Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hysbysais yr Aelodau ym mis Rhagfyr y llynedd fy mod yn bwriadu cynyddu am yr ail dro faint o gyfalaf y gall person mewn gofal preswyl ei gadw heb orfod ei ddefnyddio i dalu am eu gofal. Gallaf gadarnhau'r cynnydd hwn bellach.

O ddydd Llun 9 Ebrill ymlaen bydd y terfyn cyfalaf a ddefnyddir mewn awdurdod lleol sy'n codi tâl am ofal preswyl yn codi o £30,000 i £40,000, gan ganiatáu i breswylwyr gadw £10,000 pellach o'r cynilion y maent wedi gweithio'n galed i'w cronni a chyfalaf arall i'w ddefnyddio fel y mynnont.

Mae hwn yn gam nesaf cadarnhaol i'w groesawu wrth fynd ati i roi chwe Ymrwymiad Symud Cymru Ymlaen ymlaen i gynyddu'r terfyn cyfalaf i £50,000 erbyn diwedd y Cynulliad hwn.  Diben y terfyn hwn yw pennu a fydd unigolyn yn talu am gost lawn ei ofal preswyl ei hun, neu a fydd yn cael cymorth ariannol tuag at y gost honno gan ei awdurdod lleol. Y terfyn cyfalaf yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU.  

Pan gynyddwyd y terfyn hwn gyntaf yn Ebrill y llynedd o £24,000 i £30,000, amcangyfrifwyd bod hyd at 4,000 o breswylwyr cartrefi gofal yn talu cost lawn eu gofal. Rwyf yn falch o ddweud bod rhyw 450 o breswylwyr cartrefi gofal wedi elwa ar y cynnydd hwn yn hanner cyntaf 2017-18 yn unig, ac yn ôl y rhagolygon bydd cynnydd cyson yn y nifer hwn yn ail hanner eleni. Mae'r sefyllfa hon yn galondid imi felly penderfynais ei bod yn bryd cyflwyno ail gynnydd i'r terfyn.

I gefnogi'r gwaith gweithredu y llynedd darparwyd cyllid cylchol o £4.5 miliwn trwy setliad llywodraeth leol. Ar gyfer yr ail gynnydd hwn rydym yn darparu cyllid cylchol pellach ar ben hyn o £7 miliwn trwy setliad llywodraeth leol ar gyfer 2018-19. Buom yn monitro, a byddwn yn parhau i fonitro effaith y codiadau hyn nid yn unig i fod yn ymwybodol o'u manteision i breswylwyr cartrefi gofal, ond hefyd i sicrhau bod y cyllid yr ydym yn ei ddarparu'n dal yn briodol.

Hoffwn achub y cyfle hwn hefyd i ddweud wrthych fy mod yn codi'r uchafswm tâl y caiff awdurdodau lleol ei godi ar gyfer gofal cartref a gofal a chymorth amhreswyl arall, a hynny o 9 Ebrill. Bydd hyn yn codi o £70 i £80 yr wythnos. Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i gael uchafswm tâl wythnosol o £100 yr wythnos erbyn diwedd y Cynulliad hwn.  

Mae'r ddarpariaeth hon yn sicrhau na ellir codi tâl ar berson sy'n fwy na'r uchafswm hwn ar gyfer yr holl ofal y mae arno ei angen. Mae'r cynnydd hwn yn codi incwm ychwanegol ar gyfer yr awdurdodau lleol i helpu i sicrhau bod lefel ac ansawdd gofal amhreswyl yn cael eu cadw ac nad yw'n effeithio ond ar dderbynwyr gofal â lefelau uchel o incwm neu gyfalaf.  Bydd y rhai sydd ar incwm isel yn parhau i dalu tâl isel neu ddim tâl o gwbl.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.