o brif bobl busnes yr Unol Daleithiau, gan drafod heriau entrepreneuriaeth, arloesi a thechnoleg yn y Deyrnas Unedig ac yn yr Unol Daleithiau, a'r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y diwydiannau hynny.
Ar ôl hynny, cefais gyfle i siarad yn y Cenhedloedd Unedig i dynnu sylw at ymrwymiad Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, mewn cysylltiad â Chomisiwn ar Statws Menywod arfaethedig y Cenhedloedd Unedig. Cadeiriwyd y sesiwn gan Ei Hardderchogrwydd y Llysgennad Ruth Andreyeva, Llysgennad Datblygu a Hawliau Dynol Cenhadaeth y Deyrnas Unedig i'r Cenhedloedd Unedig. Hefyd ar y panel roedd La-Chun Lindsay o GE, yr Athro Emma Renold o Brifysgol Caerdydd a Dr Purna Sen o UN Women on Gender Equality.
Y noson honno cefais gyfarfod Hillary Rodham Clinton, gan gyhoeddi prosiect cydweithredol rhwng yr Ysgrifennydd Clinton, Prifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru i weithio dros hawliau plant a cheisio cryfhau cysylltiadau rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.
Yn dilyn hynny cafwyd cinio i gefnogi prosiect Prifysgol Abertawe i ddigideiddio holl waith Dylan Thomas, gan olygu bod y cyfan ar gael yn Abertawe am y tro cyntaf.
Dydd Iau, teithiais i Montréal i fod yn bresennol mewn nifer o gyfarfodydd gyda busnesau a chynrychiolwyr Llywodraeth Québec. Cefais gyfarfod â Phrif Weithredwr CGI, sydd wedi buddsoddi’n sylweddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Er mwyn trafod cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng Cymru a Québec, cefais gyfarfod â'r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Ms Christine St-Pierre ac fe ymunodd Pennaeth Québec, Philippe Couillard â'r drafodaeth dros y ffôn. Y noson honno roeddwn yn bresennol mewn derbyniad Gŵyl Dewi gyda Chynghrair Busnes Prydain Québec.
Ar ddiwrnod olaf fy ymweliad cefais gyfarfod â Maer Montréal, Valérie Plante ac yna ymwelais â Phrifysgol McGill, lle cefais gyfarfod â Phennaeth Cyswllt y Brifysgol i drafod cryfhau cysylltiadau addysgol â sefydliadau Cymru. Yn dilyn hynny cefais ymweld ag Athrofa Niwrolegol Montréal, lle cynhelir astudiaethau arloesol ar yr ymennydd dynol - ac mae'r labordy'n cael ei redeg gan yr Athro Alan Evans, gŵr o Ganada sydd o dras Cymreig. Ar hyn o bryd mae bron i 300 o fyfyrwyr o Ganada yn astudio mewn Prifysgolion yng Nghymru, ac mae gan Gymru gysylltiadau cryf eisoes â Phrifysgolion Canada. Yn eu plith mae trefniant cyfnewid Prifysgol Aberystwyth â Phrifysgol McGill, Montréal a phrosiect Horizon 2020 rhwng Ysgol Gwyddorau'r Ddaear Prifysgol Caerdydd ac Université Laval ym Montréal.
Yn ystod fy ymweliad â Montréal, agorwyd swyddfa Llywodraeth Cymru yn swyddogol gan roi canolfan barhaol i ni er mwyn cryfhau ein presenoldeb yng Nghanada. Mae hyn yn dangos y camau cadarnhaol a rhagweithiol rydyn ni'n eu cymryd i gynyddu ein presenoldeb mewn marchnadoedd byd-eang pwysig, a chynyddu masnach a mewnfuddsoddiad. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol newydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.