Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Teithiais i’r Unol Daleithiau wythnos ddiwethaf i hyrwyddo Cymru fel lle i fuddsoddi ynddo, i ymweld ag ef ac i gynnal busnes ynddo. Roedd fy rhaglen yn cynnwys ymweld â Washington DC, Pennsylvania ac Efrog Newydd.
Yn Washington, cyd-gynhaliais gyfarfod o Gawcws Ffrindiau Cymru i ddod ag amrywiaeth o aelodau’r Gyngres, busnesau a diplomyddion ynghyd. Cafodd y Cawcws ei lansio’r llynedd ac mae’n prysur dyfu’n llwyfan i godi proffil Cymru ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau, canolfan bwysig i fusnesau hedfan ac amddiffyn.
Yn Berwyn, Pennsylvania, roedd yn dda gen i gyhoeddi prosiect ehangu gwerth miliynau o bunnau gan y Triumph Group fyddai’n creu 60 o swyddi crefftus yn y diwydiant awyrofod yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy. Bydd Triumph yn cyflenwi cydrannau gêr glanio ar gyfer awyrennau A380 ac A320 cwmni Airbus, gan hybu bri rhyngwladol y Gogledd fel canolfan o ragoriaeth yn y diwydiant awyrofod. (Cafodd Berwyn ei enw ym 1877 pan gynigiodd un o’r gwladychwyr o Gymru yr enw ar ôl Mynydd y Berwyn yn Nyffryn Dyfrdwy, Meirionnydd).
Yn Neuadd Dinas Philadelphia, cefais gwrdd â’r Dirprwy Faer dros Ddatblygu Economaidd, Mr Alan Greenberger, a chynhaliais dderbyniad ar y cyd â Chyngor Busnes Prydain America Greater Philadelphia. Defnyddiais enghraifft Triumph ac achlysur Dydd Gŵyl Ddewi i hyrwyddo Cymru fel partner busnes.
Yn Ninas Efrog Newydd, cefais y fraint o ganu’r Gloch Olaf yng Nghyfnewidfa Stoc Efrog Newydd fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Ddewi. Nid pob arweinydd gwlad sy’n cael y fraint hon ac mae’n dangos y graddau rydyn ni’n cydweithio â phartneriaid busnes blaenllaw o Gymru yn America i chwyddo’n proffil. Hedfanai’r Ddraig Goch yn falch uwchben Wall Street gan wneud ein gwlad yn amlwg yng nghanol prifddinas masnach a busnes y byd. Cynhaliais dderbyniad ar wahân hefyd ar gyfer y gymuned Dechnoleg yng nghanol ardal arloesi ac uwch-dechnoleg Efrog Newydd. Mae’n dda iawn cael nodi bod pobl fusnes o Gymru yn yr Unol Daleithiau yn barod iawn i weithio gyda ni i’n helpu i hyrwyddo Cymru fel lle ar gyfer busnesau a buddsoddi, ac mae hynny wedi dod â manteision mawr inni.
Mae bron 300 o gwmnïau o America yn buddsoddi yng Nghymru sy’n golygu mai’r Unol Daleithiau yw’r wlad dramor sy’n buddsoddi fwyaf yng Nghymru. Gyda’i gilydd, mae’r cwmnïau hyn yn cyflogi 50,000 o bobl. Roedd gwerth allforion o Gymru i UDA yn fwy na £3 biliwn yn 2013, cynnydd o 400% yn y 15 mlynedd diwethaf.
Roedd ymweliad yr Arlywydd Obama â Chymru y llynedd yn symbolig. Dydy’r berthynas rhwng ein dwy wlad erioed wedi bod yn well ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu’n hymdrechion i gynnal y llif busnes a masnach, i’r ddau gyfeiriad, ar draws Cefnfor Iwerydd.