Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru
Yn ystod y toriad, bûm i ar ymweliad â Washington ac Efrog Newydd i hybu swyddi, buddsoddiad a thwristiaeth. USA yw’r buddsoddwr unigol mwyaf yng Nghymru ac mae degau o filoedd o weithwyr yn dibynnu ar oddeutu 300 o gwmnïau Americanaidd sy’n buddsoddi yma ar hyn o bryd. UDA hefyd yw’r farchnad unigol fwyaf ar gyfer nwyddau a gwasanaethau o Gymru. Mae cysylltiadau Cymru ac America yn dyddio nôl i’r cyfnod cyn geni UDA, ac mae’r cysylltiadau hynny yn parhau hyd heddiw drwy fasnach, diwylliant, addysg a thwristiaeth.
Yn Washington, ar y cyd â’r Cyngreswr Morgan Griffith, lansiais Gawcws Cyfeillion Cymru ar Fryn y Capitol, cartref deddfwrfa UDA. Caiff y Cawcws ei gadeirio gan y Cyngreswr Griffith, sydd â’i deulu’n hanu o Ogledd-orllewin Cymru, ac mae eisoes wedi denu mwy na dwsin o aelodau. Bydd yn cynnig llwyfan ar gyfer codi proffil Cymru yn Washington a meithrin ein buddiannau yn UDA. Rwy’n ddiolchgar i’r Cyngreswr Griffith am ei ymrwymiad a’i gyfeillgarwch parhaus â Chymru.
Cefais gyfarfodydd dwyochrog â nifer o gwmnïau yn y sector awyr ac amddiffyn. Mae’r rhain yn cynnwys Lockheed Martin, Airbus, BAe a Raytheon. Trafodwyd materion a chynlluniau buddsoddi cyfredol a phosibl. Roedd y cwmnïau hynny sydd eisoes yn buddsoddi yng Nghymru yn ffafriol iawn am weithlu Cymru, gan danlinellu pwysigrwydd eu perthynas gref â’r Llywodraeth. Roedd yn arbennig o galonogol i glywed am y pwyslais cryf maen nhw’n ei roi ar y berthynas gyda’r sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach lleol.
I nodi Dydd Gŵyl Dewi yn Washington, cynhaliais dderbyniad ochr yn ochr â Llysgennad ei Mawrhydi, Syr Peter Westmacott, a defnyddiais y cyfle i gyflwyno i gynulleidfa eang y manteision sydd gan Gymru fel lle i fuddsoddi, gweithio ac astudio, ac fel gwlad i ymweld â hi.
Roedd yn fraint gen i osod torch wrth Fedd y Milwr Dienw ym Mynwent Genedlaethol Arlington. Roedd yn bleser gennyf ymgymryd â’r ddyletswydd hon gyda’r Uwchgapten Ed Hill o’r Gwarchodlu Cymreig, sy’n gwasanaethu yn UDA ar hyn o bryd.
Yn Efrog Newydd, cefais gyfarfod gyda DTCC/ Avox, sy’n cyflogi 220 o bobl yn Wrecsam, i drafod cynlluniau buddsoddi’r cwmni. Mae Avox yn darparu gwasanaethau byd-eang i gefnogi cadernid data ar gyfer trafodion bancio rhyngwladol, rhan o sector gwasanaethau ariannol cynyddol Cymru. Cytunwyd y bydd trafodaethau’n parhau ar fuddsoddiad pellach posibl mewn swyddi yn Wrecsam.
Yn dilyn cyfarfod gydag uwch swyddogion yng Nghyfnewidfa Stoc Efrog Newydd, cefais y fraint o ganu’r gloch i ddechrau’r busnes ar y llawr masnachu. Roedd y Gyfnewidfa Stoc wedi’i haddurno â deunydd brandio Cymru i nodi’r ymweliad. Roeddwn i’n arbennig o falch o gal agor y masnachu yn y Gyfnewidfa Stoc – mae’n denu cyhoeddusrwydd yn y gymuned gyllid fyd-eang nad oes modd ei fesur yn ariannol. Mae hefyd yn datgan bod Cymru’n rhan o’r gymuned ariannol fyd-eang a bod Wall St, calon yr economi fyd-eang, yn cydnabod hyn.
Mae cysylltiad adnabyddus rhwng Dylan Thomas ac Efrog Newydd, a lansiais y rhan Americanaidd o’r dathliadau canmlwyddiant. Mae hyn yn cynnwys ap a baratowyd i dywys teithiau o amgylch amryw leoliadau yn Efrog Newydd sy’n gysylltiedig â’r bardd. Cynhaliais dderbyniad i westeion o’r meysydd busnes a diwylliant oedd yn cynnwys y perfformiad cyntaf o ddarn o gerddoriaeth a gyfansoddwyd i ddathlu bywyd Dylan, a chwaraewyd gan y cyn Delynores Frenhinol Claire Jones. Roedd yn bleser mawr gennyf gwrdd â Hannah Elis, wyres Dylan, sydd wedi chwarae rhan fawr iawn o ran helpu i hyrwyddo’r canmlwyddiant.
Mae perthynas Cymru ac UDA yn gref ac yn amlochrog. O safbwynt busnes, mae UDA yn allweddol bwysig i’n heconomi a byddwn yn parhau i roi’r flaenoriaeth uchaf i’r wlad honno. Mae llawer o Gymry wedi cyfrannu at fywyd Americanaidd mewn amryw ffyrdd, ac mae hynny yr un mor wir am y genhedlaeth bresennol ac yn y dyfodol. Mae gan Gymru lawer i’w gynnig i’r Unol Daleithiau o hyd a byddaf yn bachu pob cyfle posibl i hybu’r berthynas hollbwysig hon.