Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cefais wybod ym mis Hydref 2012 fod Estyn, ar ôl cynnal arolygiad o dan Adran 28 o Ddeddf Addysg 2005, o’r farn bod angen mesurau arbennig ar Ysgol Uwchradd Llanrhymni.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adran 19 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i gyfarwyddo awdurdod lleol i gau ysgol y mae arni angen mesurau arbennig.

Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at yr awdurdod lleol i’w hysbysu fy mod yn ystyried defnyddio’r pŵer hwnnw i’w gyfarwyddo i gau Ysgol Uwchradd Llanrhymni ym mis Awst 2013. Rwyf wedi gofyn i’r awdurdod ymateb i’r cynnig hwn gan amlinellu’n fanwl a yw’n teimlo a fyddai’n gallu cau’r ysgol yn effeithiol o fewn yr amserlen hon.

Mae’n fwriad gan yr awdurdod gau Ysgol Uwchradd Llanrhymni ac Ysgol Uwchradd Rhymni, sydd gerllaw, a sefydlu ysgol newydd o fis Medi 2014 ymlaen. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2013/14, mae’r awdurdod yn bwriadu symud yr holl ddisgyblion o Lanrhymni i safle Ysgol Uwchradd Rhymni fel y bo’r ddwy ysgol yn cael ei rhedeg ar yr un safle.

Er fy mod yn cydnabod bod yr awdurdod, yn yr achos hwn, yn cymryd camau cadarnhaol i gau ysgol sy’n methu, rwyf yn pryderu bod yr amserlen ar gyfer ei chau erbyn mis Awst 2014 yn rhy hir, ac nad yw’n sicrhau y bydd Llanrhymni yn cael ei chau yn ddigon cyflym.

Mae safon yr addysg sy’n cael ei darparu ar hyn o bryd gan Lanrhymni yn anfoddhaol, ac mae nifer y disgyblion sydd ar y gofrestr yn gostwng.  Mae rhagolygon yr ysgol o ran gwella yn anfoddhaol ym marn Estyn, gan godi cwestiynau ynghylch gallu yr ysgol i wella safonau isel.  Yn fy marn i, ac rwyf am edrych ar hyn yn ystod y broses ymgynghori, byddai cau Llanrhymni yn gynt o fudd i’w disgyblion.  I’r awdurdod, byddai cael un ysgol i’w gwella yn ei roi mewn sefyllfa well i gefnogi a datblygu gwelliannau.    

Rwyf felly yn fyr ddechrau cyfnod ymgynghori o bedair wythnos, gyda’r bwriad o roi cyfarwyddyd i’r awdurdod i gau Ysgol Uwchradd Llanrhymni o fis Awst 2013, gan ganiatáu i fyfyrwyr gael eu hintegreiddio’n llwyr o fewn Ysgol Uwchradd Rhymni o fis Medi.  

Fe fyddaf wrth gwrs yn rhoi’r newyddion diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad unwaith y byddaf wedi ystyried ymatebion yr ymgynghoriad.