Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei “Chynllun Ffliw Tymhorol” blynyddol cyntaf. Nod y cynllun hwn yw lleihau effaith y ffliw ar y boblogaeth yng Ngymru, drwy:

• gydgysylltu camau gweithredu yn genedlaethol, a chefnogi gwaith ar draws yr holl Fyrddau Iechyd;
• codi ymwybyddiaeth o’r peryglon a achosir gan y ffliw; 
• ceisio sicrhau bod mwy o bobl yn y grwpiau “mewn perygl” yn cael eu brechu; 
• brechu’r rhai hynny sy’n cynnig gofal uniongyrchol i bobl sy’n agored i niwed.

Yn unol ag amcanion y Cynllun, cyfarfûm yn ddiweddar â chyrff proffesiynol a sefydliadau perthnasol eraill sy’n ymwneud â chyflwyno ymgyrch y ffliw tymhorol. Gwnaethpwyd hyn er mwyn sicrhau bod trefniadau ar waith i gefnogi’r broses o gyflawni targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfanswm o bobl a gaiff eu brechu rhag y ffliw.

Am y tro cyntaf y tymor hwn, rydym wedi galluogi fferyllfeydd cymunedol i gymryd rhan yn yr ymgyrch. Bydd dros 130 o fferyllfeydd ledled Cymru yn cynnig brechiad rhag y ffliw am ddim  i bobl gymwys. Targedir yr ardaloedd hynny sydd â’r nifer lleiaf o bobl sy’n cael eu brechu. Y bwriad yw cynnig mwy o gyfleoedd i bobl mewn perygl, fel ei bod yn fwy cyfleus iddynt allu cael eu brechu.

Mae cynllun ar gyfer y cyfryngau wedi’i roi ar waith er mwyn codi ymwybyddiaeth o effeithiau’r ffliw. Rwy’n falch ein bod wedi cael nawdd teledu ar gyfer rhagolygon y tywydd ar ITV a Sgorio ar S4C am ddau fis, sy’n cyd-fynd â dechrau’r tymor. Yn ychwanegol, ceir negeseuon ar y radio a negeseuon cymunedol, gweithgareddau digidol / ar y we, a hysbysebion ar rwydwaith y bysiau, ynghyd â thaflenni a phosteri rhad ac am ddim. Mae pob Bwrdd Iechyd yn gallu hawlio hyd at £3,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithgareddau cyhoeddusrwydd lleol hefyd.

Mae’n bwysig bod cyflogwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod pwysigrwydd cynnig brechiadau rhag y ffliw i ddiogelu staff eu hunain, yn ogystal â’u cleientiaid sy’n agored i niwed. Mewn ymateb i geisiadau gan y Byrddau Iechyd, rydym yn darparu arian ychwanegol, fel bod modd i fwy o adnoddau fynd tuag at frechu gweithwyr gofal iechyd. Rwy’n disgwyl i’r Byrddau Iechyd ddefnyddio’r arian hwn yn effeithiol, er mwyn sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael eu  brechu y tymor hwn.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu cyflenwad wrth gefn o frechlyn y ffliw. Mae cyfran o’r cyflenwad hwnnw eisoes wedi’i rhyddhau i feddygfeydd mewn ymateb i brinder a achoswyd gan fethiant cynhyrchwr brechlynnau i gyflenwi ei archebion. Mae hyn wedi galluogi’r cleifion sydd mewn perygl yn y meddygfeydd hynny i gael eu brechu ar yr adeg iawn, yn unol â’r bwriad.

Mae’r camau hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu brechu rhag y ffliw, ac i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed rhag effeithiau’r ffliw, sy’n gallu rhoi bywydau pobl yn y fantol.