Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Heddiw rwy’n cyhoeddi ymgynghoriad technegol byr ar y newidiadau arfaethedig i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2020.
Nod y rheoliadau diwygiedig yw mynd i’r afael ag achosion o gamddefnyddio’r system rhyddhad ardrethi ar eiddo gwag drwy newid cydbwysedd y cymhellion ariannol i osgoi talu ardrethi, gan ei gwneud yn llai deniadol i drethdalwyr anonest gamddefnyddio’r cynllun. Dyma’r cam diweddaraf yn ein gwaith i fynd i’r afael â thwyll ac osgoi talu o fewn y system ardrethu annomestig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r mwyafrif llethol o fusnesau Cymru sy’n gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb wrth drefnu eu materion treth leol. Ni all fod yn deg bod ymdrechion y mwyafrif llethol i gydymffurfio â’r rheolau a thalu eu dyledion yn cael eu tanseilio gan leiafrif bach sy’n benderfynol o fanteisio ar y system neu ei chamddefnyddio.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 12 Tachwedd 2020. Mae’n gofyn am farn o natur dechnegol ynghylch y gwaith o ddrafftio’r ddeddfwriaeth a’i chymhwysiad ymarferol a chyfreithiol. Yn ystod tymor yr haf 2018, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o fesurau i fynd i’r afael â thwyll neu achosion o osgoi talu ardrethi, gan gynnwys opsiynau i leihau’r achosion o gamddefnyddio ein cynlluniau rhyddhad. Ystyriwyd yr ymatebion hynny yn ofalus a chyhoeddwyd ein bwriad ym mis Hydref 2018: Datganiad Ysgrifenedig - Mynd i'r afael â thwyll ac osgoi talu ardrethi annomestig yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad ar gael yn: Rhyddhad ardrethi eiddo gwag.