Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r ymosodiadau diweddar ar ein diffoddwyr tân, yn arbennig dros benwythnos Noson Guto Ffowc. Trwy drugaredd ni chafodd neb ei anafu; ond mae unrhyw ymosodiadau o'r fath yn gyfan gwbl annerbyniol. Rwyf yn ymuno â’r  Awdurdodau Tân ac Achub (FRA) a’r Heddlu wrth gondemnio’r rhai sy'n gyfrifol am yr ymosodiadau hyn.

Mae rhai o'r ymosodiadau hyn yn digwydd pan fydd diffoddwyr tân yn ymateb i alwadau brys. Maent yn atal diffoddwyr tân rhag ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ddigwyddiadau sy'n bygwth bywyd yn aml ac yn peryglu cymunedau a bywydau diffoddwyr tân. Mae diffoddwyr tân yn chwarae rôl hollbwysig o ran lleihau risg yn ein cymunedau ac ymateb i argyfyngau. Nid argyfyngau sy'n gysylltiedig â thân yn unig yw’r rhain; yn aml iawn diffoddwyr tân yw’r cyntaf i gyrraedd digwyddiadau difrifol, megis  trawiad ar y galon, gwaedu difrifol neu dagu. Byddant yn gweithio i gynnal bywyd nes i barafeddyg gyrraedd; mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol i wella siawns y claf o oroesi. Gall rhwystro eu gwaith yn yr achosion hyn fod yn angheuol. Dylai pobl sy'n atal diffoddwyr tân rhag cyflawni eu dyletswyddau fod yn ymwybodol nid yn unig o’r gost i fywyd, ond gall olygu hefyd ddirwy o hyd at £5,000 - gyda chosbau pellach a mwy llym os caiff anafiadau i ddiffoddwyr tân eu hachosi.

Mae ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân, boed llafar neu gorfforol, yn anghyfrifol, yn beryglus ac yn drosedd. Roeddwn yn falch o glywed bod rhai troseddwyr diweddar yn ardal De Cymru wedi cael eu harestio a bod yr Heddlu wedi delio â hwy’n briodol. Mae FRA De Cymru hefyd yn cydweithio'n agos â’r Heddlu i ddarparu tystiolaeth CCTV i ddod o hyd i droseddwyr pellach.

Rydym ni a’n partneriaid yn monitro nifer a natur yr ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân. Yn 2009-10 rhoddwyd gwybod am 64 o ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân. Gostyngodd hyn i 20 yn 2015-16, gostyngiad o ddwy ran o dair. Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant FRAs ledled Cymru yn eu gwaith ledled Cymru i leihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynnau tanau yn fwriadol a galwadau ffug. Serch hynny, mae un digwyddiad yn ormod, felly mae'n hanfodol bod gwaith yn parhau i gwtogi ymhellach ar y digwyddiadau hyn.

Mae nifer o fentrau a ddatblygwyd gan FRAs yng Nghymru wedi helpu i leihau ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân dros y blynyddoedd. Mae'r rhain yn cynnwys gosod CCTV ar offer tân. Mae hyn, yn ogystal â gwell cydweithredu rhwng yr FRAs, yr Heddlu ac eraill, wedi sicrhau bod llawer o’r troseddwyr yn dod o flaen eu gwell.

Rydym hefyd yn ariannu FRAs i ddatblygu a darparu rhaglenni ymyrraeth ieuenctid pwrpasol  sy'n anelu at leihau gosod tanau yn fwriadol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Un rhaglen o'r fath yn Phoenix, sydd wedi'i hanelu at bobl ifanc 13-17 sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o wneud hynny. Mae'n ymdrin â materion  amrywiol o hunan-barch isel a diffyg hyder i ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau’n ymwneud â thân, megis cynnau tanau'n fwriadol a galwadau ffug. Wrth wneud hynny, mae'n defnyddio diffoddwyr tân fel modelau rôl – gan feithrin parch atynt hwy ac i eraill. Mae'n llwyddiannus iawn, gyda chyfradd aildroseddu o lai na 5 y cant. Rwyf yn bwriadu mynychu cwrs Phoenix yn y dyfodol agos i weld y gwaith da y mae’n ei wneud.

Rwyf yn siŵr y bydd yr Aelodau’n condemnio gweithredoedd o'r fath sy’n rhoi ein gwasanaethau brys mewn perygl, ond sydd hefyd yn peri’r risg o anaf neu waeth i bobl yn ein cymunedau.