Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf, ymwelais â Madrid a Galicia i gyfarfod a darpar fuddsoddwyr ac i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Llywodraeth Galicia.

Ym Madrid, cyfarfûm â Llysgennad y Deyrnas Unedig cyn cyfarfod hefyd â Llywydd ac uwch-dîm prif fuddsoddwr arfaethedig. Roedd ein cyfarfod yn cynnwys taith o amgylch eu cyfleuster gweithgynhyrchu a chanolbwyntiais, yn fy nhrafodaethau, ar fanteision dewis Cymru fel lle i fuddsoddi ynddo.

Yn ystod yr ymweliad â Galicia, rhoddais gyfweliad i deledu cyhoeddus Galicia, TVG, cyn cyfarfod â chynrychiolwyr o gwmni Televés, sy'n torri tir newydd yn ei faes. Cwmni TGCh ydyw, ac mae'n cynllunio, datblygu a gweithgynhyrchu'r offer ar gyfer dosbarthu gwasanaethau telegyfathrebu. Mae Televés eisoes yn gweithredu yng Nghymru ac roedd ein trafodaethau yn canolbwyntio ar yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig a sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi'r cwmni gyda'i gynlluniau yn y dyfodol. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, cefais daith o amgylch eu cyfleusterau gweithgynhyrchu sydd o'r radd flaenaf.

Ymwelais hefyd â'r Sefydliad Kærtor sy'n fenter fyd-eang mewn arloesi agored i ddod o hyd i gyffuriau newydd. Athrawon ym Mhrifysgol Santiago de Compostela sy'n arwain y Sefydliad ac mae'n enghraifft dda o'r cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a phreifat sy'n gwella canlyniadau iechyd i gleifion. Mae ymchwil, arloesi a thechnoleg yn allweddol i lwyddiant y sector gwyddorau bywyd ac rydym yn edrych ymlaen at ymchwilio i'r cyfleoedd posibl ar gyfer cydweithio â'r Sefydliad.

Cyfarfod â D. Alberto Núñez Feijóo, Llywydd Llywodraeth Galicia, a llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng ein Llywodraethau, oedd fy ymrwymiad swyddogol olaf yn Santiago de Compostela. Canolbwyntiodd ein trafodaethau ar Brexit a'r posibilrwydd o gydweithio ar draws meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin.

Mae gan Gymru berthynas dda â Galicia eisoes ac rydym yn cydweithio ar draws Rhwydweithiau Ewropeaidd ac ym meysydd polisi ieithyddol, iechyd, y celfyddydau a diwylliant. Mae rhaglenni cyfnewid myfyrwyr ar waith gennym ac mae'r Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru yn cael ei chynnal gan Brifysgol Bangor. Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cadarnhau ac yn ymestyn y cysylltiadau presennol hyn ac yn ymchwilio i bosibiliadau newydd ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.

Roedd yr ymweliad yn gyfle i roi mwy o gyhoeddusrwydd i Gymru fel lleoliad ar gyfer mewnfuddsoddi ac i'r pecynnau cymorth wedi'u teilwra y gallwn eu cynnig. Mae'n dangos ein gweledigaeth, ein dymuniad a'n hymrwymiad i feithrin cysylltiadau dwyochrog cadarn yn Ewrop gan baratoi ar gyfer ymadawiad y DU o'r UE. Dylai gwneud hynny fod yn flaenoriaeth i Gymru, ac rwy'n falch o weld bod ein hymrwymiad rhyngwladol cadarn wedi codi ein proffil fel partner rhyngwladol.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod yr aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os hoffai'r aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.