Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Wrth ddisgrifio fy ngweledigaeth ar gyfer Creu Dyfodol Cadarnach a Mwy Ffyniannus yn Natganiad yr Hydref 2013, roeddwn yn nodi’r angen i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau allweddol, sef twf gwyrdd, defnyddio adnoddau’n effeithlon, gwella cydnerthedd ac amrywiaeth, a threchu tlodi. Bydd rhaglen Glastir yn allweddol i gyflawni’r blaenoriaethau hyn a sicrhau ffyniant a chadernid amaethyddiaeth, coedwigaeth a’r economi wledig ehangach. Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 22 Gorffennaf 2013 dywedais y byddai angen newid Glastir i wneud yn fawr o’r cyfleoedd a gynigir gan y Rhaglen Datblygu Gwledig nesaf. Rwyf wedi cynnal trafodaethau eang gyda’r diwydiant, cymunedau amaethyddol, elusennau a chyrff eraill ledled Cymru wrth baratoi’r cynigion yr wyf yn eu rhyddhau heddiw. Maen nhw’n amlinellu dyfodol amaeth-amgylchedd yng Nghymru ac yn gosod gweledigaeth am ddefnydd mwy cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol.

Roedd adroddiad y llynedd ar Sefyllfa Byd Natur yn pwysleisio’r dirywiad sy’n digwydd yn amrywiaeth ein hamgylchedd naturiol. Mae’r targedau a osodwyd gan Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr wedi agosáu hefyd a bydd angen cymryd camau gweithredu sylweddol os ydym i gyrraedd y targedau hyn. Ar yr un pryd, mae’n hollbwysig ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio ein hadnoddau naturiol er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau allweddol, sef creu swyddi a thwf a threchu tlodi drwy ddulliau rheoli mwy deallus a chydlynol. Mae’r tywydd gwael eithriadol a gafwyd yn ddiweddar a’i effeithiau ar gymunedau mewn rhannau o Gymru wedi pwysleisio pa mor agored i niwed ydym hefyd, ac yn dangos bod llawer i’w wneud eto os ydym i ymateb yn effeithiol i’r newid yn yr hinsawdd - un o’r heriau hirdymor mwyaf a wynebwn yng Nghymru.  Cost ddynol ac ariannol peidio ag ymateb i fygythiad y newid yn yr hinsawdd  ddylai fod yn ein sbarduno ni i sicrhau ein bod yn gofalu am ei hamgylchedd.

Mae’r unigolion a sefydliadau sy’n rheoli ein  coedwigoedd a’n ffermydd ym mhlith y mwyaf dibynnol ar ein hadnoddau naturiol. Os yw eu busnesau nhw i lwyddo a gwneud elw, mae’n rhaid cael ecosystemau iach sy’n gweithio’n iawn. Calonogol yw gweld felly bod cynifer o reolwyr tir wedi ymuno â Glastir bellach, yn enwedig ers imi gynnal fy ymarfer pwyso a mesur.
Serch hynny, rwy’n benderfynol o ddenu rheolwyr tir i ymuno’n gyflymach â phob elfen o Glastir, ac rwyf o’r farn y bydd y newidiadau a gynigir yn yr ymgynghoriad yn hwyluso hyn drwy symleiddio’r rheolau mynediad a thrwy leihau’r cymhlethdod o baratoi a chyflwyno ceisiadau. O dan y cynllun newydd bydd ffermwyr yn gallu gwneud cais uniongyrchol i ymuno â Glastir - Uwch heb ymuno â’r cynllun Sylfaenol. O dan y rhaglen newydd, bydd Glastir ar gael ar-lein yn unig hefyd, er mwyn lleihau’r gwaith papur a symleiddio’r broses ymgeisio. Rwyf hefyd yn cynnig symleiddio’r cynlluniau Sylfaenol ac Uwch er mwyn gallu cyflawni ein hamcanion craidd yn well.

Yn fy natganiad yr wythnos ddiwethaf am weithredu’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, fe ddywedais yn glir fy mod yn credu bod gan ffermwyr rhostiroedd Cymru ran bwysig i’w chwarae i sicrhau dyfodol cadarn a chynaliadwy i Gymru. Yn arbennig, rwy’n credu y dylid cydnabod hyn drwy ein cynigion Colofn 2 ar gyfer y CDG nesaf. Mae Glastir yn gynllun pwysig iawn ar gyfer cyflawni hyn ac mae’r newidiadau a gynigir yn adlewyrchu hynny. Maen nhw’n cynnwys rhoi blaenoriaeth i’r elfen Rhostir o fewn y cynllun Uwch. Drwy hyn, bydd modd  i unig borwyr ar Rostir gael contract Glastir Uwch. Mae hyn yn ategu’r penderfyniad a wnes y llynedd i ddod â phob tir Comin i mewn i’r cynllun Uwch. Gall yr ardaloedd hyn elwa’n fawr o ymuno â chynlluniau amaeth-amgylcheddol ac rwyf yn benderfynol bod pob ffermwyr rhostir yn cael y cyfle. Bydd y  newidiadau eraill i Glastir a gynigir yn yr ymgynghoriad yn sicrhau bod trefn bori gynaliadwy ac amrywiol yn dal i fod yn bwysig wrth reoli ucheldir.

Yn sgil fy nghyhoeddiad am daliadau uniongyrchol i ffermwyr, rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion edrych ar y ffordd y gallwn gynnig cymorth grant cyfalaf ar gyfer gwelliannau i fusnesau ffermio drwy Golofn 2 drwy gyfuno grantiau cyfalaf cynlluniau presennol megis Grantiau Effeithlonrwydd Glastir a’r Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid i greu un cynllun a fydd yn annog cynhyrchu cynaliadwy ar draws y diwydiant. O ganlyniad bydd yr ymgynghoriad yn cynnig sefydlu grant sengl ar gyfer Cynhyrchu Cynaliadwy. Bydd pob ffermwr yn cael gwneud cais am y grant hwn, a bydd yn help i gyflawni’r agenda foderneiddio - sy’n hanfodol os yw amaethyddiaeth Cymru i addasu i ymdopi â’r gostyngiad anorfod mewn cymorthdaliadau uniongyrchol dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y cynllun grant yn cynnig cymorth i brynu cyfleusterau trin anifeiliaid, trosglwyddo i dyfu glaswellt ag ynddo lawer o siwgr, gwella geneteg da byw a seilwaith a pheirianwaith sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon. Bydd ffermwyr ifanc yn parhau i gael cyfradd uchel o gymorth. Rwy’n ystyried y cynllun grantiau hwn yn bwysig iawn ar gyfer cyflawni fy ngweledigaeth o drawsnewid amaethyddiaeth Cymru i wynebu dyfodol cynaliadwy, cadarnach a mwy hunangynhaliol sy’n llai dibynnol ar gymhorthdal cyhoeddus.

Rhaid i’r rheolwyr tir sy’n manteisio ar y buddsoddiad hwn feddu ar y sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol os yw’r diwydiant amaeth i gyflawni’r canlyniadau pendant yr wyf i am eu gweld. Mae’r holl dystiolaeth yn dangos ei bod yn hollbwysig cael y sgiliau cywir i reoli busnes cynaliadwy a chyflawni’n effeithiol er lles yr amgylchedd. Bydd cyngor a hyfforddiant yn elfen hanfodol o’r CDG nesaf felly. Rwy’n cynnig ehangu’r cyfle ar gyfer gweithio’n gydweithredol o fewn Glastir i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol drwy roi cymorth ariannol a rhagor o gyswllt â swyddogion datblygu i hwyluso cydweithio. Cydweithio â ffermwyr eraill yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddysgu sgiliau newydd, ond yn ogystal â chefnogi’r agenda honno bydd hyn yn sicrhau gweithredu pendant ar lawr gwlad i wireddu ein hamcanion o ran diogelu a chryfhau busnesau a’r amgylchedd.

Mae creu coetir yn flaenoriaeth allweddol o hyd, i gwrdd â’n targedau ni o ran y newid yn yr hinsawdd ac i helpu i addasu i effeithiau amgylcheddol megis llifogydd cynyddol. Mor niferus yw’r enillion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o blannu coetir fel fy mod yn cynnig cynyddu’r dyraniad o gyllideb y CDG a neilltuir i hyn o dan y Cynllun nesaf. Rwyf hefyd yn cynnig gweithredu i leihau’r amser prosesu ceisiadau ac i ysgogi rhagor o ddiddordeb. Drwy gynllun Rheoli Coetir Glastir, hoffwn weld mwy o’r coetiroedd presennol yn dod yn gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn economaidd, ac yn cael eu defnyddio’n gynaliadwy er lles pobl Cymru. Rhoddir cymorth i reolwyr coetiroedd ymateb i fygythiadau clefydau coed hefyd. 

Rwyf hefyd wedi gwrando’n astud ar ffermwyr pan ddywedon nhw yr hoffent wneud gwaith da i’r amgylchedd ond nad oeddent o anghenraid am ymuno â chynllun amaeth-amgylcheddol fferm-gyfan. Felly yn 2015 rwy’n cynnig lansio cynllun grantiau bach newydd a chynllun rhwydwaith cynefinoedd ar gyfer rhannau o ffermydd. Byddwn yn cynnwys y bwriad i gyflwyno’r cynlluniau hyn yn y CDG a gyflwynir i’r Comisiwn Ewropeaidd yn nes ymlaen eleni.

Bydd y cynigion hyn yn sicrhau bod ffyniant yn y dyfodol wrth galon ein polisïau gwledig ac yn cynnig gobaith gwirioneddol am ddyfodol gwyrddach, cadarnach a mwy cynaliadwy.

Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a bydd ar agor tan 28 Mawrth 2014.