Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dydd Gwener daeth adroddiadau bod ymosodiad seiber byd-eang yn amharu ar filoedd o sefydliadau a diwydiannau mewn dros 150 o wledydd. Cafodd peiriannau eu heintio â meddalwedd wystlo, gan amgryptio ffeiliau cyfrifiadurol a hawlio pridwerth am eu rhyddhau.  Er nad yw cymhelliad yr ymosodiad yn glir, mae'n destun ymchwiliad troseddol.

Roedd cryn dipyn o gyhoeddusrwydd am effaith yr ymosodiad seiber hwn ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr a'r Alban. Nid yw'r meddalwedd wystlo wedi effeithio ar systemau'r Gwasanaeth Iechyd yma yng Nghymru, yn rhannol yn sgil yr amddiffynfeydd cadarn sydd eisoes yn eu lle.

Er mwyn parhau i amddiffyn GIG Cymru rhag unrhyw ymyrraeth, gosodwyd amryw o fesurau diogelwch ychwanegol. Roedd rhain yn cynnwys rhwystro pob e-bost allanol a anfonwyd at GIG Cymru dros dro, a gosod patsys gwrthfeirysau newydd ar systemau cenedlaethol a lleol. Disgwylir i'r gwaith hwn gael ei gwblhau heddiw.

Lle bynnag y canfuwyd meddalwedd wystlo, cymerwyd camau unioni ar unwaith i atal y feirws rhag lledu. O ganlyniad, ni chafodd unrhyw ddata am gleifion eu peryglu na'u colli.

Nid oes unrhyw adroddiadau bod y digwyddiad wedi effeithio ar ofal i gleifion. Fodd bynnag, er mwyn caniatáu Ysbyty Felindre i osod patsys rhagofalus ar eu systemau, aildrefnwyd apwyntiadau radiotherapi carfan fach o gleifion (cyfanswm o 40) o ddydd Llun i ddydd Mawrth.

Ar draws y sector cyhoeddus ehangach mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyrff Llywodraeth Leol ac ysgolion, wedi cadarnhau na chafwyd unrhyw adroddiadau am achosion ac na chanfuwyd unrhyw faleiswedd weithredol ar eu systemau. Fel mesur rhagofalus, aed ati i osod patsys ar fyrder, yn unol ag arferion gorau'r diwydiant. Rydym wedi ysgrifennu at yr holl Awdurdodau Lleol yn gofyn iddynt roi manylion am unrhyw faterion a ganfuwyd, ynghyd â’r mesurau lliniaru sy’n cael eu gosod ganddynt.

Mae Rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, sy'n cysylltu'r rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, hefyd wedi cadarnhau na chafodd ei effeithio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyngor ac arweiniad i bob Corff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ac wedi gofyn iddynt dynnu sylw at unrhyw beth amheus.  

Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa a chymryd camau lle gwelir unrhyw beryglon, gan gynnwys gweithio gyda COBR, pwyllgor ymateb i argyfwng Llywodraeth y DU.

Hoffwn ddiolch i bob un o'r timau TG ar draws GIG Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach a fu'n gweithio'n ddiflino drwy'r penwythnos i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus.